Skip page header and navigation

Rydyn ni’n edrych ‘mlaen yn fawr at yr Eisteddfod y Garreg Las a’r llu o weithgareddau sydd wedi’u trefnu ar ein stondin i ddiddanu, difyrru ac i addysgu.

UWTSD Timetable - Eisteddfod 2026

Dewch i’n gweld ar stondin 803 – 806 ar y maes lle cewch groeso cynnes a chyfle i ddysgu mwy am ein cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig, yn cynnwys ein gradd-brentisiaethau

Dewch heibio i ddysgu mwy am wneud cais i’r Brifysgol a’n trefniadau dros gyfnod Clirio eleni.

Dyma rhai o’r pigion dros yr wythnos: 

  • Lansiad gradd newydd BA Plentyndod, Addysg a Chymdeithas yng nghwmni Ann Davies, AS, sy’n gyn-fyfyriwr a chyn ddarlithydd y cwrs blynyddoedd cynnar. 
  • Dewch i ddysgu mwy am ein gradd-brentisiaethau a chlywed gan Lowrie Proctor, cyn-fyfyrwraig o’r cwrs BSc mewn Cyfrifiadura, Systemau Data a Gwybodaeth am ei thaith a’i chynnydd yn ei gweithle. 
  • Ymunwch â’r ymchwilydd PhD, Mark Rees, wrth iddo archwilio sut y bu tirweddau dramatig Cymru ac artistiaid gweledigaethol yn helpu i lunio genre a roddodd i ni glasuron fel Frankenstein a Dracula.
  • Byddwn yn croesawu athrawon i glywed awduron a darlithwyr yn trafod pwysigrwydd dod â llyfrau’n fwy i’n plant a phobl ifanc.
  • Bydd Dr Christine Jones yn trafod tafodieithoedd Bro’r Eisteddfod ac yn cynnig cyfle ichi bori drwy’r archif.
  • Cewch greu celf, dylunio car rasio, ymweld â’r Alpau drwy realiti rhithwir a phori dros adnoddau addysgiadol ac unigryw Peniarth.

Edrychwn ymlaen at eich gweld!

Poster of Tafodieithoedd Dyfed

Gwybodaeth Bellach

Eleri Beynon

Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 01267 676790

Rhannwch yr eitem newyddion hon