Cyn Fyfyrwraig BA Perfformio yn ymuno â chast Pobl y Cwm
Mae cyn fyfyrwraig o’r cwrs BA Perfformio ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Jemima Nicholas, wedi ymuno â chast yr opera sebon eiconig Pobl y Cwm fel Indeg Griffiths.
Mae Indeg yn wyres i Ieuan Griffiths, ac mae’n gymeriad hwylus, lliwgar a llawn egni, ac er nad yw hi’n gymeriad newydd i’r gyfres, dyma’r tro cyntaf i wylwyr y rhaglen ei gweld hi fel oedolyn.
Dywedodd Jemima ei fod hi’n deimlad anhygoel i ymuno â chast Pobol y Cwm. Meddai
“Dwi’n edrych ymlaen at ddod ag egni gwahanol i’r Cwm trwy bortreadu cymeriad Indeg. Mae’r teulu Griffiths yn delio gyda llinell stori dorcalonnus Anita ar hyn o bryd felly roedd cael y cyfle i geisio dod a thipyn o hwyl a direidi i’r teulu yn ystod cyfnod anodd yn deimlad hyfryd.
“Roeddwn i mor nerfus cyn dechrau ffilmio gan fy mod i’n ymwybodol iawn o ba mor bwysig yw’r rhaglen i Gymru ac roedd e’n teimlo fel cyfrifoldeb mawr, ond ma’ bob un aelod o’r tîm wedi bod mor groesawgar a charedig, dwi’n teimlo mor lwcus i gael bod yn rhan o gyfres mor eiconig.”
Mae’n edrych ymlaen at weld lle mae personoliaeth lliwgar ac afreolus Indeg yn mynd i’w harwain ar y gyfres.
“ Dyw hi ddim yn gymeriad sydd o reidrwydd yn edrych am drwbl, ond rywsut mae hi’n llwyddo i’w ffeindio, felly dwi’n edrych ymlaen at weld sut ma’ hi’n delio gyda’r hyn ma’ bywyd yn taflu ati.”
Mae Jemima’n ddiolchgar am yr hyfforddiant a dderbyniodd fel myfyrwraig ar y cwrs BA Perfformio gyda PCYDDS.
“Mae astudio yn y Brifysgol wedi chwarae rhan hollbwysig yn fy ngyrfa, ac o ganlyniad, wedi fy mharatoi ar gyfer chwarae’r rhan hon. Roedd ein tiwtoriaid i gyd fel Angharad Lee, Eiry Thomas, Dan Jones yn gweithio ac yn parhau i weithio yn y diwydiant perfformio, ac roedden nhw i gyd yn dod ag elfennau diddorol, unigryw a chreadigol er mwyn ffurfio ein ‘toolbox’ fel perfformwyr.”
Penderfynodd astudio yn y Drindod Dewi Sant am nifer o resymau.
“Pan roeddwn i’n gadael ysgol, roeddwn i’n teimlo fel bod pwyslais mawr ar astudio yn Llundain, yn enwedig os roeddwn i am geisio dilyn gyrfa yn y byd perfformio, ond doeddwn i ddim yn siŵr ar y pryd os roeddwn i’n barod i symud i Lundain a gadael Cymru. Roedd cwrs BA Perfformio yn cynnig nifer o gyfleoedd i weithio gyda thiwtoriaid a oedd yn gweithio yn y diwydiant, cyfleoedd niferus i berfformio ar draws sbectrwm eang o gyfryngau a hynny i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys y cyfle i astudio mewn prifysgol tramor am dymor.”
Tra’n fyfyrwraig, bu Jemima’n ddigon ffodus i gael y cyfle i fynd i weithio ar set Pobl Y Cwm am wythnos fel un o fodiwlau’r cwrs; ‘Actio i’r Sgrîn’, gyda chewri’r diwydiant fel y diweddar Terry Dyddgen-Jones a Robin Rollinson. Ychwanegodd:
“Roedd hyn yn gyfle wnaeth llythrennol paratoi fi ar gyfer gweithio ar set a oedd yn pwysleisio pa mor bwysig oedd bod yn bobl garedig, gweithio’n galed a gweithio fel tîm er mwyn cynhyrchu rhaglen deledu lwyddiannus. Dwi dal yn cofio’r wythnos anhygoel yna ac yn gwenu o glust i glust wrth gerdded mewn i’r BBC wrth feddwl fy mod i’n ddigon lwcus i gael gweithio’n broffesiynol yna deng mlynedd yn ddiweddarach.”
Mae Jemima’n canmol y cwrs gan ei fod yn cynnig cyfleoedd i berfformio ar draws amrywiad eang o gyfryngau. Roedd yr amrywiaeth o fodiwlau yn sicrhau ei bod yn dysgu sgiliau newydd o dymor i dymor.
Ychwanegodd Jemima ei bod wedi bod yn lwcus iawn o’r gefnogaeth gan ei thiwtoriaid.
“Roeddent wedi arfer gyda gweithio gyda phobl ifanc a gweithio’n gyson yn y diwydiant felly roeddwn i’n derbyn adborth unigol a phersonol drwy gydol y cwrs. Mae cael y cyfle i weithio ar y cyd gydag ambell i diwtor ar lefel broffesiynol ers graddio, neu gael y cyfle i glyweld iddynt yn ‘full circle moment’ ac maent yn dal i fod yn gefnogol iawn o gyn-fyfyrwyr sydd yn deimlad hyfryd.”
Dywedodd Angharad Lee,Rheolwr Rhaglen BA Perfformio/BA Theatr Gerddorol yn PCYDDS:
“Rwy’n cofio Jemima fel un o’n myfyrwyr cyntaf ar ein cwrs BA Perfformio. Cyfnod cyffrous o ddatblygu y cwrs, a criw o fyfyrwyr hyfryd yn cyd weithio gyda ni trwy gydol. Hyfryd yw clywed bod Jemima dal i weld gwerth i’r sgiliau ddysgodd hi gyda ni, a bod ein chwant i gadw’r cwrs hon yn berthnasol i’r diwydiant yn amlwg yn gweithio.”
Yn ogystal, manteisiodd Jemima ar y cyfle i astudio dramor am dymor yn adran Theatre Arts, California State University Long Beach. Meddai:
“Roedd astudio yn America yn gyfnod bythgofiadwy gan ei fod wedi galluogi ni i drochi ein hunain mewn diwylliant theatrig hollol wahanol i beth oedden ni wedi arfer gyda, gyda grŵp o bobl o ddiwylliannau, gwledydd a hunaniaethau hollol wahanol. Roedd y tiwtoriad, eto, yn actorion proffesiynol a chafodd effaith dwys ar y ffordd roeddwn i’n gweld y grefft o ‘actio’ a sut i fynd ati i adeiladu bywyd cymeriad gyda manylder ac uniondeb. Roedd byw yn California a’r profiadau anhygoel a ddaeth gyda hynny yn fythgofiadwy!”
Mae Jemima’n argymell y cwrs BA Perfformio, yn enwedig i unrhywun sydd gyda diddordeb hyfforddi drwy gydol yr iaith Gymraeg.
“ Mae’r cwrs wedi llwyddo i greu rhwydwaith o bobl greadigol, addasadwy a phroffesiynol sydd yn gweithio ar draws nifer o gyfryngau a dwi wedi bod yn lwcus iawn i weithio gyda nifer o’r tiwtoriaid gwadd sydd yn rhedeg gweithdai gyda’r myfyrwyr presennol felly dwi’n gwybod bod y cwrs bendant yn mynd o nerth i nerth!”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476