Skip page header and navigation

Mae aelod o staff ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn paratoi i gystadlu ar y llwyfan byd-eang, ar ôl cael ei ddewis i gynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Aquabike Pellter Hir y Byd 2026 yn Abu Dhabi.

James Moore on the podium in position one in the British Championsips

Bydd James Moore, sy’n gweithio yn Athrofa Rheolaeth ac Iechyd y brifysgol yn cystadlu yn y categori ‘Aquabike’ Pellter Hir (grŵp oedran 50–54) ar 22 Tachwedd. Mae hyn yn ychwanegu carreg filltir ryngwladol arall at daith chwaraeon drawiadol, sydd wedi ei weld yn datblygu o fod yn ddechreuwr i ddod yn Bencampwr Prydain.

Dechreuodd James ymwneud â thriathlon yn 2016–17, yn dilyn blynyddoedd o hyfforddi gwirfoddol mewn chwaraeon ieuenctid yn ardal Caerfyrddin. Ar y pryd, nid oedd yn gallu nofio, nid oedd ganddo feic, ac nid oedd wedi cystadlu mewn rasio rhedeg ers iddo fod yn ifanc iawn.

Gyda phenderfyniad i wella, dechreuodd wneud ei farc yn y gamp yn gyflym; daeth yn drydydd yn y ‘Welsh Super Series’ yn 2018 ac yn ail yn 2019.

Yn dilyn y pandemig, gosododd James y nod o gystadlu ar lefel ryngwladol. O ganlyniad i’w ymroddiad, llwyddodd i gymhwyso ar gyfer tîm Triathlon Prydain, ac mae wedi bod yn cynrychioli Prydain Fawr ers 2024.

Mae ei lwyddiannau’n cynnwys gorffen yn y 10 uchaf yn Ewrop yn 2025 a 2026, dod yn Bencampwr Cymru yn 2025, a chynrychioli Tîm Cymru yn 2025 a 2026. Yn 2026, enillodd deitl Pencampwr Prydain hefyd.

Wrth edrych ymlaen at y Pencampwriaethau Byd, dywedodd James:

“Pan ddechreuais i, doeddwn i ddim yn gallu nofio, doedd gen i ddim beic, ac ni allwn i erioed ddychmygu y byddwn i, un diwrnod, yn cynrychioli Prydain Fawr mewn Pencampwriaeth Byd. Mae wedi cymryd llawer o waith caled, ymrwymiad a phenderfyniad i gyrraedd y pwynt hwn, felly mae cael fy newis i gystadlu yn Abu Dhabi yn fraint wirioneddol.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y profiad - cystadlu yn erbyn athletwyr o bob cwr o’r byd a gweld sut rwy’n cymharu â nhw ar y llwyfan byd-eang. Mae’n gyffrous cael y cyfle hwn, a byddaf yn rhoi popeth sydd gennyf. Rwy’n ddiolchgar am y gefnogaeth y mae’r Brifysgol wedi’i rhoi i mi ac rwy’n falch o gynrychioli Prydain Fawr ac yn methu aros i fynd allan yno a chystadlu.” 

Yn ogystal â’i ymrwymiadau chwaraeon, mae James wedi treulio’r pedair blynedd ddiwethaf yn gweithio yn Y Drindod Dewi Sant, lle mae’n dysgu yn y maes arweinyddiaeth, rheoli pobl, amrywiaeth, datblygiad a llesiant ar raglenni MBA a graddau meistr, yn ogystal â rhaglen Lefel 5 y brifysgol sydd wedi’i hachredu gan y CIPD. Mae ei ddiddordebau proffesiynol mewn arweinyddiaeth a llesiant yn cyd-fynd â’r ymrwymiad, y gwydnwch a’r penderfyniad sydd eu hangen i gystadlu ar lefel uchaf ei gamp.

Mae Pencampwriaethau Aquabike Pellter Hir yn dod â chystadleuwyr o bob cwr o’r byd ynghyd ar gyfer digwyddiad dygnwch sy’n cyfuno nofio a beicio, gydag athletwyr yn cystadlu am deitlau byd yn eu categorïau grŵp oedran priodol.

I James, mae’r digwyddiad yn gam arwyddocaol arall ar daith chwaraeon a ddechreuodd lai na degawd yn ôl. Mae ei ddatblygiad o fod yn ddechreuwr i ddod yn Bencampwr Prydeinig ac yn gystadleuydd rhyngwladol yn adlewyrchu’r gwaith caled a’r ymroddiad y mae wedi’u buddsoddi yn y gamp.

Mae’r brifysgol yn dymuno pob llwyddiant i James wrth iddo baratoi i gynrychioli Prydain Fawr yn Abu Dhabi.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon