Myfyriwr o Abertawe yn gyrru tuag at yrfa mewn peirianneg chwaraeon moduro ar ôl taith drawsnewidiol yn PCYDDS
Mae angerdd am geir clasurol a chwaraeon moduro wedi mynd â’r myfyriwr o Abertawe, Cameron Andrews o ansicrwydd am ei ddyfodol i lansio ei fusnes deunyddiau cyfansawdd ei hun a dilyn gyrfa mewn peirianneg perfformiad uchel.
Mae Cameron, sy’n graddio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ym mis Gorffennaf gyda gradd mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro, yn dweud bod ei daith brifysgol wedi “newid cyfeiriad ei fywyd yn llwyr”.
“Ar ôl gorffen yn yr ysgol gyfun, doeddwn i wir ddim yn gwybod i ba gyfeiriad roeddwn i eisiau mynd,” meddai. “Roedd COVID yn cyfyngu ar gyfleoedd ac yn ei gwneud hi’n anodd cael profiad ymarferol yn y diwydiant.”
Parhaodd Cameron â’i addysg yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, lle astudiodd Beirianneg Chwaraeon Moduro Uwch a threulio un diwrnod yr wythnos yn PCYDDS. Gydag anogaeth ei ddarlithwyr, aeth ymlaen i ennill rhagoriaeth a sicrhau lle yn y brifysgol.
” Oherwydd fy nghefndir, nid oeddwn erioed wedi disgwyl mynd i brifysgol,” meddai. “Ond ar ôl gwneud fy ngorau glas yn fy astudiaethau yn y coleg, fe wnes i ennill rhagoriaeth a derbyn cynnig gan PCYDDS.”
Dewisodd Cameron y cwrs oherwydd y ffocws ymarferol a’r cysylltiadau â’r diwydiant.
“Roeddwn i eisiau cwrs nad oedd yn seiliedig ar theori yn unig, ond a oedd yn caniatáu i fyfyrwyr ennill profiad ymarferol go iawn,” meddai.
Elfen ddiffiniol o’i radd oedd ymuno â thîm rasio MCR y brifysgol, lle datblygodd angerdd am beirianneg gyfansawdd. Aeth yn ei flaen o ddysgu’r pethau sylfaenol i ddod yn fecanig rhif dau ar gyfer Car 40 ac yn ddiweddarach yn Beiriannydd Deunyddiau Cyfansawdd Arweiniol.
“Trwy’r profiad hwn dysgais sgiliau technegol, gwaith tîm, arweinyddiaeth, datrys problemau, a sut i weithio o dan bwysau,” meddai.
Ochr yn ochr â’i astudiaethau, sefydlodd Cameron ei fusnes ei hun, CLA Composites, sy’n arbenigo mewn darnau cyfansawdd ac atgyweirio, a chwblhaodd ymchwil traethawd hir i ymddygiad aeroelastig mewn adenydd cefn cyfansawdd gan ddefnyddio meddalwedd peirianneg uwch.
Ac yntau bellach yn paratoi i raddio, dywed Cameron fod y cwrs eisoes wedi agor drysau i gyfleoedd gyda chwmnïau gan gynnwys Lockheed Martin a McLaren Automotive.
“Yn bersonol, gwnaeth y cwrs newid fy hyder a’m meddylfryd yn llwyr,” meddai. “Dangosodd i mi fy mod i’n gallu cyflawni llawer mwy nag yr oeddwn i’n meddwl yn wreiddiol.”
Mae Cameron yn gobeithio adeiladu gyrfa mewn peirianneg gyfansawdd o fewn chwaraeon moduro wrth barhau i dyfu CLA Composites.
“Mae wedi newid fy mywyd yn llwyr, yn broffesiynol ac yn bersonol,” meddai. “Dysgodd y profiad i mi y gall penderfyniad ac ysfa i weithio fynd â chi yn bell iawn.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071