Skip page header and navigation

Daeth myfyrwyr, staff ac artistiaid blaenllaw o Gymru ynghyd yng Ngholeg Celf Abertawe, sy’n rhan o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, i ddathlu’r Gymraeg, ei diwylliant a’i chreadigrwydd fel rhan o raglen flynyddol Dydd Gŵyl Dewi y Coleg.

image of students with their awards

Gan gyd-redeg â’r dathliad cenedlaethol o ddiwylliant Cymru, cynhaliodd y Coleg gyfres o sgyrsiau gan artistiaid, gweithdai a chyflwyniadau gwobrau yn cydnabod cyfraniad myfyrwyr a staff sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn weithredol trwy eu harfer creadigol a’u dysgu.

Cafodd myfyrwyr trydedd flwyddyn o bob rhan o Goleg Celf Abertawe eu cydnabod â Gwobrau Dydd Gŵyl Dewi arbennig am eu hymrwymiad i’r iaith Gymraeg drwy gydol eu hastudiaethau. Yn ystod eu rhaglenni gradd tair blynedd, mae’r myfyrwyr wedi ymgysylltu â’r iaith mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys ymgorffori themâu Cymraeg yn eu gwaith artistig, cymryd rhan mewn trafodaethau drwy gyfrwng y Gymraeg a chwblhau aseiniadau ysgrifenedig yn Gymraeg.

Ymhlith y myfyrwyr a dderbyniodd wobr roedd y canlynol:

Cyflwynwyd y gwobrau gan artistiaid Cymraeg uchel eu parch a oedd ar ymweliad â’r Coleg fel rhan o raglen Dydd Gŵyl Dewi, gan atgyfnerthu’r cysylltiad cryf rhwng arfer creadigol cyfoes a threftadaeth ddiwylliannol Cymru.

Yn rhan o’r dathliadau, cafodd myfyrwyr gyfle hefyd i ddysgu’n uniongyrchol gan ymarferwyr blaenllaw sy’n gweithio ar draws diwydiannau creadigol Cymru. Mynychodd myfyrwyr Celfyddyd Gain a Ffotograffiaeth ddarlith gan yr artist adnabyddus o Gymro, Iwan Bala, y mae ei waith yn archwilio hunaniaeth, diwylliant a thirwedd Cymru trwy baentiadau, lluniadau a chyfosodiadau, yn aml gan ymgorffori testun, barddoniaeth a chartograffeg ddychmygol sy’n adlewyrchu naratifau diwylliannol a gwleidyddol Cymru.

Croesawodd myfyrwyr Dylunio Graffeg Guto Evans, sylfaenydd y stiwdio ddylunio Gymraeg Elfen, a rannodd fewnwelediadau i ddylunio graffig cyfoes sydd wedi’i wreiddio yn yr iaith a’r diwylliant Cymraeg. Mae ei stiwdio yn gweithio ar draws brandio, teipograffeg a hunaniaeth weledol, gan gefnogi busnesau a sefydliadau diwylliannol Cymraeg.

Cymerodd myfyrwyr sy’n astudio Crefftau Dylunio a Dylunio Cynnyrch ran mewn darlith a gweithdy ymarferol gyda’r artist gwydr Rhian Haf, y mae ei gwaith cerfluniol yn cyfuno technegau traddodiadol gwneud gwydr â dulliau dylunio cyfoes wedi’u hysbrydoli gan archwilio tirwedd, golau a deunyddiau. Yn ogystal cymerodd myfyrwyr Patrymau Arwyneb ran mewn gweithdy ymarferol gyda’r artist a’r dylunydd Julia Griffiths Jones, y mae ei gwaith yn archwilio arwynebau print, patrymog ac addurnol, gan drosi elfennau o dirwedd Cymru a motiffau diwylliannol yn aml i ddylunio cyfoes.

Gwenllian Beynon with Charlotte receiving his award

Ochr yn ochr â’r gwobrau myfyrwyr, cyflwynwyd Gwobr Staff Dydd Gŵyl Dewi i Charlotte Rogers o Hwb Dinefwr i gydnabod ei hymroddiad i gefnogi gweithgarwch Cymraeg yn y gymuned greadigol. Cyflwynwyd y wobr gan Gwenllian Beynon. Meddai Charlotte: 

“Mae’r Gymraeg yn golygu cymaint i mi, roedd yn wirioneddol arbennig cael fy nghydnabod fel hyn. Rwy’n ddiolchgar i fod mewn rôl lle gallaf ei defnyddio bob dydd.” 

Mae’r dathliadau yn rhan o ymrwymiad ehangach y Brifysgol i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch. Mae’n bosibl cynnal y rhaglen o ymweliadau artistiaid a gwobrau diolch i gefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n gweithio i hyrwyddo a datblygu astudiaethau cyfrwng Cymraeg ar draws prifysgolion a cholegau addysg bellach yng Nghymru.

Gyda’i gilydd, roedd y sgyrsiau, y gweithdai a’r gwobrau yn dathlu ehangder yr arfer creadigol sy’n dod i’r amlwg yng Nghymru heddiw, tra’n annog y genhedlaeth nesaf o artistiaid a dylunwyr i archwilio a mynegi’r iaith Gymraeg, ei hunaniaeth a’i diwylliant trwy eu gwaith.

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau yn PCYDDS: 

“Mae dathlu Dydd Gŵyl Dewi yng Ngholeg Celf Abertawe yn gyfle gwych i gydnabod creadigrwydd, ymrwymiad ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol ein myfyrwyr a’n staff. Mae’r Gymraeg yn rhan hanfodol o’n hunaniaeth fel prifysgol yng Nghymru, ac mae’n ysbrydoledig gweld myfyrwyr yn archwilio ac yn mynegi’r hunaniaeth honno trwy eu harfer artistig. Drwy ddod ag artistiaid blaenllaw o Gymru i’r Coleg a chydnabod y rhai sy’n ymgysylltu’n weithredol â’r iaith yn eu hastudiaethau, rydym yn helpu i sicrhau bod diwylliant Cymru’n parhau i ffynnu o fewn celf a dylunio cyfoes.”

Bydd digwyddiadau pellach i ddathlu diwylliant a chreadigrwydd Cymru yn cael eu cynnal drwy gydol mis Mawrth.


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon