Skip page header and navigation

Mae cadw dogfennau prin yn hanfodol er mwyn diogelu trysorau o’r fath fel rhan o dreftadaeth ddiwylliannol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.   

Mae’r gwaith yn hanfodol i dîm Casgliadau Arbennig ac Archifau’r Brifysgol sydd wedi creu partneriaeth ag Archifau Sir Penfro er mwyn gwneud gwaith cadwraeth ar ein cyfrolau prin ac un cynllun pensaernïol sydd wedi’u tynnu’n ôl o addysgu a mynediad cyhoeddus yn y blynyddoedd diweddar o ganlyniad i’w cyflwr bregus.  

Image of blue bellied parrot (john white voyage to NSW)

Mae’r eitemau hyn sydd wedi’u dyddio o 1520 i 1905, yn dangos graddau amrywiol o ddifrod a thraul, yr oedd llawer o hyn wedi digwydd cyn iddynt gael eu caffael gan Gasgliadau Arbennig PCYDDS, Llyfrgell Roderic Bowen a’r Archifau.   Bydd y gwaith cadwraeth sy’n waith medrus a chymhleth iawn, yn cymryd sawl wythnos i’w gwblhau. 

Ymhlith y cyfrolau a dewiswyd ar gyfer cadwraeth, mae A Second Voyage Round the World gan Gapten James Cook (1776), a Journal of a Voyage to New South Wales gan John White (1790), a ysgrifennwyd gan lawfeddyg alldaith y First Fleet i Bae Botony.  Bydd y ddau lyfr yn cefnogi addysgu ar ddad-drefedigaeth a threftadaeth dywyll. 

Yn ogystal, mae’r prosiect yn cynnwys gwaith cadwraeth ar Parochiale Curatorum (1520). Wedi’i rhwymo ag olion hen lawysgrif, mae’r gyfrol hon yn cynnig enghraifft ddiddorol o ailgylchu ar ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg a bydd y gyfrol yn cefnogi gweithgareddau addysgu ar lenyddiaeth fodern gynnar, gan gynnwys modylau sy’n archwilio’r llyfr fel gwrthrych ffisegol. 

Yn ogystal, bydd gwaith cadwraeth yn cael ei wneud ar  Botanicum Medicinale (1759) gan Timothy Sheldrake.  Ystyrir bod y gyfrol sy’n cynnwys 120 o engrafiadau plât copr manwl, yn un o’r gweithiau mwyaf trawiadol yn y casgliad.

Image of Sheldrake Nutmeg page

Diolch i rodd hael gan gyn-fyfyriwr, mae PCYDDS yn gallu nodi 300 o flynyddoedd ers geni Thomas Pennant trwy wneud gwaith cadwraeth ar ei Tour in Wales, Volume 1 (1778). Disgrifir Pennant yn aml fel tad twristiaeth Gambriaidd, gyda theithwyr yn aml yn cario ei lyfr fel tywysydd.  Bydd y gyfrol wedi’i hadfer yn darparu adnodd amhrisiadwy ar gyfer astudio hanes a diwylliant Cymru. 

image of Thomas Pennant

Yn ogystal â’r llyfrau prin, bydd gwaith cadwraeth yn cael ei wneud ar gynllun pensaernïol ar gyfer yr ystafell gyffredin newydd arfaethedig yng Ngholeg Hyfforddi’r Drindod.  Mae’r cynllun a ddyluniwyd gan y pensaer Ernest V. Collins a oedd yn gyfrifol am lawer o adeiladau Coleg y Drindod, yn cael ei effeithio gan faw ar yr arwyneb, cyrlio trwm a lawer o rwygiadau. Bydd cadwraeth yn galluogi’r cynllun i gael ei wneud mewn gweithgareddau addysgu a chael ei arddangos ochr yn ochr â chasgliad dyluniadau pensaernïol Coleg y Drindod. 

Ar ôl eu dychwelyd, bydd yr eitemau sydd wedi cael gwaith cadwraeth arnynt yn cefnogi addysgu a dysgu ar draws y Brifysgol unwaith eto.  Yn ogystal, byddant yn cael eu harddangos mewn arddangosfeydd a diwrnodau agored, gan ganiatáu cynulleidfaoedd ehangach ymgysylltu â’r deunyddiau hynod hyn.  Mae cynlluniau ar waith i arddangos yr eitemau ochr yn ochr â delweddau ‘cyn ac ar ôl’, gan gynnig cipolwg i’r broses gadwraeth a phwysigrwydd cadw ein treftadaeth ddiwylliannol. 

Mae PCYDDS yn falch o gynnig mynediad i fyfyrwyr at gasgliadau eithriadol o archifau, llyfrau prin a llawysgrifau, llawer o ohonynt sydd ag arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol.  Bydd y gadwraeth o’r eitemau hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn parhau i elwa ar y profiad ysbrydoledig a chyfoethog o weithio’n uniongyrchol â deunyddiau hanesyddol gwreiddiol. 

Meddai Siân Collins, Pennaeth Casgliadau Arbennig yn PCYDDS: 

“Rydym wrth ein boddau i gael y cyfle i wneud yr eitemau gwych hyn yn hygyrch unwaith eto i’n myfyrwyr, yn ogystal ag i ymchwilwyr a’r gymuned ehangach.  Yn bennaf oll, mae ein casgliadau Llyfrau Prin yn wrthrychau ffisegol bregus ac mae angen gofal curadurol arbenigol er mwyn sicrhau eu diogelwch a’u hargaeledd parhaus.  Rydym yn gyffrous i weithio gyda chadwraethwyr yn NCS a PALS er mwyn gwneud i hyn ddigwydd.”

Meddai Claire Orr, Rheolwr Archifau yn Archifau Sir Penfro:  

“Mae Archifau a Gwasanaethau Astudiaethau Lleol Sir Penfro yn falch iawn o chwarae rhan wrth wella mynediad i’r eitemau pwysig hyn.   Mae partneriaethau cydweithredol yn caniatáu mwy o effaith, ac mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni trwy arbenigedd a rennir.” 

Meddai Chris Woods, Cyfarwyddwr y Gwasanaeth Cadwraeth Cenedlaethol:        

 “Mae’r prosiect hwn yn newyddion ardderchog. Rydym bob amser yn awyddus i gefnogi archifau a llyfrgelloedd i gadw eu casgliadau hanesyddol a gwella mynediad iddynt. Mae’r fenter gydweithredol gyda PCYDDS yn adlewyrchu’r math o bartneriaeth rydym yn falch o feithrin trwy ein gwaith gyda Archifau ac Astudiaethau Lleol Sir Penfro.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon