Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o gyhoeddi bod  y myfyrwyr Rheoli Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol <https://www.uwtsd.ac.uk/programme-courses/undergraduate/hospitality-lei…; Wiktoria Kuciarska a Sophia Rabaiotti wedi’u dewis yn Gynrychiolwyr Myfyrwyr ABTA, gan eu cydnabod yn ddwy o egin dalentau mwyaf addawol y DU yn y diwydiant teithio a thwristiaeth.

Two students smiling and dressed in dark pink branded hoodie tops sat at a table.

Mae’r rhaglen yn cynnig cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ar gyfer mentora gan weithwyr proffesiynol twristiaeth blaenllaw, gan gynnwys arbenigwyr o TUI. 

Mae Wiktoria yn un o chwe myfyriwr Lefel 6 sy’n helpu i drefnu digwyddiad ITT Future You: On the Road eleni yn Arena Abertawe. Mae ei harweinyddiaeth a’i hymrwymiad wedi ei gwneud yn rhan allweddol o’r fenter arobryn. 

Mae hi wedi cofleidio cyfleoedd eang yn PCYDDS, o gwblhau lleoliad cystadleuol yn Universal Orlando Resort i gymryd rhan mewn teithiau astudio rhyngwladol, gan gynnwys Paris ac Antur Fyd-eang yn y man i Malaysia. 

Meddai Wiktoria: “Mae’n anrhydedd i mi gynrychioli PCYDDS drwy’r rhaglen ABTA. Bydd y cyfle hwn yn fy helpu i dyfu’n broffesiynol ac adeiladu ar y profiadau byd-eang rydw i eisoes wedi’u hennill.”

Ochr yn ochr â’i hastudiaethau, mae Sophia yn gweithio i Asiantaeth Teithio Mordeithio Arbenigol, gan ddod i adnabod y diwydiant wrth iddi ddilyn ei huchelgais i sicrhau lleoliad gyda Shore Excursion ar long fordaith. Mae hi wedi cwblhau ystod eang o gyrsiau ABTA a Hyfforddiant Masnach Deithio yn rhan o’i rhaglen. 

Ers mis Medi, mae Sophia wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau yn y diwydiant, gan gynnwys Cyfarfod Rhanbarthol ABTA, Bord Gron y Sefydliad Lletygarwch ar AI, a Digwyddiad Llysgenhadon Cwrdd yng Nghymru, yn ogystal â theithiau i ITT Future You, World Travel Market, #Passion4Hospitality, ac ymweliad Paris PCYDDS. Mae hi hefyd yn gobeithio ymuno ag Antur Academaidd Fyd-eang y brifysgol i Malaysia. 

Meddai Sophia: “Mae cael eich dewis yn Gynrychiolydd Myfyrwyr ABTA yn gam anhygoel ymlaen. Rwy’n gyffrous i ddyfnhau fy mhrofiad yn y diwydiant a chyfrannu at ddyfodol teithio a thwristiaeth.”

Yn eu rolau ABTA newydd, bydd Wiktoria a Sophia yn gweithio ochr yn ochr i gynrychioli PCYDDS ledled y DU. Mae eu llwyddiant yn atgyfnerthu safle PCYDDS yn un o Ganolfannau Rhagoriaeth ITT ar gyfer Teithio a Thwristiaeth, gan gynnig i fyfyrwyr gysylltiadau cryf â diwydiant, cyfleoedd rhyngwladol, ac ymgysylltiad uniongyrchol ag arweinwyr y sector. 

Meddai Rheolwr y Rhaglen, Jacqui Jones: “Rydyn ni’n hynod falch o Wiktoria a Sophia. Mae eu hymroddiad, eu proffesiynoldeb a’u hangerdd dros y diwydiant yn adlewyrchu cryfder ein rhaglenni twristiaeth yn PCYDDS.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon