Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn Ysbrydoli'r Genhedlaeth Nesaf o Dalent Greadigol yn PCYDDS
Mae cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru yn profi i fod yn garreg camu allweddol i fyfyrwyr sy’n mynd ymlaen i addysg uwch ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Trwy brofi cyfleusterau, amgylcheddau addysgu a briffiau creadigol lefel prifysgol yn uniongyrchol, mae myfyrwyr yn gallu gwneud dewisiadau hyderus a gwybodus am eu dyfodol academaidd a phroffesiynol.
Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn codi proffil sgiliau drwy roi cyfle i fyfyrwyr, hyfforddeion a phrentisiaid brofi a gwella eu galluoedd drwy gystadleuaeth. Wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru a’u darparu gan rwydwaith o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, a sefydliadau a arweinir gan gyflogwyr, mae’r cystadlaethau yn cyd-fynd â safonau WorldSkills ac yn cefnogi anghenion economi Cymru.
Mae myfyrwyr ar draws y rhaglenni Patrymau Arwyneb a Thecstilau, a Ffotograffiaeth, yn cydnabod bod eu profiad o’r gystadleuaeth wedi rhoi mewnwelediad uniongyrchol iddynt o gyfleusterau PCYDDS, a’i dull o ganolbwyntio ar y diwydiant, gan ddylanwadu yn y pen draw ar eu penderfyniad i fynd ymlaen i’r Brifysgol i astudio.
O Gystadleuaeth i Gampws
Mae Ellie Vaughan, o Abertawe, bellach yn astudio Patrymau Arwyneb a Thecstilau yn PCYDDS, ar ôl cwblhau Blwyddyn Sylfaen mewn Celf a Dylunio yn Llwyn y Bryn, Coleg Gŵyr Abertawe yn flaenorol.
“Fe wnaeth cymryd rhan mewn cystadleuaeth sgiliau chwarae rhan fawr yn fy mhenderfyniad i ddewis PCYDDS,” meddai Ellie. “Rhoddodd gyfle i mi brofi’r amgylchedd stiwdio a’r cyfleusterau yn uniongyrchol, a oedd wir yn rhagori. Mae’r cwrs yn cynnig dilyniant gyrfa clir, briffiau byw a theithiau tramor sy’n ehangu safbwyntiau creadigol a phroffesiynol.
“Dw i wrth fy modd â’r holl gyfleusterau sydd gan fy nghampws i’w cynnig. Mae’r mannau stiwdio yn wych i weithio ynddynt, mae’r ystafelloedd Apple Mac yn fonws enfawr, ac mae’r darlithoedd yn wirioneddol ddifyr a diddorol.”
Cwblhaodd Eva Kingston-Gharaati, hefyd o Abertawe, ei harholiadau Safon Uwch yn Ysgol Olchfa a Blwyddyn Sylfaen yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.
“Yn ystod fy mlwyddyn sylfaen, cefais y cyfle i weithio o fewn PCYDDS ar gyfer y gystadleuaeth sgiliau patrymau arwyneb, ac ar ôl profi’r cyfleusterau helaeth oedd gan y stiwdio i’w cynnig yn uniongyrchol, cadarnhaodd fy mhenderfyniad mai hwn oedd y lle iawn i mi,” meddai Eva.
“Mae’r briffiau rydyn ni’n eu derbyn yn eang iawn, sy’n caniatáu arbrofi, ond hefyd yn annog ymchwil manwl i artistiaid a dylunwyr o bob cwr o’r byd.”
Mae Thea Wakeford hefyd yn olrhain ei thaith i PCYDDS yn ôl i Gystadlaethau Sgiliau Cymru a gweithdai allgymorth.
“Cefais gymorth gan PCYDDS trwy gydol fy astudiaethau, cyn i mi hyd yn oed fod yn fyfyriwr swyddogol yma, trwy gystadlaethau sgiliau Cymru,” meddai Thea.
“Mae’r stiwdio cynllun agored, y gallu i gydweithio â gwahanol grwpiau blwyddyn, a’r darlithwyr hygyrch yn creu awyrgylch creadigol cyfforddus.Gyda chefnogaeth y Brifysgol, dw i hyd yn oed wedi gallu sefydlu busnes bach ochr yn ochr â’m hastudiaethau.”
Llwybrau Ffotograffiaeth
Mae Joseph Allen, o Abertawe, yn astudio Ffotograffiaeth Ddogfennol a Gweithredaeth Weledol yn PCYDDS, ar ôl cwblhau cymwysterau Celf a Dylunio a Ffotograffiaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe yn flaenorol.
“Mae’r offer a’r mannau stiwdio yn PCYDDS yn caniatáu imi gyrraedd fy mhotensial llawn fel ffotograffydd,” meddai Joseph.
“Mae’r darlithwyr profiadol yn creu amgylchedd dysgu rhagorol, ac mae’r rhyddid i ehangu fy arfer wedi fy helpu i dyfu i fod yn ffotograffydd cryfach.”
Mae Joseph yn anelu at ddod yn ddarlithydd ffotograffiaeth neu sefydlu ei hun fel ffotograffydd dogfennol neu ffotonewyddiadurwr. Yn ymuno ag ef ar y rhaglen mae cyn-gystadleuwyr eraill Cystadleuaeth Sgiliau Cymru, gan gynnwys Evangeline Roberts, enillydd blaenorol y gystadleuaeth.
At ei gilydd, mae cyfanswm o 5 myfyriwr Ffotograffiaeth wedi symud ymlaen i’r cwrs.
Dywedodd Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru: “Mae Cystadleuaeth Sgiliau Cymru yn darparu llwyfan rhagorol i bobl ifanc brofi’r gorau o addysg seiliedig ar sgiliau mewn amgylchedd proffesiynol go iawn. Yr hyn sy’n arbennig o bwerus yw gweld sut mae cymryd rhan yn y cystadlaethau hyn yn rhoi’r hyder i fyfyrwyr symud ymlaen i addysg uwch a gweld cyfle am yrfaoedd creadigol uchelgeisiol.
“Yn PCYDDS, rydym wedi ymrwymo’n ddwfn i ehangu mynediad, meithrin talent a chreu llwybrau dilyniant clir o addysg bellach i’r brifysgol a thu hwnt. Mae llwyddiant y myfyrwyr hyn yn dangos gwerth dysgu ymarferol, cyfleusterau rhagorol a staff ymroddedig y mae llwyddiant myfyrwyr wir yn bwysig iddynt. Rydym yn hynod falch o gefnogi Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ac i groesawu cynifer o gyfranogwyr y gystadleuaeth i’n cymuned greadigol.”
Gwybodaeth am Gystadleuaeth Sgiliau Cymru 2026
Bydd Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 2026 yn cynnwys 65 o gystadlaethau, gan gynnwys chwe disgyblaeth newydd fel Sgiliau Tecstilau a Phatrymau Arwyneb, Cerameg a Sgiliau Crefft, ac Amaethyddiaeth Gynaliadwy. Bydd cystadlaethau’n cael eu cynnal ledled Cymru ym mis Chwefror 2026.
Bydd PCYDDS yn cynnal cystadlaethau yn y mannau canlynol:
- Campws Caerfyrddin – 4 Chwefror (Celfyddydau Perfformio, Cerddoriaeth)
- Abertawe – Coleg Celf Abertawe (campws Dinefwr) ac adeilad IQ ar gampws Glannau Abertawe y Brifysgol – 5 Chwefror (Cyfrifiadura, Peirianneg, Cyfrifeg)
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071