Dathlu taith academaidd Dr Sneha Roy
Pan ddechreuodd Dr Sneha Roy ei Doethuriaeth Broffesiynol mewn Astudiaethau Rhyng-ffydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, cafodd ei hysgogi gan chwilfrydedd deallusol dwfn ac ymrwymiad i ddeall y mathau llai gweladwy o anghydraddoldeb a thrais sy’n llunio bywydau pobl.
Y mis hwn, mae wedi dechrau swydd fel Darlithydd mewn Crefydd ym Mhrifysgol York St John, gan nodi pennod newydd gyffrous mewn gyrfa sydd wedi’i hadeiladu ar ymholiad beirniadol, gwytnwch a chymuned.
Yn anthropolegydd ac yn ysgolhaig Astudiaethau Crefyddol, mae ymchwil Dr Roy yn archwilio dulliau anweladwy o drais a’r ffyrdd y mae galluogedd yn gweithredu o dan amodau cyfyngu ac anghydraddoldeb. Mae’n faes sy’n gofyn am gynildeb, empathi a chywirdeb dadansoddol – rhinweddau y dechreuodd ei hogi yn ystod ei chyfnod yn PCYDDS.
“Roedd y rhaglen yn sefyll allan am ei chwricwlwm a’i strwythur unigryw.” meddai. “Roedd yn addo’r math o her academaidd roeddwn i’n chwilio amdani ac yn teimlo fel yr oedd yn addas i mi.”
Datblygu hyder ac eglurder
Gosododd y gwaith cwrs strwythuredig sylfeini cadarn yn ei blwyddyn gyntaf. “Fe wnaeth gryfhau fy sgiliau meddwl yn feirniadol, fy sgiliau ymchwil yn ogystal â’m sgiliau dadansoddi,” meddai. Fe wnaeth fy mharatoi i ymgysylltu’n hyderus â deunydd cymhleth a chyfathrebu syniadau’n glir.”
Roedd y sgiliau hynny’n hanfodol wrth iddi ymgymryd â gwaith maes dwys ar gyfer ei hymchwil doethurol. Wrth i’r rhaglen fynd yn ei blaen, datblygodd yr hyder i weithio’n annibynnol gan hefyd werthfawrogi cydweithredu. “Roeddwn i’n gallu gweithio’n annibynnol ac yn gydweithredol,” meddai.
Buodd Dr Roy yn addysgu am ddau semester ochr yn ochr â’i hymchwil, profiad a fyddai’n llunio ei dyfodol proffesiynol. “Fe wnaeth fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau addysgu,” meddai. Bellach, wrth sefyll o flaen ei darlithoedd ei hun ym Mhrifysgol York St John, mae’r profiadau cynnar hynny yn parhau i lywio ei harfer.
Roedd rhai gwersi yn ymarferol, ond yn bwerus. Pan ofynnwyd iddi pa sgiliau y mae’n eu defnyddio bob dydd, heb feddwl ddwywaith dywedodd: “Rheoli amser.” Mae cydbwyso ymchwil, addysgu a chyfrifoldebau ehangach yn gofyn am ddisgyblaeth - rhywbeth y dechreuodd ei mireinio yn ystod ei doethuriaeth.
Cymuned a Mentora
Nid yn unig strwythur academaidd y rhaglen a wnaeth wahaniaeth, ond hefyd yr amgylchedd y bu’n astudio ynddo. Cafodd Dr Roy ei hun yn rhan o gymuned ysgolheigaidd agos a chefnogol.
“Roedd fy mhrif oruchwylydd, yr Athro Bettina Schmidt, yn ganolog i fy nghyfnod yn PCYDDS,” meddai. “Roedd ei chefnogaeth a’i harweiniad wedi fy helpu i lunio fy ymchwil a’m proffesiynoldeb cyffredinol.”
Mae’r Athro Schmidt wedi gwylio datblygiad Dr Roy gyda balchder. “Dangosodd Sneha chwilfrydedd deallusol a phenderfyniad eithriadol trwy gydol ei doethuriaeth,” meddai. “Yn ystod y rhaglen, tyfodd yn ysgolhaig hyderus ac annibynnol, sy’n gallu trin deunydd cymhleth gydag arlliw a gwreiddioldeb. Mae wedi bod yn bleser ei gweld yn datblygu’n academaidd ac yn broffesiynol, ac rwy’n falch iawn o’i gweld yn ymgymryd â’r ddarlithiaeth hon. Edrychaf ymlaen at ddilyn ei chyflawniadau parhaus yn y blynyddoedd i ddod.”
Y tu hwnt i oruchwyliaeth, y cyfeillgarwch ymhlith ei charfan Doethuriaeth Broffesiynol a adawodd argraff barhaol. “Roedd y garfan yn gyfeillgar, amrywiol a chymwynasgar. Roedd gennym ymdeimlad gwirioneddol o gymuned,” meddai. Roedd byw ar y campws yn caniatáu i gysylltiadau dyfu y tu hwnt i leoliadau academaidd ffurfiol, gan greu cyfeillgarwch yn ogystal â rhwydweithiau proffesiynol.
Daeth yr ymdeimlad hwnnw o berthyn yn arbennig o arwyddocaol yn ystod pandemig Covid-19. “Yn ystod y pandemig, roedd y gymuned fach hon yn arbennig o ddefnyddiol wrth sicrhau cefnogaeth a llesiant yn ystod cyfnodau anodd,” meddai. “Fe wnaeth wahaniaeth go iawn.”
Wrth edrych yn ôl, “y mentoriaid a’r campws” sy’n aros yn y cof. “Rydw i mor ddiolchgar am yr amser a dreuliais yno a hynny gyda phobl sy’n parhau i fod yn fentoriaid arbennig. Mae’n dal lle cadarn yn fy nghalon ac yn ddi-os roedd yn gyfnod arwyddocaol i’m dilyniant proffesiynol a phersonol.”
Gyrfa sy’n datblygu
Ar ôl cwblhau doethuriaeth yn 2021, aeth taith Dr Roy â hi i Fienna, lle bu’n gweithio mewn sefydliad rhynglywodraethol yn dilyn ei viva PhD. Ehangodd y rôl ei safbwynt, gan ganiatáu iddi ymgysylltu â pholisi ac arfer y tu hwnt i’r byd academaidd.
Yn ddiweddarach, dychwelodd i fywyd academaidd ar ôl derbyn Cymrodoriaeth Ôl-ddoethurol fawreddog yr Academi Brydeinig yn Ysgol Ddiwinyddiaeth Prifysgol Caeredin. Cadarnhaodd y gymrodoriaeth gryfder a pherthnasedd ei hymchwil, gan baratoi’r ffordd ar gyfer ei phenodiad ym mis Ionawr 2026 fel Darlithydd mewn Crefydd ym Mhrifysgol York St John.
Wrth adfyfyrio ar ei datblygiad ers dechrau ei doethuriaeth, mae Dr Roy yn nodi twf deallusol a phersonol sylweddol. “Rwyf wedi dod yn fwy annibynnol yn ddeallusol ac yn hyderus yn fy meddwl,” meddai. “Rwyf wedi dysgu cwestiynu rhagdybiaethau, ymgysylltu’n feirniadol â syniadau cymhleth, a mynegi fy nadleuon gydag eglurder ac mewn modd cynnil.”
Mae hefyd yn tynnu sylw at well gwydnwch a hunanddisgyblaeth. “Rwyf wedi datblygu’r gallu i reoli cyfrifoldebau cystadleuol wrth gadw ffocws ar fy nodau.”
Ymhlith ei chyflawniadau mwyaf balch yw ei gallu i gydbwyso ymrwymiadau lluosog. “Trwy gydol fy nhaith broffesiynol, rwyf wedi gallu cydbwyso ymchwil, addysgu, gwaith cymunedol ac eiriolaeth polisi. Mae wedi bod yn anodd ond yr un mor werthfawr.”
I fyfyrwyr presennol sy’n ystyried eu dyfodol eu hunain, mae ei chyngor yn galonogol ac yn syml: “Byddwch yn chwilfrydig a dilynwch eich diddordebau angerddol.”
Mae taith Dr Sneha Roy o ymchwilydd doethurol i Ddarlithydd mewn Crefydd yn adlewyrchu nid yn unig penderfyniad personol, ond hefyd ddylanwad ffurfiannol amgylchedd academaidd cefnogol. Wrth iddi ddechrau’r bennod newydd hon ym Mhrifysgol Efrog St John, mae’n cymryd y sgiliau, yr hyder a’r ymdeimlad o bwrpas a feithrinwyd yn ystod ei hamser yn PCYDDS gyda hi, a gwerthfawrogiad dwfn o’r mentoriaid a’r gymuned a helpodd i lunio ei llwybr.
Gwybodaeth Bellach
Arwel Lloyd
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467076