Skip page header and navigation

Mae’r myfyriwr dylunio graffeg Conrad Selby wedi disgrifio ei semester astudio a ariannwyd gan Taith ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Fullerton (CSUF), fel “profiad gorau fy mywyd yn y coleg.”

A smiling student dressed in a dark coloured shirt.

Mae Conrad ymhlith nifer o fyfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) sydd wedi elwa o’r rhaglen a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n cefnogi cyfleoedd dysgu rhyngwladol ac sy’n galluogi myfyrwyr i ehangu eu gorwelion academaidd, diwylliannol a phersonol.

Yn ystod ei semester yng Nghaliffornia, cydiodd Conrad yn y cyfle i archwilio system addysg newydd, profi bywyd myfyrwyr America, a theithio ar draws y dalaith, gan gael ysbrydoliaeth o’i diwylliant dylunio amrywiol.

“Roedd y cyfle i astudio yn Cal State Fullerton yn anhygoel,” meddai Conrad. “Roeddwn i’n gallu cymryd dosbarthiadau y tu allan i’m maes astudio arferol, teithio ledled Califfornia a phrofi gwahanol ddulliau o ddylunio. Roedd gan bob man yr ymwelais i ag e ei gymeriad unigryw ei hun, sydd wedi ysbrydoli fy ngwaith yn ddylunydd graffeg.”

Ochr yn ochr â datblygu ei ymarfer creadigol, adeiladodd Conrad sgiliau proffesiynol gwerthfawr hefyd. Helpodd i gyflwyno gwaith i ddarlithfeydd o fwy na 100 o fyfyrwyr i gryfhau ei hyder wrth siarad yn gyhoeddus, ac roedd ymgysylltu â chyd-ddisgyblion yn ei annog i ddod yn fwy hyderus wrth rannu syniadau a chymryd rhan mewn trafodaethau.

“Mae’r dull Americanaidd o ddysgu wir yn annog myfyrwyr i siarad a chyfrannu,” meddai. “Mae’r profiad hwnnw wedi fy ngwneud i’n llawer mwy hyderus wrth fynegi fy syniadau fy hun a chyflwyno fy ngwaith.”

Y tu allan i’r ystafell ddosbarth, dyma Conrad yn ei drwytho ei hun yn y bywyd lleol, gan greu cyfeillgarwch parhaol â chyd-fyfyrwyr a dod yn rhan o gymuned Fullerton.

Ychwanegodd: “Byddwn i’n argymell y cyfle hwn i bob myfyriwr. Wrth edrych yn ôl, heb os hwn oedd profiad gorau fy amser yn y brifysgol.”

Mae PCYDDS yn falch o fod yn rhan o raglen Taith, gan ddarparu cyfleoedd rhyngwladol i fyfyrwyr sy’n newid bywydau, sy’n gwella dysgu academaidd, sy’n magu hyder, ac sy’n datblygu’r sgiliau byd-eang sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol.

Meddai Kath Griffiths, Rheolwr Rhanbarthol Rhyngwladol PCYDDS (Gogledd America a Symudedd Allanol): “Mae profiad Conrad yn egluro’n berffaith werth symudedd rhyngwladol a’r cyfleoedd sy’n bosib trwy raglen Taith. Mae astudio dramor nid yn unig yn cyfoethogi myfyrwyr yn academaidd, mae hefyd yn eu helpu nhw i fagu hyder, gwytnwch a golygon byd-eang a fydd o fudd iddyn nhw trwy gydol eu gyrfaoedd. Rydyn ni’n hynod falch o bopeth y mae Conrad wedi’i gyflawni yn ystod ei amser ym Mhrifysgol Talaith California, Fullerton, ac mae’n wych gweld sut mae’r profiad hwn wedi dylanwadu ar ei ymarfer creadigol a’i ddatblygiad personol.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon