Gradd Brentisiaeth PCYDDS yn Lansio Gwyddonydd Data o Sir Benfro ar Lwybr Yrfa AI Arloesol
Mae Gwyddonydd Data o Sir Benfro wedi rhoi clod i Radd Brentisiaeth Ddigidol Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) mewn Cyfrifiadura Systemau Data a Gwybodaeth) am drawsnewid ei yrfa a’i ysbrydoli i ddilyn ymchwil arloesol ym maes deallusrwydd artiffisial a gofal iechyd.
Mae Adam Moore, 32, o Arberth yn gweithio yn Nhîm Gwyddor Data ym Mhrifysgol Bwrdd Iechyd Hwyl Dda, lle mae’n datblygu offer AI i gefnogi penderfyniadau clinigol mewn gofal canser y brostad.
Dechreuodd drawsnewidiad gyrfa Adam yn ystod ei amser yn gweithio yn y GIG, pan oedd cydweithwyr wedi adnabod ei dalent am ddadansoddi data a’i annog i ymgeisio ar gyfer Radd Brentisiaeth Ddigidol PCYDDS.
“Yn ystod fy rôl yn Hywel Dda, sylweddolais fod gen i hoffter o fathemateg a data,” meddai Adam. “Anogodd cydweithwyr yn y Gweithlu a chyfarwyddiaeth Datblygu Sefydliadol Bwrdd Iechyd Hywel Dda fy annog i wneud cais am y brentisiaeth yn PCYDDS ac rwy’n falch iawn eu bod wedi gwneud hynny. Roedd yn drobwynt, nid yn unig yn fy ngyrfa, ond yn fy mywyd hefyd.”
Mae’r brentisiaeth wedi caniatáu i Adam weithio’n llawn amser wrth astudio ar gyfer ei radd, gan ddarparu’r cydbwysedd perffaith rhwng datblygiad proffesiynol a thwf academaidd.
“Roedd y cyfle i ennill gradd wrth barhau i weithio a chefnogi fy nheulu yn anhygoel” meddai. “Ni fyddwn wedi cael yr yrfa, y cymwysterau, neu’r cyfleoedd sydd gen i heddiw heb y profiad hwnnw.”
Yn ystod y rhaglen bedair blynedd, cydbwysodd Adam ei astudiaethau ochr yn ochr â chyflogaeth llawn amser, yn ogystal â phriodi, croesawu dau o blant a derbyn tri dyrchafiad. Rhoddodd y profiad y sgiliau a’r hyder iddo fynd ymlaen i astudiaethau ôl-raddedig, lle mae wedi rhagori ers hynny.
“Sgoriais 90 allan o 100 yn fy modwl Meistr cyntaf, y radd orau rwyf wedi ei chael erioed,” meddai Adam. “Mae’r sgiliau a’r ddisgyblaeth rwyf wedi’u datblygu drwy’r brentisiaeth wedi fy mharatoi’n arbennig o dda ar gyfer astudio ac ymchwil pellach.”
Bellach yn dechrau ar ymchwil doethurol mewn AI a gofal iechyd, mae Adam yn gobeithio cyfrannu at arloesiadau a fydd yn gwella gofal cleifion a chefnogi dyfodol gwasanaeth iechyd digidol.
“Rwyf am chwarae rôl weithredol mewn defnyddio AI i chwyldroi gofal iechyd a gwella canlyniadau cleifion,” meddai. “ Y brentisiaeth oedd y sylfaen a wnaeth hyn i gyd yn bosibl.”
Mae Adam yn parhau i eirioli dros lwybr Radd Brentisiaeth PCYDDS ac yn annog eraill i fanteisio ar y cyfle.
“Mae’n llwybr anhygoel i unrhyw un sydd edrych i symud ymlaen yn ei yrfa,” meddai. “Mae ar agor i weithwyr proffesiynol o bob oedran yr hoffai ddatblygu eu sgiliau ac mae’r gefnogaeth gan dîm PCYDDS yn anhygoel.”
Meddai Matthew Wicker, Pennaeth Prentisiaethau yn PCYDDS: “Mae stori Adam yn dangos sut mae Gradd Brentisiaethau’n trawsnewid bywydau a gyrfaoedd ar draws Cymru. Maent yn darparu addysg safon uchel, hygyrch sy’n rhoi’r sgiliau i weithwyr proffesiynol wneud gwahaniaeth go iawn yn eu diwydiannau.”
Dywedodd Lisa Gostling, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol/Dirprwy Brif Weithredwr: “Mae Adam yn aelod hynod werthfawr o staff yn Hywel Dda ac mae ei waith yn datblygu offer Deallusrwydd Artiffisial i gefnogi penderfyniadau clinigol mewn gofal canser y brostad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. Roeddem yn falch iawn o allu ei gefnogi ar ei lwybr dysgu trwy Brentisiaeth Gradd Ddigidol PCYDDS.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071