Gradd Brentisiaeth PCYDDS yn Cefnogi Dilyniant Gyrfa yn Tata Steel
Mae Gradd Brentisiaeth mewn Gwyddor Deunyddiau gyda Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi helpu i gefnogi datblygiad gyrfa Charlie Morgan, gweithiwr proffesiynol peirianneg 22 oed, sy’n gweithio i Tata Steel ar safle Llanwern.
Mynychodd Charlie, sy’n dod yn wreiddiol o bentref Gwndy yn sir Fynwy, Ysgol Gyfun Cil-Y-Coed, lle astudiodd Peirianneg, Cemeg a Seicoleg lefel A. Cafodd ei gyflwyno i PCYDDS ar ôl gweld hysbyseb am radd brentisiaeth gyda Tata Steel, gan gynnig y cyfle i ennill cymhwyster lefel radd ochr yn ochr â phrofiad ymarferol yn y diwydiant.
Roedd Charlie yn awyddus i adeiladu ar yr hyn yr oedd wedi’i ddysgu yn yr ysgol, felly dewisodd y cwrs er mwyn dyfnhau ei ddealltwriaeth o beirianneg a deunyddiau, a gweld sut y mae theori yn cael ei chymhwyso mewn gweithleoedd go iawn.
“Mae’r cwrs wedi fy helpu i ddeall sut mae deunyddiau’n ymddwyn mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn a sut y gall gwahanol gamau o’r broses effeithio ar ansawdd,” meddai Charlie, sydd bellach yn ei flwyddyn olaf o astudio. “Mae hyn wedi bod yn hynod werthfawr yn fy rôl yn Tata Steel.”
Prif nod Charlie wrth ymgymryd â’r brentisiaeth oedd gwella ei sgiliau a’i hyder yn y gwaith. Drwy ddatblygu dealltwriaeth gryfach o egwyddorion peirianneg a chynhyrchu dur, mae wedi gallu deall yn well sut mae ffactorau allweddol megis tymheredd, amseru a chyfansoddiad yn dylanwadu ar ansawdd cynnyrch gorffenedig.
Un o uchafbwyntiau’r cwrs oedd datblygu sgiliau datrys problemau ymarferol. Defnyddiodd Charlie dulliau strwythuredig yn ystod prosiect seiliedig ar waith, er mwyn adnabod achosion problemau a helpu i ddod o hyd i atebion effeithiol.
“Roedd y rhan hwn o’r cwrs wedi fy helpu i feddwl yn fwy clir am broblemau a deall yr heriau sy’n gysylltiedig â gwneud newidiadau mewn amgylchedd diwydiannol,” meddai.
Yn ogystal, rhoddodd y cwrs y cyfle i Charlie gymryd rhan mewn ymweliad cwsmeriaid â ffatri BMW yn Swindon, lle gwelodd sut mae cynhyrchion Tata Steel yn cael eu defnyddio mewn gweithgynhyrchu a pham fod bodloni safonau ansawdd mor bwysig.
“Mae gweld sut mae ein dur yn cael ei ddefnyddio gan gwsmeriaid wedi tanlinellu pa mor bwysig yw ansawdd a beth sy’n gallu digwydd os nad yw safonau’n cael eu bodloni,” meddai. “Yn ogystal, mae wedi fy helpu i ddeall disgwyliadau cwsmeriaid ac adeiladu perthnasoedd proffesiynol.”
Yn broffesiynol mae’r brentisiaeth wedi cryfhau gallu Charlie i gyflawni ei rôl o ddydd i ddydd. Mae wedi datblygu gwell ddealltwriaeth ar sut i asesu perfformiad prosesau ac adnabod meysydd i’w gwella, gan ei helpu i gyfrannu’n fwy effeithiol at brosiectau yn y gweithle.
Mae effaith y cwrs wedi’i hadlewyrchu mewn dyrchafiad diweddar Charlie o Uwch Brentis Technegol i Dechnolegydd Ansawdd Sifft, rôl sy’n dod â mwy o gyfrifoldeb ac effaith uniongyrchol ar foddhad cwsmeriaid.
“Yn fy rôl bresennol, rwy’n asesu ansawdd cynnyrch, yn cefnogi ymchwiliadau i ddiffygion ac yn helpu i roi gwelliannau ar waith,” meddai. “Mae’r cwrs wedi rhoi’r hyder i mi gymhwyso’r hyn rwyf wedi’i ddysgu mewn sefyllfaoedd go iawn.”
Mae Charlie yn bwriadu parhau i adeiladu ei sgiliau technegol ac arwain ac yn gobeithio symud ymlaen â’i astudiaethau ymhellach drwy ymgymryd â chymhwyster meistr er mwyn cefnogi ei yrfa yn Tata Steel yn y dyfodol.
Meddai Matthew Wicker, Pennaeth Prentisiaethau yn PCYDDS: “Llongyfarchiadau i Charlie ar ei gynnydd a’i lwyddiant parhaus. Mae ein Gradd Brentisiaethau wedi’i chynllunio i bontio’r bwlch rhwng gwybodaeth lefel radd a’r sgiliau technegol sy’n ofynnol gan ein cyflogwyr partner a’r sector.
“Drwy gyfuno astudiaethau academaidd â phrofiad ymarferol, rydym yn helpu dysgwyr i lenwi bylchau sgiliau gofynnol ac yn cefnogi cyflogwyr i gadw’r bobl iawn i ddatblygu eu sefydliad.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071