Skip page header and navigation

Ar Ddydd Gŵyl Dewi rydym yn dathlu diwylliant a hunaniaeth Cymru, nid yn unig trwy symbolau a thraddodiadau cyfarwydd ond trwy’r arferion byw sy’n parhau i siapio ein cymunedau. Mae Interwoven yn un o’r prosiectau hyn, archwiliad cydweithredol o grefft, treftadaeth a dull dylunio Cymreig sy’n seiliedig ar leoedd. Trwy ddod â myfyrwyr, ymchwilwyr a gwneuthurwyr proffesiynol at ei gilydd, mae’r prosiect yn tynnu sylw at sut mae crefft yn parhau i fod yn fynegiant hanfodol o wytnwch, creadigrwydd a pherthyn diwylliannol.

A mono images of two hands weaving.

Mae’r erthygl hon gan Catherine Brown, uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a gwneuthurwr ac eiriolwr hirsefydlog dros addysg crefft, yn cynnig cipolwg agos ar broses a phwrpas y prosiect, gan grisialu sut mae gwehyddu, deunyddiau treftadaeth, a chydweithio rhyngddisgyblaethol yn dod at ei gilydd mewn ffyrdd ystyrlon ac, yn aml, annisgwyl. Mae persbectif Catherine nid yn unig yn seilio’r prosiect mewn profiad byw ond hefyd yn taflu goleuni ar y rheswm pam y mae’r weithred o wneud, a’r straeon sydd wedi’u hymgorffori o’i mewn, yn parhau i fod yn bwysig yn y Gymru gyfoes.

Interwoven – Pam y mae Crefft, Treftadaeth a Chydweithredu’n Fwy Pwysig Nag Erioed

“Ni allai’r teitl Interwoven fod yn fwy addas ar gyfer y prosiect ymchwil hwn. Mae’n ymwneud nid yn unig â’r technegau llythrennol o wehyddu a gwneud basgedi a archwiliwyd gennym, ond hefyd y plethu trosiadol o ddisgyblaethau, profiadau a safbwyntiau. Mae’r hyn sydd wedi datblygu yn ymgysylltiad gwirioneddol gydweithredol a rhyngddisgyblaethol. 

Mae’n rhyng-gysylltiad rhwng Celf a Dylunio ac Anthropoleg a Seicoleg gyda phob llinyn yn cyfoethogi’r lleill. Yn greiddiol ac yn gyswllt cyffredin i’r prosiect hwn mae’r profiadau byw sy’n dod i’r amlwg trwy’r broses o wneud, trin deunyddiau, ac ymateb i’r amgylcheddau lle mae’r deunyddiau hynny’n bodoli.

Fel gwneuthurwr ac eiriolwr hirsefydlog dros addysg crefft, rhoddais groeso brwd i’r prosiect hwn. Gwyddwn y byddai myfyrwyr a staff nid yn unig wrth eu bodd â’r broses o ddysgu gwneud basgedi, ond hefyd yn gwerthfawrogi’r hanes a’r dreftadaeth leol ddofn sydd wedi’u gwreiddio yn y grefft hynafol hon. 

Mae gweithio gyda’r tîm ymchwil wedi rhoi mewnwelediad uniongyrchol i fyfyrwyr ar sut mae ymchwil yn cael ei gynnal, ac maent wedi dod yn gyfranogwyr gweithredol yn y data ffenomenolegol a gasglwyd trwy gyfnodolion a recordiadau llais. Mae eu myfyrdodau ar ddeunydd, proses a lle eisoes yn dangos sut mae gwehyddu yn dechrau dylanwadu ar eu harfer eu hunain a’u meddwl creadigol.

Ond mae cydweithio ar y prosiect hwn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i staff academaidd yn gweithio ar draws Athrofeydd y Drindod Dewi Sant. <0} Un o’n prif nodau yw dylunio a gwneud basged wymon ar gyfer Car Y Môr, cwmni gwymon yn Sir Benfro. Maent wedi dangos diddordeb brwd mewn adfywio ffurfiau basged traddodiadol fel dewisiadau amgen cynaliadwy yn lle bagiau casglu plastig. 

Yn hanesyddol, roedd basgedi o’r fath yn cael eu gwneud o helyg a chyll lleol a byddent yn parhau i gael eu defnyddio nes y byddent wedi treulio. Mae ein myfyrwyr wedi dilyn y llinach hon yn uniongyrchol, gan ymweld â choedwigoedd helyg a chyll, dysgu am dyfu, cynaeafu a storio, ac, o dan arweiniad y basgedwr proffesiynol Clare Ravera, maent wedi bod yn datblygu’r sgil dechnegol o wehyddu gyda’r deunyddiau hyn.

I mi, fodd bynnag, mae arwyddocâd y prosiect hwn yn ymestyn ymhellach fyth. Mewn byd sy’n prysur droi’n ddigidol, mae’r weithred o ddysgu crefft o wneud â’ch dwylo eich hun wedi dod nid yn unig yn apelgar, ond yn angenrheidiol. 

Yn adran y Celfyddydau a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, rhoddir lle hanfodol i grefftau treftadaeth. Mae ein prentisiaeth Gwydr Lliw yn parhau i dyfu, ac mae ein rhaglenni Crefftau Dylunio ar lefelau israddedig ac ׅôl-raddedig yn denu myfyrwyr sy’n awyddus i weithio’n uniongyrchol â deunyddiau a meithrin gwybodaeth ymgorfforedig. Nid gweithred dechnegol yn unig yw gwneud, mae’n ffordd o wybod, o drwytho ein hunain, o ailymgysylltu â’r byd ffisegol wrth i amgylcheddau digidol ddatblygu’n gyflym o’n cwmpas.

Mae hyn yn ein harwain at gwestiwn hanfodol. Wrth i Car Y Môr gydweithio â’n myfyrwyr i ddylunio basged wymon gynaliadwy, pwy fydd yn eu gwneud? Yn wahanol i rai plastig, bydd angen ail-wneud ac adnewyddu’r basgedi hyn yn amlach. 

Yn hanesyddol, roedd grwpiau cymdeithasol fel Sefydliad y Deillion yn lleol yn gwehyddu basgedi at ddefnydd cymunedol, gyda’u gwaith yn cefnogi diwydiannau fel casglu cocos a chasglu gwymon. Yng nghanol anrhefn yr economi ddigidol heddiw, a allai fod lle ystyrlon eto ar gyfer cynhyrchu crefftau yn araf a phwrpasol dan ysgogiad y gymuned? A allai’r broses o wneud ddod nid yn unig yn weithgaredd economaidd ond yn un gymdeithasol a diwylliannol, gan ailgysylltu pobl â threftadaeth, deunyddiau, a’i gilydd?

Yn y pen draw, ein bwriad yw arddangos y llinynnau cydblethedig niferus hyn drwy arddangosfa, sy’n dathlu treftadaeth Cymru, yn benodol treftadaeth menywod Cymru, y sgiliau crefft technegol a chreadigol yn ein cymuned, a’r gwaith myfyrwyr sydd wedi ffynnu o ganlyniad i’r prosiect hwn.  Mae Interwoven yn fwy na theitl, mae’n ddatganiad o hyder yng ngwerth crefft, cydweithredu, a’r angen dynol i wneud.

Manylion y Prosiect

Mae Interwoven yn cael ei arwain gan Glymblaid UNESCO MOST BRIDGES, fel y prif bartner ymchwil sy’n darparu’r ymchwil o fewn prosiect yr AHRC Coastal TALES, Telling Adaptation, Living Environmental Stories for Coastal Resilience. Cefnogir y gwaith hwn gan Gyllid Catalydd PCYDDS.

Mae Clare Ravera yn fasgedwr o fri cenedlaethol ac yn aelod dethol o Urdd y Gwneuthurwyr Cymru yn ogystal â’r Worshipful Company of Basketmaking. 

Credyd llun: Shellie Holden


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon