Josef Herman: Perthyn
Mae gwaith Josef Herman yn meddiannu lle unigryw o fewn y byd celf yng Nghymru, wedi’i lunio gan brofiadau o alltudiaeth, goroesiad a chwilio am gysylltiad. Yn y darn meddwl hwn, mae Gwenllian Beynon, darlithydd yng Ngholeg Celf Abertawe, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, yn adfyfyrio ar daith Herman i Gymru a’r ymdeimlad o berthyn a gafodd yn Ystradgynlais. Gan dynnu ar ei chysylltiad â Sefydliad Celf Josef Herman Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae’r darn yn archwilio sut mae themâu cymuned, cof a bywyd gwaith yn dod i’r amlwg ar draws arfer Herman, a sut mae ei etifeddiaeth artistig yn parhau i lywio addysg, lle a hunaniaeth yng Nghymru.
Mewn addysg celf a dylunio, mae’n bwysig i’n myfyrwyr i ddysgu am ystod eang o ymarferwyr celfyddydau o feysydd arfer gwahanol ac amrywiol. Mae gwybodaeth am gelf yng Nghymru yn ffocws arbenigedd rwy’n ei rannu gyda myfyrwyr o bob lefel yng Ngholeg Celf Abertawe PCYDDS. Un artist o’r fath yw’r artist ymfudol/ffoadur o Wlad Pwyl, Josef Herman a oedd yn byw yn Ystradgynlais yng Nghwm Tawe rhwng 1945 ac 1955, a ddaeth yn adnabyddus am ‘ei ddarluniadau Mynegiadol o lowyr Cymreig’ (Thomas 2024) a gweithwyr yr ardal a gynhyrchwyd mewn ffyrdd o greu celf nad oedd yn gyfarwydd mewn celf Gymreig yn ystod yr 1950au.
Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gweithio ar adnodd gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth – sy’n cynrychioli sefydliad Josef Herman yn Ystradgynlais, lle rwy’n ymddiriedolwr; Coleg Celf Abertawe, lle rwy’n ddarlithydd; a chasgliad celf Herman yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Nod yr adnodd yw darparu rhywfaint o wybodaeth sylfaenol am Herman ac i ddarparu cysylltiadau â’i gelf yng nghasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Thema’r adnodd yw Perthyn, ac mae dolennau at waith Herman sy’n dangos yr ymdeimlad hwn o berthyn i le, a gafodd yng Nghymru ac yn enwedig yn Ystradgynlais, wedi’u cynnwys yn yr adnodd. Meddai Herman ‘Arhosais yma oherwydd wnes i ddod o hyd i bopeth oedd ei angen arnaf. Cyrhaeddais yma yn ddieithryn am bythefnos; daeth y pythefnos yn 11 mlynedd.’ JHAFC. (2025)
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd, datblygwyd moderniaeth ryngwladol (Thomas, 2024) yng Nghymru gan artistiaid oedd wedi’u dadleoli, o wledydd eraill, a oedd wedi gorfod gadael eu cartrefi oherwydd effeithiau’r rhyfel. Gadawodd arlunwyr fel Josef Herman Wlad Pwyl oherwydd y cynnydd mewn gwrth-semitiaeth yn Warsaw ym 1935. Teithiodd ar draws Ewrop o Wlad Pwyl gan ddod o hyd i loches mewn amrywiol wledydd ar hyd y ffordd. Yn y pen draw, cyrhaeddodd Glasgow ym 1940, ac yma derbyniodd lythyr trwy’r Groes Goch i roi gwybod iddo fod ei deulu wedi cael eu lladd yn y Getos yn Warsaw. Gwnaeth weithiau celf yn ystod y cyfnod hwn yn cofio am ei fywyd yng Ngwlad Pwyl a chawsant eu harddangos yn ddiweddarach ym 1985 a rhoddwyd iddynt y teitl Atgof o’r Atgofion. Mae’r paentiadau a’r lluniadau hyn yn deffro atgof am ei orffennol nad oedd ar gael iddo ef mwyach ac mae’r ymdeimlad hwn o atgof a hiraeth i’w gweld yn rymus yn ei gelf. Er na pharhaodd Herman â’r themâu hyn, parhaodd i chwilio am lais a mynegiant gweledol yn ei waith, a daeth o hyd i hyn yng Nghymru trwy’r Glowyr a’r gweithwyr yn Nyffryn Tawe. Daeth taith Herman trwy Ewrop ag ef i Ystradgynlais a chafodd ymdeimlad o berthyn yno a chartref. Rhoddwyd y llysenw Jo Bach iddo - roedd Herman yn ddyn byr a’r term yn cyfleu hoffter.
Yn adnodd y Llyfrgell Genedlaethol, dangosir yr ymdeimlad o berthyn a deimlai Herman ar ôl colli popeth, yn rhai o’r gweithiau celf sydd yng nghasgliad y llyfrgell. Gellir gweld y rhain yn yr adnodd ac maent yn cynnwys teulu mewn drws lle mae’r fam yn eistedd yn dal babi gan edrych i fyny ar y tad, gyda phlentyn arall yn y cefndir. Dangosir perthynas y teulu â’i gilydd yn glir yn y llun pen ac inc syml hwn (proses boblogaidd a ddefnyddiodd Herman dro ar ôl tro). Delwedd arall yw un o lowyr ar y bws. Mae un o’r glowyr yn cario babi yn y siôl Gymreig, ffordd draddodiadol o gario babanod yng Nghymru, lle mae’r babi wedi’i lapio’n dynn wrth gorff yr oedolyn gyda siôl wlân, ac mae’n amlwg bod y glowyr mewn sgwrs fywiog â’i gilydd. Mae paentiad arall yn dangos mam a phlentyn, thema bwysig arall i Herman, sy’n cael ei wneud yn fwy teimladwy pan ystyriwn fod Herman wedi colli ei fam a’i frawd a’i chwaer iau yn y getos. Yn y paentiad olew hwn, mae Herman yn cyflwyno mam sydd hefyd yn cario babi mewn siôl.
Pwysigrwydd Herman i Gymru yw iddo ddod yn adnabyddus am ddarlunio a phaentio’r glowyr, y gymuned lofaol a’i phobl. ‘Nid yw e’n dweud wrthon ni sut mae Ystradgynlais a’i phobl yn edrych, ond mae ei deimladau tuag at y lle a’i phobl yn creu byd newydd o ffurf a siâp a lliw a thôn.’ (Wakelin, 2018). Dyma’r themâu ac arferion y parhaodd â nhw am weddill ei yrfa ar ôl gadael Ystradgynlais hyd at ei farwolaeth yn 2000. Mae ei gysylltiad â Chymru yn etifeddiaeth barhaol i Gymuned Ystradgynlais ac mae’n parhau hyd heddiw yng ngwaith Sefydliad Celf Josef Herman Cymru sy’n gofalu am archif o waith Herman sydd wedi’i lleoli yn y Neuadd Les, Ystradgynlais. Mae’r sefydliad yn canolbwyntio ar yr artist ac agweddau ar fywyd Herman, ei gelf, hawliau dynol ac addysg. Mae’r pileri o’r sefydliad hyn yn cynnal cysylltiad Herman â Chymru ac yn benodol ag Ystradgynlais gan ffurfio ymdeimlad pellach o berthyn yn yr etifeddiaeth hon.
Dolen i’r adnodd https://www.llyfrgell.cymru/darganfod-dysgu/addysg/adnoddau-dysgu/josef…
JHAFC. (2025). Josef Herman - Josef Herman Foundation. [ar-lein] Ar gael yn: <http://josefhermanfoundation.org/about/josef-herman/> (Cyrchwyd : Hydref 2025).
Thomas, T. (2024) Bell and Armistead: the making of modern art in Wales. [ar-lein] Ar gael yn: https://artuk.org/discover/stories/bell-and-armistead-the-making-of-mod… (Cyrchwyd : Hydref 2025).
Wakelin. P (2018) Then and now: 80 years of collecting contemporary art for Wales. [ar-lein] Ar gael yn: https://artuk.org/discover/stories/then-and-now-80-years-of-collecting-… (Cyrchwyd : Gorffennaf 2021)
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476