Gweithiwr yn Tata Steel yn trawsnewid ei yrfa trwy radd peirianneg yn PCYDDS
Mae un o weithwyr Tata Steel o Faesteg wedi cyfuno gwaith amser llawn ag addysg uwch i gyflymu ei ddilyniant gyrfa ar ôl cwblhau mewn Gwyddor Deunyddiau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Yn 27 oed, mae Rhys Davies wedi symud ymlaen o brentisiaeth dechnegol i rôl arbenigol yn adran Rheoli Ansawdd Cynnyrch Tata Steel wrth astudio’n rhan-amser ochr yn ochr â’i yrfa. Mae ei gyflawniadau eisoes wedi arwain at le ar Fwrdd Talent Swyddogaethau Technegol a rhaglen fentora’r cwmni, gyda chynlluniau i barhau i ddatblygu trwy hyfforddiant pellach ac o bosibl gradd meistr.
Dwedodd Rhys fod dilyn gradd wedi bod yn uchelgais iddo erioed.
“Yn ystod fy mhrentisiaeth dechnegol yn Tata Steel, mynegais i ddiddordeb yn barhaus mewn ennill nawdd ar gyfer rhaglen radd, felly roeddwn i’n ddiolchgar dros ben o sicrhau cymorth i gwblhau’r BEng mewn Gwyddor Deunyddiau,” meddai.
Mae ei astudiaethau yn cynorthwyo’n uniongyrchol gyda’i gyfrifoldebau o ddydd i ddydd, lle mae deall meteleg yn chwarae rhan bwysig wrth reoli systemau sy’n trosi gofynion cwsmeriaid yn ddata gweithgynhyrchu.
“Roeddwn i am gryfhau fy nealltwriaeth dechnegol fel y gallwn ni gael rhagor o effaith yn fy rôl a gwella fy nghyfleoedd gyrfa yn y dyfodol,” meddai.
Un o agweddau amlwg y cwrs oedd y modwl prosiect annibynnol, a alluogodd Rhys i ddatblygu sgiliau technegol newydd wrth ddarparu offeryn ymarferol sy’n parhau i fod o fudd i’w adran.
“Fe wnaeth y prosiect fy ngwthio i ddatblygu mewn llawer o feysydd newydd ac mae’r offeryn a greais yn dal i gael effaith go iawn o fewn y busnes,” meddai.
Cydbwyso gyrfa heriol, astudiaethau ac ymrwymiadau personol oedd un o’r heriau mwyaf yn ystod y cwrs.
“Roedd rheoli amser yn anodd ar adegau, ond fe wnaeth y cymorth gan PCYDDS a Tata Steel fy helpu i reoli’r llwyth gwaith,” meddai.
Mae Rhys yn credu bod y profiad wedi cryfhau ei ddatblygiad proffesiynol a’i hyder personol.
“Mae’r cwrs wedi bod o fudd i mi a’m cwmni, ac mae eisoes wedi agor cyfleoedd newydd ar gyfer fy ngyrfa,” meddai.
Mae Rhys yn bwriadu parhau i adeiladu ar ei lwyddiant drwy ddatblygiad proffesiynol ychwanegol ac astudiaethau ôl-raddedig yn y dyfodol.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071