Dathlu Ffilmiau Annibynnol yng Nghymru: Un o Ddarlithwyr PCYDDS yn dod â Chydweithrediad â’r Diwydiant i'r Sgrin Fawr
Mae myfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn helpu i ddod â straeon o Gymru i gynulleidfaoedd newydd ym mis Mawrth, wrth i’r Brifysgol gydweithio â phartneriaid yn y diwydiant i gynnal noson arbennig ffilmiau dogfen annibynnol yng Nghaerfyrddin.
Ar 9 Mawrth, bydd Clwb Ffilm Caerfyrddin yn cyflwyno noson arbennig yn Theatr y Lyric o raglenni dogfen byrion a grëwyd gan wneuthurwyr ffilmiau annibynnol o bob cwr o Gymru. Cynhelir y noson mewn partneriaeth â Chynghrair Sgrin Cymru a Gŵyl Ffilm Bae Caerfyrddin, bydd y digwyddiad yn arddangos straeon gafaelgar ac wedyn sesiwn holi ac ateb fyw gyda gwneuthurwyr ffilmiau.
Dr Brett Aggersberg, Rheolwr Rhaglen BA (Anrh) Gwneud Ffilmiau Antur yn PCYDDS, sydd wedi’i leoli ar gampws Caerfyrddin, sy’n trefnu a chynnal y noson, gan atgyfnerthu ymrwymiad y Brifysgol i gysylltu myfyrwyr â’r diwydiant a’r gymuned.
Bydd y dangosiadau’n dathlu talent sy’n dod i’r amlwg ym maes gwneud ffilmiau dogfen yng Nghymru, gan gynnwys straeon ar draws cymunedau ac achosion; o Butetown yng Nghaerdydd i’r elusen hygyrchedd cefnfor o Benrhyn Gŵyr, Surfability, yn ogystal â gwaith cyflwynydd radio a chrëwr cynnwys digidol.
I fyfyrwyr, darpar wneuthurwyr ffilmiau a’r gymuned ehangach, mae’r digwyddiad yn cynnig cyfle unigryw i glywed yn uniongyrchol gan weithwyr proffesiynol y diwydiant am sut mae straeon yn symud o’r syniad i’r sgrin, ac i ddysgu rhagor am lwybrau i’r diwydiannau creadigol.
Meddai Dr Aggersberg:
“Mae i ffilmiau dogfen rôl hanfodol o ran cynyddu lleisiau sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol, herio safbwyntiau, a chofnodi profiadau byw cymunedau y gallai eu straeon, fel arall, gael eu hesgeuluso. Mae digwyddiadau fel hyn, nid yn unig yn dathlu crefft adrodd straeon ffeithiol, ond hefyd yn creu deialog ystyrlon rhwng gwneuthurwyr ffilmiau a chynulleidfaoedd.
“Yn PCYDDS, mae gennym ni ymrwymiad dwfn i feithrin egin ddoniau a chreu cyfleoedd lle gall lleisiau newydd ddatblygu, arbrofi a chael eu clywed. Mae cefnogi mentrau fel hyn yn adlewyrchu ein cred bod gwneud ffilmiau dogfen nid yn unig yn ffurf gelfyddydol, ond hefyd yn gatalydd ar gyfer ymwybyddiaeth gymdeithasol, dealltwriaeth ddiwylliannol a newid cadarnhaol.”
Mae’r cydweithrediad hefyd yn tynnu sylw at y berthynas gref rhwng PCYDDS a’r sector sgrin yng Nghymru. Mae Cynghrair Sgrin Cymru yn gweithio’n agos gyda darlledwyr, cwmnïau cynhyrchu a darparwyr addysg i ddatblygu criw lleol, cefnogi egin ddoniau a chreu llwybrau cyflogaeth i gynyrchiadau mawr, gan alinio â ffocws y Brifysgol ar ddysgu sy’n barod i’r diwydiant a phrofiad yn y byd go iawn.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i’w fynychu ac yn agored i’r cyhoedd, a thocynnau ar gael ymlaen llaw neu wrth y drws.
Gellir archebu tocynnau ar wefan Theatrau Sir Gâr.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476