Myfyriwr PCYDDS yn adfyfyrio ar brofiad astudio tramor trawsnewidiol yng Nghanada
Mae Nina Campbell, myfyriwr BA Dylunio Set a Chynhyrchu ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) newydd ddychwelyd o leoliad astudio pedwar mis yn Vancouver, Canada a newidiodd ei bywyd. Disgrifiodd y profiad fel un a’i thrawsnewidiodd yn bersonol ac yn broffesiynol.
Treuliodd Nina a gefnogwyd gan gyllid Taith a bwrsari Teithio Tramor PCYDDS, dymor yn astudio yng Ngholeg Douglas, lle ymgollodd ei hun mewn astudiaeth academaidd, ymarfer creadigol a diwylliant Canada.
Gan adfyfyrio ar eu hamser dramor, tynnodd sylw Nina ar ba mor hawdd oedd trosglwyddo i fywyd yng Nghanada, gan roi clod i gefnogaeth Hannah Clayton, Kathleen Griffiths a’i darlithydd Stacey Jo Atkinson yn PCYDDS. Meddai:
“Roedd y trosglwyddo i Goleg Douglas yn llyfn a hawdd. Gwnaeth y gefnogaeth honno gymaint o wahaniaeth a chaniataodd i mi ganolbwyntio’n llawn ar wneud y gorau o’r cyfle.”
Yn ystod ei chyfnod yn Vancouver, ffurfiodd Nina gyfeillgarwch parhaol yn gyflym a manteisiodd ar y cyfle i archwilio ei hamgylchoedd newydd. O fywyd yn y ddinas i natur, cymerodd hi fantais lawn o dirwedd y rhanbarth.
“Llwyddais i fynd ar ddigon o deithiau cerdded, gan gynnwys Deep Cover a thaith gerdded 28km i fyny i Lyn Garibaldi. Roeddwn i hefyd yn ddigon ffodus i brofi Ynys Victoria a Whistler.”
Ffynnodd Nina yn academaidd ac yn greadigol. Yn ystod cynhyrchiad yng Ngholeg Douglas, llwyddodd i gael rôl Rheolwr Llwyfan, a roddodd brofiad ymarferol iddi ar draws sawl maes cynhyrchu theatr.
“Am gyfnod ein sioe, llwyddais i gipio rôl rheolwr llwyfan, gan ganiatáu i mi fachu ar y cyfle i ddod i adnabod pobl ym mhob math o rolau gan gynnwys; cyfarwyddwyr, dylunwyr set, dylunwyr gwisgoedd a llawer mwy. Roedd cymryd rhan mewn cyfarfodydd cynhyrchu bob wythnos wedi ehangu fy meddylfryd a’m gwybodaeth o’r swyddi gwahanol a’u rolau mewn sioe.”
Mae Nina yn meddwl bod y profiad wedi cael effaith barhaol ar ei hyder a’i hagwedd. “ Rwy’n gwybod nawr pa mor hawdd yw hi i symud rhywle hollol newydd, heb adnabod neb a dal i feithrin cysylltiadau ystyrlon. Nid oes dwywaith bod y cyfeillgarwch rwyf wedi’u meithrin yng Nghanada yn mynd i bara am byth.”
Er iddi ei chael hi’n anodd gadael Vancouver, mae Nina’n sicr nad yw’n ffarwelio â’r lle am byth. “ Roeddwn yn drist iawn i adael fy mywyd am y pum mis diwethaf, ond rwy’n gwybod 100% y byddaf yn ôl yn y dyfodol agos.”
Meddai Kath Griffiths, a arweiniodd ar Symudedd Rhyngwladol yn PCYDDS:
“Dechreuodd ein perthynas â Choleg Douglas yn 2009, ac rydym wrth ein boddau i barhau i gyfnewid myfyrwyr. Gwnaeth Nina, a gefnogwyd gan raglen Taith, y mwyaf o’i hamser ar y rhaglen Statecraft, gan gyflawni canlyniadau academaidd ardderchog ac wedi llwyddo i ennill lle ar Restr y Deon.”
Mae Nina yn argymell y profiad hwn i unrhyw fyfyriwr sy’n meddwl astudio am semester dramor. “Os gewch chi’r cyfle i wneud rhywbeth sy’n swnio’n cŵl, ond nad ydych chi’n siŵr os dylech ei wneud, ewch amdani! Mae siawns o 0% y byddwch yn ei ddifaru!
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am gyfleoedd i astudio dramor drwy’r Brifysgol.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476