Graddedigion y Drindod Dewi Sant yn dathlu llwyddiant yn Lundain
Mae tair seremoni raddio ar gyfer myfyrwyr sy’n graddio o’n campws yn Llundain yn cael eu cynnal heddiw yn yr Intercontinental London – the O2. Mae tua 1,000 o fyfyrwyr sy’n graddio – o lefel CertHE i lefel ôl-raddedig – yn mynychu gyda’u ffrindiau, eu teuluoedd ac aelodau o’r staff ar yr achlysur cofiadwy hwn.
Mae’r seremonïau graddio yn cynnig cyfle i ddathlu llwyddiant, gwaith caled ac ymroddiad graddedigion y Drindod Dewi Sant, ac yn rhoi cyfle i gymuned y Brifysgol dalu teyrnged i’r ymroddiad hwnnw.
Wrth annerch y myfyrwyr, dywedodd yr Athro Elwen Evans, KC, Is-ganghellor y Brifysgol: “Mae’r seremonïau graddio yn nodi uchafbwynt cam yng ngyrfa academaidd ein myfyrwyr. I lawer o’n myfyrwyr, mae ennill cymhwyster addysg uwch yn agor y drws i’r cam nesaf, ac mae llawer yn mynd ymlaen i ennill graddau meistr a doethuriaeth gyda ni.
“Heddiw, rydym yn dathlu gwaith caled ac ymroddiad ein myfyrwyr, ond dylem hefyd gofio’r gefnogaeth a roddwyd gan eu teuluoedd a’u ffrindiau.”
Wrth annerch y graddedigion, dywedodd: “Rydych chi i gyd yn graddio gyda’r sgiliau a’r rhinweddau sydd eu hangen arnoch i wneud gwahaniaeth yn y yrfa rydych wedi’i dewis.
“Rwy’n hyderus, wrth i chi edrych yn ôl ar eich cyfnod fel myfyrwyr yn y Brifysgol, y byddwch yn mynd â’r nifer o gyfeillgarwch a’r atgofion hapus o’n hamser yma gyda chi, ac y bydd eich profiadau yn UWTSD o gymorth mawr i chi gydol eich bywyd.
“Dymunaf bob llwyddiant i chi yn y dyfodol ac atgoffa chi, fel cyn-fyfyrwyr y Brifysgol hon, y byddwn yn ymdrechu i’ch cefnogi ac yn gobeithio y byddwch yn parhau i gadw mewn cysylltiad â ni.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071