Cynhadledd ar y cyd rhwng Prifysgol Genedlaethol Cheng Kung a'r Academi Sinoleg yn PCYDDS yn archwilio Tsieina Ganoloesol Gynnar
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o dynnu sylw at lwyddiant cynhadledd ryngwladol a drefnwyd ar y cyd â Phrifysgol Genedlaethol Cheng Kung, a gynhaliwyd ar 24–25 Ebrill 2026 yn Tainan, Taiwan.
Daeth yr 8fed Gynhadledd ar Lenyddiaeth a Syniadaeth Breninlinau Wei-Jin, y De a’r Gogledd a’r 2il Symposiwm Academaidd Sinoleg Rhyngwladol ag ysgolheigion blaenllaw at ei gilydd i archwilio’r cyfnod rhwng 220 a 589 OC, cyfnod a elwir yn hanesyddiaeth Tsieina fel cyfnod Breninlinau Wei-Jin, y De a’r Gogledd, ac yn ehangach mewn ysgolheictod Saesneg yn Tsieina Ganoloesol Gynnar.
Yn cynrychioli PCYDDS roedd Dr Thomas Jansen, Athro Cysylltiol mewn Astudiaethau Tsieineaidd, ynghyd â Phrofost yr Academi Sinoleg, yr Hybarch Shengmiao, Dr Sufan Chen (Rheolwr Rhaglen, MA), a nifer o fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr yr Academi.
Traddododd Dr Jansen un o ddwy brif ddarlith y gynhadledd, a gyflwynwyd yn Tsieinëeg dan y teitl “Traddodiad ac Arloesi: Profiad byw ac ehangiad hunaniaeth Tsieineaidd yn Tsieina Ganoloesol Gynnar”. Yn ei ddarlith archwiliodd amlddiwylliannaeth yn nhref werddon Dunhuang yn ystod dechrau’r chweched ganrif OC.Ar un adeg yn dref garsiwn ffiniol ar y Ffordd Sidan, mae Dunhuang bellach yn adnabyddus am Ogofâu Mogao, casgliad o 492 o grotos wedi’u haddurno’n foethus â cherfluniau a ffresgoau Bwdhaidd.
Wrth adfyfyrio ar y profiad, nododd Dr Jansen:
“Roedd yn anrhydedd mawr cael fy ngwahodd i fod yn brif siaradwr yn y brifysgol fawreddog hon yn Taiwan. Rhoddodd gyfle i mi ailgysylltu ag un o fy niddordebau ymchwil, amlddiwylliannaeth a hunaniaeth Tsieineaidd yn y cyfnod Canoloesol Cynnar, sydd ar hyn o bryd yn denu sylw yng nghyd-destun dadleuon cyfredol ynghylch cosmopolitaniaeth yn hanes Tsieina a’i oblygiadau i gyfnewid trawsddiwylliannol a gwaddol gwladychiaeth Ewropeaidd yn Nwyrain Asia heddiw.”
Gan ddefnyddio Ogof Mogao 285 fel astudiaeth achos, dangosodd Dr Jansen sut y gall ei hiaith weledol syncretig a’i threfniadaeth ofodol ddyfnhau dealltwriaeth o Dunhuang fel canolfan aml-ethnig ac amlddiwylliannol yn Tsieina ganoloesol.
Yn ystod ei ymweliad, cyflwynodd Dr Jansen hefyd seminar yn Tsieinëeg i fyfyrwyr meistr ym Mhrifysgol Genedlaethol Cheng Kung ar y cenhadwr o Gymro Timothy Richard (1845–1919) a’i gyfieithiad o’r nofel Tsieineaidd Journey to the West (Xiyou ji). Wedi’i gyhoeddi dan y teitl A Mission to Heaven: A Great Chinese Epic and Allegory (1913), hwn oedd y cyfieithiad Saesneg cyntaf o’r testun dylanwadol.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076