Skip page header and navigation

Mae myfyriwr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), Curtis Richards wedi’i ei enwi’n Brentis y Flwyddyn yng Ngwobrau G4C Cymru 2025 mawr eu bri, a gynhaliwyd yn y Senedd yng Nghaerdydd. 

A proud group of student winners standing in front of a brick wall.

Derbyniodd Curtis, myfyriwr rhan amser HND Mesur Meintiau sy’n gweithio’n llawn amser gyda Tilbury Douglas, y brif anrhydedd er mwyn cydnabod ei gyfraniad eithriadol i ddyfodol y sector amgylchedd adeiledig.  Dathlodd y seremoni’r genhedlaeth nesaf o dalent sy’n gyrru gwelliannau, cynaliadwyedd, ar arloesi ar draws y sector adeiladu yng Nghymru. 

Mae Curtis yn y drydedd flwyddyn o’i raglen rhan amser yn PCYDDS, gan adeiladu ar lwyddiant academaidd blaenorol gan gynnwys BSc Daearyddiaeth a MSc mewn Cynllunio a Datblygiad Rhyngwladol ( RICS a RTPI achrededig).  Dywedodd Curtis ei fod wedi dewis PCYDDS oherwydd enw da ei darlithwyr sydd â phrofiad yn y diwydiant a’r dulliau dysgu ymarferol sy’n canolbwyntio ar yrfa. 

Mae’n gobeithio defnyddio’r sgiliau a’r wybodaeth a gafwyd o’i astudiaethau i gefnogi ei gynnydd parhaus gyda Tilbury Douglas ac adeiladu gyrfa hirdymor lwyddiannus yn y diwydiant adeiladu. 

“Bydd fy nghymhwyster yn fy nghaniatáu i symud ymlaen yn broffesiynol a chynnal gyrfa lwyddiannus yn y diwydiant adeiladu,” meddai. 

Mae’n rhoi clod i’r wybodaeth ymarferol a’r arweiniad byd go iawn a gafwyd gan ei dîm academaidd fel ffactor allweddol yn ei ddatblygiad: 

“Nid oes dwywaith bod y profiad y mae’r darlithwyr yn ei gyfrannu at y modylau yn gwella’r cwrs. Mae cael staff addysgu sydd wedi gweithio yn y diwydiant adeiladu yn ychwanegu dyfnder a pherthnasedd i’n dysgu.”

Mae Curtis, sy’n cymryd mantais ar leoliad campws Glannau Abertawe PCYDDS, sydd wedi’i amgylchynu â chyfleusterau ac yn gysylltiedig â llwybrau cerdded i’r bae a’r marina, yn cydbwyso ei astudiaethau ag angerdd dros deithio a chefnogi clwb Pêl-droed dinas Abertawe. 

Mae Curtis yn argymell rhaglenni Mesur Meintiau’r Brifysgol yn gryf i eraill. 

“ Dw i eisoes wedi gallu cymhwyso’r theori’n uniongyrchol i arfer.  Mae’r modylau’n cwmpasu ystod eang o bynciau, o dechnoleg a gwybodaeth adeiladu i agweddau ariannol a chyfreithiol, gan gyflwyno dealltwriaeth gynhwysfawr i’r proffesiwn.”

Mae Gwobrau G4C, ynghyd ag Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru, yn cydnabod arweinwyr sy’n dod i’r amlwg sy’n arwain newid cadarnhaol yn y diwydiant adeiladu.  

Meddai’r Athro Rhian Jenkins, Cyfarwyddwr Academaidd:  Pensaernïaeth, Adeiladu a’r Amgylchedd:  “Mae llwyddiant Curtis yn adlewyrchiad gwych o’r dalent, yr ymroddiad a’r proffesiynoldeb rydym yn eu gweld ar draws ein rhaglenni Amgylchedd Adeiledig.  Mae ei wobr yn dangos sut mae ein partneriaethau cryf â diwydiant a’n dull dysgu ymarferol yn sicrhau bod myfyrwyr yn barod i greu effaith uniongyrchol yn y sector.  Rydym yn hynod o falch o Curtis ac rydym wrth ein boddau bod ei waith caled wedi’i gydnabod ar lefel cenedlaethol.”

Capsiwn: Curtis yw’r person cyn y diwedd yn y rhestr yn y Senedd.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon