Skip page header and navigation

I Owen Gittos, roedd astudio Addysg Antur Awyr Agored ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn golygu llawer mwy nag ennill gradd. Roedd yn golygu dod o hyd i rywle lle gallai ei angerdd am yr awyr agored ffynnu, goresgyn heriau academaidd, a pharatoi ar gyfer gyrfa sy’n adlewyrchu pwy ydyw.

Owen Gittos in his cap and gown

Ar ôl rhoi cynnig ar sawl cwrs coleg, gweithio mewn gwahanol swyddi a chwblhau prentisiaeth peirianneg lle teimlai nad oedd e’n “perthyn”, dechreuodd Owen archwilio cyfleoedd a oedd yn cyfuno ei gariad at syrffio a beicio mynydd. Meddai:  

“Bu awydd mynd i’r brifysgol arna i erioed, ond doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i am ei astudio. Un diwrnod dyma fy nhad i’n dweud yn ddireidus y gallwn i wneud gradd syrffio yng Nghernyw, felly dechreuais i edrych ar raddau antur awyr agored, a dyna sut y des i o hyd i PCYDDS.” 

Bu’r dewis o astudio yng Nghaerfyrddin yn un addas iawn. Roedd ei agosrwydd at yr arfordir a’r mynyddoedd, ynghyd â chymuned agos y Brifysgol a champws arbenigol Cynefin, yn cynnig yr union amgylchedd yr oedd Owen yn chwilio amdano. 

“Roeddwn i am ddod o hyd i rywbeth oedd wir wrth fy modd ac roeddwn i’n dda ynddo, tra roeddwn i hefyd yn cwrdd â phobl newydd ac yn gwneud ffrindiau newydd.” 

Trwy gydol ei astudiaethau, cofleidiodd Owen natur ymarferol y cwrs, gan gymryd rhan mewn ystod eang o weithgareddau awyr agored a theithiau sydd wedi gadael atgofion parhaol. 

Ymhlith ei uchafbwyntiau roedd sesiwn caiacio syrffio fythgofiadwy ym Mhentywyn, abseilio 30 metr ac wedyn dringo traddodiadol yn Sir Benfro, a theithiau i’r Alban. Roedd caiacio môr ar hyd arfordir gorllewinol yr Alban, gwersylla gwyllt ar draethau tywodlyd gwyn o dan awyr las glir, a datblygu sgiliau mynydd gaeaf dan amodau heriol yn brofiadau a gryfhaodd ei hyder a’i alluoedd technegol. 

“Fe brofon ni bopeth o amodau tawel perffaith i lywio mewn stormydd eira a sefyll ar fynydd mwyaf gwyntog y DU mewn gwyntoedd 60mya ac eira. Dysgodd pob taith rywbeth gwahanol i ni.” 

Ochr yn ochr â’r profiadau ymarferol, gwnaeth Owen gyfraniad academaidd gwreiddiol trwy ei draethawd hir. Dyluniodd raglen beicio mynydd Green Social Prescribing sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan archwilio sut y gellir defnyddio beicio mynydd i wella iechyd a llesiant. 

“Roedd fy nhraethawd hir yn canolbwyntio ar greu rhaglen beicio mynydd sydd heb ei datblygu o’r blaen. Mae’n seiliedig ar ymchwil i sut y gall beicio mynydd gefnogi llesiant corfforol a meddyliol pobl, ac mae potensial i’r rhaglen gael ei lansio yn y dyfodol agos.” 

Er bod Owen yn gweld astudio academaidd yn heriol, roedd y cymorth a gafodd yn PCYDDS yn drawsnewidiol. Yn gynnar yn ei astudiaethau, nododd y Brifysgol ei fod yn ddyslecsig a nodi nodweddion ADHD ac nad oedd neb wedi sylwi arnyn nhw trwy gydol ei gyfnod yn yr ysgol. 

“Nododd y Brifysgol fy anghenion dysgu ar unwaith a rhoddodd y cymorth yr oedd ei angen arna i. Fe wnaethon nhw fy helpu i ddeall sut rwy’n dysgu orau a sut i gael y gorau ohonof fy hun. Gwnaeth hynny wahaniaeth enfawr.” 

Canmolodd hefyd y tîm addysgu am eu hanogaeth a’r cydbwysedd rhwng dysgu ar lawr dosbarth a phrofiad ymarferol. 

“Mae’r darlithwyr yn hynod gyfeillgar a chefnogol. Mae sesiynau ymarferol bob wythnos, ochr yn ochr â theithiau dewisol, wedi rhoi profiad gwerthfawr yn y diwydiant i ni ac wedi helpu i adeiladu’r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw.” 

Ychwanegodd Rheolwr Rhaglen Addysg Antur Awyr Agored PCYDDS, Denise Leonard: 

“Yn dechnegol aeth Owen i’r cwrs yn fyfyriwr aeddfed, ar ôl dod trwy lwybr annhraddodiadol. Fel tîm addysgu, gallem ni weld o’r dechrau bod ei brofiad bywyd y tu allan i’r ystafell ddosbarth yn tanio ei awydd i ddysgu a thyfu, gan ei yrru tuag at ei freuddwyd o weithio mewn Addysg Antur Awyr Agored. Trwy gydol y radd, manteisiodd i’r eithaf ar bob cyfle a oedd ar gael iddo, gan gynnwys yr ystod eang o weithgareddau allgyrsiol a gynigir. Yn y pen draw, fe wnaeth hyn ei ffurfio i fod yn ymarferydd hynod gyflogadwy, crwn gyda dealltwriaeth wirioneddol o’i ymarfer proffesiynol. Does gen i ddim amheuaeth bod ganddo yrfa hir a llwyddiannus o’i flaen.” 

Ers graddio, mae Owen eisoes wedi dechrau adeiladu gyrfa lwyddiannus yn hyfforddwr awyr agored llawrydd, gan roi ei radd ar waith ar unwaith. 

“Es i i weithio ar fy liwt fy hun ac rwy’n cael llawer o gyfleoedd ac yn gwneud cysylltiadau gwych. Rydw i’n bendant wedi dod o hyd i’r yrfa rydw i eisiau ei dilyn.” 

Wrth edrych ymlaen, mae Owen yn bwriadu parhau i ddatblygu ei gymwysterau proffesiynol, teithio, a dod â’i raglen beicio mynydd Green Social Prescribing yn fyw, gan helpu eraill i brofi manteision iechyd a llesiant yr awyr agored. 

I gael rhagor o wybodaeth am Addysg Antur Awyr Agored PCYDDS, ewch i’r wefan neu cysylltwch â Denise Leonard yn denise.leonard@pcydds.ac.uk 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon