Skip page header and navigation

Mae Llio Cynwal o Landudno yn dathlu llwyddiant mawr wrth raddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant gyda gradd BA Perfformio. Mae’r garreg filltir hon yn nodi dechrau cyffrous ar ei thaith fel perfformiwr proffesiynol.

Llio Cynwal in her cap and gown

Datblygodd Llio ei hangerdd am y llwyfan o oedran ifanc, gan fynychu ysgol berfformio ym Mae Colwyn a chystadlu’n rheolaidd yn Eisteddfod yr Urdd. Dewisodd Llio astudio yn  y Drindod Dewi Sant, oherwydd:

“Roedd y cwrs yn cael ei ddysgu yn gyfan drwy gyfrwng Gymraeg. Roedd cael astudio be dwi’n angerddol am yn fy mamiaith wir yn apelio ataf. Hefyd roeddwn eisiau dysgu mwy a mireinio fy nghrefft cyn imi fynd i’r byd proffesiynol. Roeddwn am ehangu fy ngwybodaeth o’r diwydiant yr oeddwn am gamu mewn iddo, a hefyd roeddwn yn bwriadu datblygu fy sgiliau  creadigol”

Bu sawl uchafbwynt yn ystod ei chyfnod ar y cwrs, gan gynnwys perfformio fersiwn arbennig o Breuddwyd Noswyl Ifan gan Shakespeare.  Cafodd nifer o ddosbarthiadau meistr gan arbenigwyr sy’n gweithio yn y diwydiant megis Teleri Hughes (Heathers, West End), Arwel Gruffydd  a Gwenan Mair Jones (Theatr Clwyd), a Kevin McCurdy (Stage Combat).

Ychwanegodd: 

“Dwi wedi gwneud ffrindiau am byth yn ystod fy amser yn y Drindod Dewi Sant,  ac un o’r uchafbwyntiau drwy gydol y cwrs oedd cael tyfu fel person a pherfformiwr yng nghwmni fy ffrindiau.” 

Dywedodd Llio ei bod wedi derbyn cefnogaeth barhaus gan ei thiwtoriaid.

“Roeddwn yn teimlo fel eu bod yno imi bob amser. Pan oeddwn yn teimlo rhywbeth yn anodd neu’n heriol roeddwn yn gwybod eu bod yno i helpu, gyda chymorth ac adborth gwych ac adeiladol. Yn wir maent dal mewn cysylltiad nawr wedi imi raddio , yn cynnig cyngor, cefnogaeth a fy nghyfeirio i’r cyfeiriad cywir yn fy ngyrfa.”

Meddai Angharad Lee, Rheolwr Rhaglen BA Perfformio yn Academi Llais a Chelfyddydau Dramatig Cymru:

“Roedd yn amlwg bod Llio yn actores â chariad at yr ochor gorfforol i berfformio, ac un o fanteision strwythur ein modiwlau yma yn WAVDA yw bod cyfle i fireinio’r grefft hon bron bob dydd os ydych chi’n actor sy’n caru symud. Rydyn ni’n gweithio’n galed i ddod o hyd i brif gryfderau ein myfyrwyr a’u meithrin gyda hyder.”

Teimla Llio fod y cwrs

“wir wedi fy mharatoi tuag at y byd proffesiynnol rwyf yn troedio ynddo. Nid yn unig drwy gryfhau fy sgiliau ymarferol a chreadigol ond hefyd agor fy llygaid a’n addysgu ynghylch elfennau technegol a rhesymegol diwydiant megis cyllid, undebau gwaith, asiantaethau a mwy!” 

image of Llio Cynwal dancing in the panto

Mae Llio wedi bod yn ddigon ffodus ar ôl cwbwlhau ei chwrs i gael gwaith gan Gwmni Mega, ac mae wrth ei bodd fel aelod o’r ensemble yn eu pantomeim Brenin March, yn dawnsio, canu ac yn portreadu cymeriad llawn egni o’r ensemble sy’n dawnsio a chanu. Mae’n teimlo fod ei chyfnod yn y Brifysgol wedi ei helpu i fagu hyder a’i haddysgu am sut mae clyweliadau’n gweithio am sut i gyfathrebu’n broffesiynol o fewn y diwydiant.

Ar ôl i gyfnod y pantomeim ddod i ben, mae Llio’n  gobeithio parhau i berfformio ac ymgeisio i astudio am gwrs MA sy’n arbenigo mewn cyfarwyddo symud. 

Mi fyddai Llio’n yn argymell y cwrs yma i unrhyw un sy’n dymuno dilyn yr un llwybr gyrfa. Meddai: 

“Mae’r cwrs yn un unigryw. Dyma’r unig gwrs perfformio graddedig ble’r rydych yn astudio yn gyfan gwbl drwy’r gyfrwng y Gymraeg, ac mae wedi’i lleoli’n ganolog yng Nghaerdydd ble mae nifer o gyfleoedd celfyddydol, a chymdeithasol.” 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon