Cyfraniad oes i hanes Cymru yn cael ei gydnabod gyda Doethuriaeth Anrhydeddus i Catrin Stevens
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi dyfarnu Gradd Doethuriaeth Anrhydeddus i Catrin Stevens i gydnabod ei chyfraniad rhagorol i hanes, addysg, ymchwil a bywyd cymunedol Cymru.
Dyfarnwyd y radd anrhydeddus yn ystod seremonïau graddio’r Brifysgol, gan ddathlu ymrwymiad gydol oes Catrin i hyrwyddo dealltwriaeth o hanes a threftadaeth Cymru, a’i chyfraniad eithriadol i fywyd diwylliannol ac addysgol Cymru.
Yn hanesydd, awdur, ymchwilydd ac arweinydd cymunedol nodedig, mae Catrin Stevens wedi ymroi ei gyrfa i ddyfnhau gwybodaeth am hanes Cymru a’i gwneud yn hygyrch i gynulleidfaoedd o bob oed a chefndir. Mae hi’n cael ei chydnabod yn genedlaethol am ei gwaith arloesol ym maes hanes menywod Cymru, astudiaethau llên gwerin Cymru, a hyrwyddo hanes Cymru trwy addysg, cyhoeddi ac ymgysylltu â’r cyhoedd.
Ganwyd Catrin yn Llanon, Ceredigion, ac astudiodd y Gymraeg a Hanes Cymru ym Mhrifysgol Bangor, gan raddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf cyn cwblhau gradd Meistr trwy ymchwil a Diploma mewn Addysg. Er iddi gael ei haddysgu mewn sawl sefydliad ym Mhrifysgol Cymru, daeth ei gyrfa broffesiynol yn gysylltiedig yn agos â Choleg y Drindod Caerfyrddin, lle datblygodd o Ddarlithydd ac Uwch Ddarlithydd i Bennaeth y Dyniaethau ac yn ddiweddarach Pennaeth Ysgol Hanes a Hanes Cymru.
Drwy gydol ei gyrfa academaidd, ysbrydolodd Catrin genedlaethau o fyfyrwyr i ddatblygu gwerthfawrogiad dyfnach o hanes a hunaniaeth Cymru. Mae ei hysgolheictod wedi cyfuno trylwyredd academaidd ag ymrwymiad i rannu gwybodaeth y tu hwnt i’r sector prifysgol, gan sicrhau bod hanes Cymru yn cyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac amrywiol.
Cyn ymuno â Choleg y Drindod Caerfyrddin, bu Catrin yn dysgu Cymraeg ac yn cynnal ymchwil arloesol i ddiwydiant llechi Sir Benfro, gan arwain nifer o brosiectau treftadaeth lleol. Sefydlodd ei gwaith dilynol gydag Amgueddfa Werin Cymru hi fel awdurdod blaenllaw ar arferion a thraddodiadau Cymru. Helpodd ei chyhoeddiadau dylanwadol ar draddodiadau cylch bywyd ac arferion carwriaeth i gadw a dehongli agweddau pwysig ar dreftadaeth ddiwylliannol Cymru, gyda’i llyfr Welsh Courting Customs yn cael ei ystyried yn eang fel gwaith nodedig yn y maes.
Mae cyfraniad Catrin at ddatblygiad hanes menywod Cymru wedi bod yn arbennig o arwyddocaol. Drwy ei hymchwil arloesol i hanes llafar a’i rôl fel aelod sefydlol o Archif Menywod Cymru, mae hi wedi helpu i drawsnewid dealltwriaeth o brofiadau, cyflawniadau a lleisiau menywod drwy gydol hanes Cymru.
Dros nifer o flynyddoedd, mae hi wedi sicrhau cyllid ar gyfer ac wedi arwain prosiectau ymchwil mawr sydd wedi ehangu gwybodaeth am hanes menywod yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys Sioeau Teithiol Hanes Menywod Cymru, Lleisiau o Lawr y Ffatri, Menywod yn y Rhyfel Byd Cyntaf, Canrif o Obaith, Gosod y Record yn Syth: Menywod yng Ngwleidyddiaeth Cymru, ac yn fwyaf diweddar Menywod mewn Chwaraeon: Cymru.
Mae ei gwaith hefyd wedi bod yn allweddol wrth goffáu canmlwyddiant Deiseb Heddwch Menywod Cymru 1923–24, gan helpu i ddatgelu a dogfennu straeon y cannoedd o fenywod a gasglodd bron i 400,000 o lofnodion i gefnogi heddwch byd-eang. Drwy ymchwil fanwl ac ymgysylltu â’r cyhoedd, mae hi wedi sicrhau bod y bennod nodedig hon o hanes Cymru wedi ennill y gydnabyddiaeth y mae’n ei haeddu.
Ochr yn ochr â’i chyflawniadau academaidd, mae Catrin wedi gwneud cyfraniad eithriadol i fywyd dinesig a chymunedol yng Nghymru. Mae hi wedi gwasanaethu fel Cadeirydd Mudiad Meithrin, Cadeirydd Merched y Wawr, Cadeirydd Gwobrau Treftadaeth Ysgolion Cymru, ac wedi ymgymryd â nifer o rolau arweinyddiaeth mewn sefydliadau sy’n ymroddedig i hyrwyddo’r iaith, diwylliant, treftadaeth ac addysg Cymru.
Yn awdur toreithiog o fwy na 100 o gyhoeddiadau, gan gynnwys gweithiau ysgolheigaidd, adnoddau addysgol, a llyfrau i blant a phobl ifanc, mae Catrin wedi chwarae rhan bwysig wrth ddod â hanes Cymru i gynulleidfaoedd ehangach a sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn deall ac yn gwerthfawrogi eu treftadaeth.
Cyflwynwyd y radd er anrhydedd gan Dr Lowri Lloyd.
Wrth gyflwyno, dywedodd Dr Lloyd:
“Pleser a braint y bore ’ma yw cael cyflwyno Catrin Stevens, rhywun sydd wedi dod â hanes yn fyw i gymaint o bobl, i dderbyn Doethur mewn Llên o’r Brifysgol hon.
Fel darlithydd ifanc yn y Brifysgol hon, roedd cael Catrin yn fentor personol pan gefais fy mhenodi yma yn fraint. Proffesiynoldeb, diwydrwydd, cadernid tawel, ymroddiad a gofal am ei myfyrwyr a’i chydweithwyr yw rhai o’r egwyddorion a welais yn uniongyrchol.
Byddai hefyd yn gamgymeriad i mi beidio â sôn am y ffaith bod Catrin wedi cyhoeddi dros gant o gyhoeddiadau ysgolheigaidd, uchel eu parch. Yn olaf, a gallwn fynd ymlaen, mae hefyd yn amhosibl dod â’r cyflwyniad hwn i ben heb sôn am gyfraniad aruthrol Catrin at waith dathlu Canrif Deiseb Heddwch Menywod Cymru (1923-24).
Yn gryno, yn fy marn i, mae Catrin yn un o haneswyr pwysicaf hanes Cymru - yn hanes Cymru, ac mae’n fraint ei chyflwyno i hyn, neu yn hytrach, i’w Phrifysgol heddiw.”
Mae graddau er anrhydedd ymhlith yr anrhydeddau uchaf a ddyfernir gan Y Drindod Dewi Sant ac maent yn cydnabod unigolion y mae eu cyflawniadau wedi gwneud cyfraniad eithriadol i gymdeithas, ysgolheictod, diwylliant, neu fywyd cyhoeddus.
Trwy ei hysgolheictod, ei harweinyddiaeth, ei gwasanaeth cyhoeddus a’i heiriolaeth ddiflino dros hanes a diwylliant Cymru, mae Catrin Stevens wedi trawsnewid dealltwriaeth o orffennol Cymru ac wedi ysbrydoli cenedlaethau i ymgysylltu â’u treftadaeth, ei chadw a’i dathlu. Mae ei gwaith wedi gadael gwaddol parhaol i ysgolheictod hanesyddol a bywyd cyhoeddus Cymru.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076