Mae PCYDDS yn falch o ddathlu llwyddiant Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK fel lleoliad swyddogol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch o fod wedi gwasanaethu fel un o’r lleoliadau swyddogol ar gyfer Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK 2025 – ac mae’n falch iawn o ddathlu cyflawniadau rhagorol ei chystadleuwyr, a sicrhaodd gydnabyddiaeth genedlaethol yn y digwyddiad eleni.
Enillodd Rehan Joseph o PCYDDS wobr Efydd yn y categori Technegydd Seilwaith Rhwydwaith, ac enillodd Tamzin Brewer wobr Canmoliaeth Uchel mewn Melino CNC, gan arddangos ymhellach enw da cynyddol y Brifysgol am ragoriaeth dechnegol.
Datgelwyd eu llwyddiant mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn ICC Cymru ddydd Gwener 28 Tachwedd, yn dilyn dau ddiwrnod o gystadlu brwd a oedd yn cynnwys dros 400 o bobl a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar draws mwy na 40 o gategorïau sgiliau. Dangosodd y cystadleuwyr hyfedredd o’r radd flaenaf mewn disgyblaethau yn amrywio o dechnolegau digidol a pheirianneg uwch i letygarwch, celfyddydau creadigol, a gwyddorau iechyd.
Dywedodd Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru: “Mae hon yn foment falch i PCYDDS. Mae gweld ein myfyrwyr yn cael eu cydnabod ar lefel genedlaethol yn adlewyrchu eu talent, eu gwaith caled, ac ymroddiad ein timau academaidd a chymorth. Mae cynnal y rowndiau terfynol cenedlaethol yn tynnu sylw ymhellach at ein hymrwymiad nid yn unig i ragoriaeth academaidd, ond i yrru datblygiad sgiliau ledled y DU.”
Dywedodd Ben Blackledge, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran yng nghystadlaethau cenedlaethol WorldSkills UK. Maent wedi dangos eu sgiliau ar y lefel uchaf ac mae’r bobl ifanc eithriadol hyn yn cynrychioli dyfodol ein heconomi. Mae ein cystadlaethau, sy’n seiliedig ar safonau byd-eang, yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu’r sgiliau a fydd yn gyrru buddsoddiad, yn creu swyddi, ac yn tanio twf economaidd.”
Fel lleoliad balch ar gyfer y rowndiau terfynol cenedlaethol eleni, croesawodd PCYDDS gystadleuwyr, arbenigwyr yn y diwydiant, ysgolion ac ymwelwyr o bob cwr o’r DU i gampws Glannau Abertawe. Cefnogodd y Brifysgol y gwaith o gyflwyno heriau oedd yn berthnasol i’r diwydiant gan arddangosodd ei hymrwymiad i arwain addysg sgiliau ledled Cymru a thu hwnt.
Mae’r gystadleuaeth eleni yn dilyn y cyhoeddiad cynharach bod myfyrwyr PCYDDS Luke Redmore (Peirianneg Meddalwedd) a Rehan Joseph (Rhwydweithiau Cyfrifiadurol a Seiberddiogelwch), ynghyd â Tamzin Brewer a Lloyd Thomas mewn disgyblaethau CNC, wedi’u dewis i fod yn y rownd derfynol – camp sylweddol a oedd yn dangos ymrwymiad personol a chryfder amgylchedd addysgu a hyfforddi PCYDDS.
Cefnogwyd gwaith paratoi Luke a Rehan gan arbenigedd ac ymroddiad yr Uwch Ddarlithydd a’r Rheolwr Hyfforddiant Nitheesh Kaliyamurthy, arbenigwr WorldSkills UK ar gyfer y sgil Gweinyddwr Systemau Rhwydwaith, a’r darlithydd Munyaradzi Murira, y gwnaeth ei hyfforddiant, ei arweiniad a’i anogaeth ef gyfuno i chwarae rhan allweddol wrth baratoi’r ddau ar gyfer cystadleuaeth ar y lefel uchaf.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071