Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau Llenyddol Cronfa Dreftadaeth Y Werin
Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn falch o gyhoeddi enillwyr gwobrau Cronfa Dreftadaeth Y Werin am gyfraniadau ysgolheigaidd nodedig. Caiff y gwobrau eu beirniadu gan y Ganolfan a beirniaid annibynnol ym meysydd llenyddiaeth a chyfraith Hywel.
Cyflwynir Gwobr Hywel Dda 2024 i’r Parchedig Athro Thomas Glyn Watkin, KC (hon), FLSW, am ei gyfraniad oes i’r maes ac am ailgyhoeddi Pamffledi Cyfraith Hywel: Pamphlets on Welsh Law (Aberystwyth: Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru, 2024). Yn frodor o Gwm-parc yng Nghwm Rhondda, cafodd Thomas Glyn Watkin ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn, Y Porth, ac yng Ngholeg Pembroke, Rhydychen. Cafodd ei alw i’r Bar gan y Deml Ganol yn 1976. O 1975 ymlaen, bu’n darlithio yn Ysgol y Gyfraith Caerdydd, gan ddod yn Athro’r Gyfraith yn 2001. Yn 2004, cafodd ei benodi’n Athro a phennaeth cyntaf yr ysgol gyfraith newydd ym Mangor, cyn dychwelyd i Gaerdydd yn 2007 fel Prif Gwnsler Deddfwriaethol Cymru, eto y cyntaf i ddal y swydd. Ac yntau bellach wedi ymddeol, mae’n parhau i fod yn weithgar fel cyfarwyddwr llenyddol Cymdeithas Hanes Cyfraith Cymru, aelod o Gyngor Cymdeithas Selden, aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Comisiwn y Gyfraith dros Gymru, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru a meinciwr academaidd yn y Deml Ganol. Mae’n briod ac yn dad i un ferch, a hefyd yn offeiriad digyflog yn yr Eglwys yng Nghymru. Cafodd ei greu’n Gwnsler y Frenhines (bellach Cwnsler y Brenin) er anrhydedd yn 2019. Cyhoeddwyd ei lyfr The Legal History of Wales gan Wasg Prifysgol Cymru yn 2007 (ail argraffiad 2012) a Legislating for Wales (gyda Daniel Greenberg) yn 2018.
Daw’r wobr hon o incwm cronfa a godwyd drwy danysgrifiadau cyhoeddus i goffáu dathlu milflwyddiant Hywel Dda yn 1928. Rhoddir y wobr i bwy bynnag a wnaeth fwyaf i helaethu gwybodaeth am gyfraith a defod y Cymry yn yr Oesoedd Canol, neu a wnaeth fwyaf i daflu goleuni ar eu tarddiad a’u hanes a’r iaith a’r llawysgrifau sy’n ymwneud â hwynt.
Dyfernir Gwobr Goffa Syr Ellis-Griffith 2024 i Ruth Richards am ei chyfrol Golwg Ehangach: Ffotograffau John Thomas o Gymru Oes Fictoria (Caerdydd: GPC, 2024). Mae Ruth Richards yn awdures sy’n ymddiddori yn hanes Cymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed. Mae’r gyfrol Golwg Ehangach yn seiliedig ar ei hymchwil doethuriaeth drwy Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor, sy’n dadansoddi gwaith y ffotograffydd John Thomas yng nghyd-destun llenyddiaeth a meddylfryd Cymraeg ei gyfnod.
Cyflwynir y wobr yn flynyddol o Gronfa Ellis-Griffith yn enw Cronfa Dreftadaeth Y Werin ar gyfer y cyhoeddiad gorau yn y Gymraeg sy’n ymdrin â llenorion, arlunwyr neu grefftwyr Cymraeg neu eu gweithiau. Daw’r wobr o gronfa a godwyd i gofio enw’r diweddar Wir Anrhydeddus Syr Ellis Jones Ellis-Griffith MA KC PC (1860–1926), a fu’n Aelod Seneddol dros etholaeth Sir Fôn.
Dr David Callander sy’n ennill Gwobr Goffa Vernam Hull 2024 am ei gyfrol Trawsffurfio’r Seintiau: Llawysgrif Yale o Fucheddau’r Saint (Caerdydd: GPC, 2024). Mae Dr David Callander yn Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Ymysg ei gyhoeddiadau eraill mae Dissonant Neighbours (GPC, 2019) a’r gyfrol gydolygedig Lliaws Rhith (GPC, 2025).
Meddai David Callander, “Braint ac anrhydedd yw derbyn Gwobr Goffa Vernam Hull am y gyfrol Trawsffurfio’r Seintiau. Hyfrydwch o’r mwyaf yw cael bod yng nghwmni cymaint o ysgolheigion penigamp a enillodd y wobr o’r blaen. Mwynheais yn fawr weithio ar y llyfr hwn, llyfr sy’n ceisio croesi ffiniau mewn sawl ffordd. Ers ei gyhoeddi, cefais y pleser o ymweld â sawl eglwys, gan gynnwys eglwys fawr Caergybi, i drafod y testunau a olygais a braf oedd gweld cymaint o ddiddordeb yn y deunydd. Gobeithio y bydd yn ysgogi rhagor o ymchwil ar destunau rhyddiaith o Gymru ac yn darparu modelau ar gyfer cymharu testunau o wahanol gyfnodau ac mewn gwahanol ieithoedd.”
Daw’r wobr/cyfrodd o log blynyddol cymynrodd i Brifysgol Cymru gan y diweddar Dr Vernam Edward Nunnemacher Hull (1894–1976), Athro mewn Ieithoedd Celtaidd ym Mhrifysgol Harvard, y dyfarnwyd iddo radd DLitt honoris causa gan Brifysgol Cymru ar achlysur y Gyngres Astudiaethau Celtaidd Gydwladol yn 1963.
Meddai Margaret Evans ar ran Ymddiriedolwyr Cronfa Dreftadaeth Y Werin: “Hoffwn longyfarch enillwyr y gwobrau ar eu llwyddiant. Hoffwn hefyd gyfleu diolch i’r panel dyfarnu am eu gwaith. Mae’r Ymddiriedolaeth yn falch o allu parhau i gefnogi a chydnabod rhagoriaeth academaidd ochr yn ochr â chyfraniad arwyddocaol at ysgolheictod Cymru.”
Nodiadau i Olygyddion
Cyswllt: Dr Angharad Elias (Swyddog Gweinyddol) a.elias@cymru.ac.uk
1. Sefydlwyd y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gan Brifysgol Cymru yn 1985 fel canolfan ymchwil arbenigol yn cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli mewn adeilad pwrpasol yn Aberystwyth, wrth ymyl Llyfrgell Genedlaethol Cymru, llyfrgell hawlfraint o fri rhyngwladol gyda chyfleusterau ymchwil rhagorol.
2. Mae’r Ganolfan yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ôl-raddedig i weithio gydag arbenigwyr mewn amgylchedd deinamig a chefnogol. Croesawn ymholiadau am bynciau MPhil/PhD mewn unrhyw un o’n meysydd ymchwil. Am ragor o wybodaeth, neu i gael sgwrs anffurfiol am bynciau posibl, cysylltwch â’n Pennaeth Astudiaethau Ôl-raddedig, Dr Elizabeth Edwards: e.edwards@cymru.ac.uk
3. Y Ganolfan yw cartref Geiriadur Prifysgol Cymru: https://www.geiriadur.ac.uk/
4. Sefydlwyd Cronfa Treftadaeth Y Werin gan Ymddiriedolaeth Gwaddolion Cyfyngedig Prifysgol Cymru i wneud dosraniadau a dyfarnu ysgoloriaethau, grantiau, gwobrau a dyfarniadau o’r gwaddolion cyfyngedig a roddwyd yn wreiddiol i Brifysgol Cymru:
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076