Skip page header and navigation

Fis diwethaf, cymerodd Clare Manning, myfyrwraig MA Gwareiddiadau Hynafol ran mewn ysgol faes gystadleuol iawn yng ngwlad Groeg, sef Celf ac Archaeoleg Gwlad Groeg yr Oes Efydd, wedi’i threfnu gan yr Ysgol Brydeinig yn Athen. 

Group photo with Clare Manning with colleagues from the The Art and Archaeology of Bronze Age Greece filed school

Roedd y cwrs, a gafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf eleni, yn agored i fyfyrwyr ôl-raddedig ac yn gyfyngedig i 12 cyfranogwr yn unig.  Roedd y rhaglen yn cynnig cyfle eithriadol i archwilio safleoedd archeolegol allweddol ar draws y Peloponnese, gan gynnwys Dendra, Tiryns a Pylos, ochr yn ochr ag ymweliadau i amgueddfeydd blaenllaw. Mynychodd myfyrwyr hefyd ddarlithoedd a draddodwyd gan arbenigwyr blaenllaw mewn archaeoleg Aegeaidd a gwnaethant ddefnydd o gyfleusterau’r llyfrgell enwog yn yr Ysgol Brydeinig yn Athen.

I Clare, daeth y profiad â’i hastudiaethau’n fyw, gan ganiatáu iddi ymgysylltu’n uniongyrchol â safleoedd ac arteffactau sy’n ganolog i’w chwrs. Roedd yr ymweliadau’n ategu ei modwl craidd, sef ‘Mannau, Lleoedd a Gwrthrychau yng Nghrefyddau Môr y Canoldir’, gan roi mewnwelediad gwerthfawr uniongyrchol i leoliadau a gwrthrychau a welwyd cynt mewn darlithoedd.

Gan adfyfyrio ar ei phrofiad, dywedodd Clare:

 “Rwy’n teimlo’n ffodus iawn fy mod wedi cael fy newis ar gyfer yr ysgol faes hon. Daeth ymweld â safleoedd fel Tiryns a Mycenae yn bersonol â fy astudiaethau’n fyw mewn ffordd nad yw’n bosibl yn yr ystafell ddosbarth. Roedd gweld gwrthrychau fel y ‘Tiryns Ring’ yn yr Amgueddfa Genedlaethol yn Athen, yr oeddwn wedi’i astudio o’r blaen ar gyfer fy ngwaith cwrs, yn uchafbwynt go iawn, oedd hefyd yn wir am y cyfle prin i ymweld â’r Ganolfan Gwlt ym Mycenae.”

Clare Manning on site with Greek ruins in background

Mae Clare yn gweithio ar ei thraethawd hir ar hyn o bryd, sy’n canolbwyntio ar gysegr yr Oes Efydd yn Ayia Irini yng Nghyprus. Ychwanegodd ei goruchwyliwr traethawd hir, yr Athro Louise Steel:

“Roedd yn hyfryd i Clare gael ei dewis i fod yn rhan o grŵp bach o fyfyrwyr ôl-raddedig ar gyfer yr ysgol faes hon. Mae’r cyfle i ymgysylltu â chyfoedion o brifysgolion eraill, archwilio safleoedd archeolegol arwyddocaol ac elwa o’r adnoddau rhagorol yn yr Ysgol Brydeinig yn Athen yn brofiad amhrisiadwy a fydd yn sicr o gyfoethogi ei hymchwil.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon