Skip page header and navigation

Mae angerdd gydol oes dros geir, mathemateg a chwaraeon moduro wedi arwain Aron Evans at lwyddiant academaidd wrth iddo raddio mewn Peirianneg Chwaraeon Moduro o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). 

Aron Evans in his cap and gown

Yn wreiddiol o Ddyffryn Nantlle yng Ngwynedd, derbyniodd Aron ei addysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn Ysgol Bro Lleu ac Ysgol Dyffryn Nantlle. Roedd parhau i astudio yng Nghymru yn flaenoriaeth iddo, a dywed fod ei benderfyniad i ddewis PCYDDS wedi dechrau flynyddoedd ynghynt yn ystod ymweliad ag Eisteddfod. Meddai:  

“Rwy’n cofio gwirioni ar y car rasio oedd ar stondin y Brifysgol a phenderfynu yn y fan a’r lle mai dyna lle oeddwn eisiau astudio pan oeddwn yn hŷn. Wrth gyfuno’r atgof hwnnw â’r cyfle i astudio yng Nghymru a’r enw da sydd gan y cwrs Peirianneg Moduro Chwaraeon, roedd y penderfyniad yn un hawdd.” 

Aron Evans as a child sitting in a race car

Dewisodd Aron y cwrs er mwyn cyfuno ei hoff bynciau yn yr ysgol,  mathemateg a ffiseg â’i ddiddordeb mawr mewn ceir a rasio. Yn ystod ei astudiaethau, datblygodd ddealltwriaeth ddyfnach o’r diwydiant ac fe ddarganfu mai data ac aerodynameg yw’r meysydd sy’n apelio ato fwyaf. 

Un o uchafbwyntiau ei gyfnod yn y Brifysgol oedd bod yn aelod o dîm rasio MCR, gan deithio i gylchedau enwog megis Silverstone a Donington Park i gystadlu ym Mhencampwriaeth Sports 2000. Ychwanegodd: 

“Roedd hynny’n brofiad anhygoel ac yn agoriad llygad i’r holl waith sy’n digwydd y tu ôl i’r llenni cyn ac yn ystod penwythnos rasio. Dysgais gymaint am waith tîm, datrys problemau a gweithredu mewn amgylchedd perfformiad uchel.” 

Yn ogystal â’i astudiaethau, bu Aron yn llysgennad i’r Brifysgol, profiad a roddodd gyfleoedd newydd iddo ddatblygu ei hyder, ehangu ei rwydwaith a magu profiadau na fyddai wedi’u cael fel arall. 

Fel llawer o fyfyrwyr, wynebodd Aron heriau wrth reoli llwyth gwaith academaidd. Trwy ddysgu rhannu tasgau mawr yn gamau llai a chynllunio ei amser yn effeithiol, llwyddodd i ddatblygu sgiliau trefnu a fydd yn werthfawr yn ei yrfa yn y dyfodol. 

Mae’n canmol y gefnogaeth a gafodd gan ei ddarlithwyr drwy gydol ei gyfnod yn PCYDDS. 

“Mae’r gefnogaeth wedi bod yn arbennig o’r dechrau i’r diwedd. Roedd hi bob amser yn hawdd mynd at y darlithwyr am gyngor, ac yn ystod y flwyddyn olaf cefais gefnogaeth oedd yn fy annog i ddatblygu’n annibynnol wrth gwblhau gwaith mwy heriol.” 

Dywedodd Tim Tudor, Rheolwr y Rhaglen Peirianneg Chwaraeon Moduro yn PCYDDS: 

“Mae Aron wedi bod yn aelod ymroddedig a brwdfrydig o’r rhaglen Peirianneg Chwaraeon Moduro ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Dangosodd ei brosiect blwyddyn olaf allu technegol cryf, gan ddefnyddio dynameg hylifau gyfrifiadol i ymchwilio i gerbyd DrivAer a datblygu pecyn aerodynamig wedi’i anelu at chwaraeon modur. 

“Yn ogystal â’i waith academaidd, gwnaeth Aron gyfraniad gwerthfawr i dîm rasio myfyrwyr MCR Sports 2000 dros nifer o flynyddoedd. Roedd ei waith ym meysydd casglu data, dadansoddi perfformiad a pharatoi cerbydau rasio yn ei alluogi i gymhwyso ei wybodaeth beirianyddol mewn amgylchedd ymarferol heriol. Mae sgiliau technegol, gallu gweithio fel rhan o dîm ac ymroddiad Aron wedi ei baratoi’n dda ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn y diwydiannau chwaraeon modur a modurol, ac rwy’n edrych ymlaen at weld beth fydd yn ei gyflawni yn y dyfodol.” 

Mae Aron yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn peirianneg chwaraeon moduro i ystyried y cwrs. 

“Mae’r cwrs yn cynnig cyfuniad gwych o ddamcaniaeth a phrofiad ymarferol. Mae’r cyfleusterau’n rhagorol, mae’r darlithwyr yn gefnogol iawn, ac mae’r campws yn lle gwych i astudio. Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ystyried y cwrs i ymweld â diwrnod agored.” 

Teimla Aron bod ei amser yn y Brifysgol wedi ei baratoi’n dda ar gyfer y dyfodol, gan roi mwy o hyder iddo yn ei allu i wneud penderfyniadau a gweithio’n annibynnol. 

Yn hytrach na ffarwelio â PCYDDS, mae Aron yn bwriadu parhau â’i daith academaidd drwy astudio am radd Meistr yn y Brifysgol. 

“Er bod opsiynau eraill ar gael, dwi’n teimlo mor gartrefol yma yn Abertawe fel nad wyf yn gweld rheswm i adael. Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu fy ngwybodaeth ymhellach ac adeiladu ar y profiadau gwych rwyf wedi’u cael hyd yma.” 


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon