Myfyriwr yn Troi Rhwystr yn Llwyddiant drwy ddilyn llwybr gwahanol
Profodd newid cwrs gradd munud olaf i fod yn drobwynt i’r myfyriwr o’r Drindod Dewi Sant Cheng CHEN, gan agor y drws i gyfleoedd newydd a’i osod ar y llwybr i lwyddiant.
Yn wreiddiol, roedd cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr yn bwriadu astudio cwrs gradd gwahanol ond yn y pen draw dewisodd y BSc Cyfrifiadura Cymhwysol yn y Drindod Dewi Sant yn lle hynny.
Bu’n rhaid i Cheng, sy’n wreiddiol o Jiangsu yn Tsieina, wneud cais trwy’r llwybr Clirio oherwydd y newid. Mae’n dweud:
“Cyn cofrestru yn y Drindod Dewi Sant, astudiais y cwrs BTEC mewn Cyfrifiadura Cymhwysol yng Ngholeg Gŵyr. Dewisais y Drindod Dewi Sant yn bennaf oherwydd ei fod yn cynnig dilyniant uwch o’m hastudiaethau blaenorol ac yn cyd-fynd â’r math o gwricwlwm yr oeddwn i eisiau ei ddilyn.
“Fe wnes i fennu lan ar y cwrs hwn trwy newid fy nghynllun. Cysylltais â’r brifysgol i drafod y sefyllfa, ac rwy’n ddiolchgar iawn eu bod wedi adolygu fy nghefndir academaidd ac wedi argymell y cwrs Cyfrifiadura Cymhwysol yn lle hynny.
Prif nod Daniel wrth astudio’r radd Cyfrifiadura Cymhwysol oedd cael dealltwriaeth o gyfrifiadura a’i feysydd cysylltiedig, yn enwedig gan fod cyfrifiadura yn ddisgyblaeth sy’n hanfodol i gymaint o agweddau ar fywyd modern ledled y byd.
Wrth iddo edrych ymlaen at raddio y mis hwn, nid oes gan Cheng unrhyw edifeirwch am newid cwrs. Dywedodd: “Un o uchafbwyntiau’r cwrs oedd y gallu i ddewis modiwlau penodol bob blwyddyn academaidd yn seiliedig ar ddiddordeb personol—nodwedd sy’n rhoi myfyrwyr yn gynta”.
“Roedd gweithgareddau ymarferol yn cynnwys profi rhwydweithiau yn defnyddio offer Cisco, admabpd mannau gwan gan ddefnyddio peiriannau rhithwir, dadansoddi data gyda Weka a datblygu fy ngwefan a meddalwedd fy hun”.
Er ei fod yn dweud bod astudio mewn iaith wahanol weithiau’n heriol, mae’n ddiolchgar i’r gefnogaeth a gafodd gan y Brifysgol.
“Rwy’n ddiolchgar iawn i ddarlithwyr y Drindod Dewi Sant,” eglura Cheng. “Roedden nhw’n hynod o amyneddgar ac yn deall fy sefyllfa, gan ddarparu help aruthrol gyda fy astudiaethau.
“Byddwn yn argymell y cwrs hwn yn fawr. Yn y byd heddiw, mae cyfrifiadura’n hanfodol, ac mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfoeth o wybodaeth. Mae’r hyblygrwydd i ddewis modiwlau sydd o ddiddordeb i chi yn wych”.
Dangosodd y cwrs hefyd bwysigrwydd meddwl beirniadol a’r angen i arsylwi a deall cyd-destunau o sawl persbectif ac mae Cheng yn hyderus y bydd y sgiliau y mae wedi’u hennill yn ei helpu yn ei yrfa yn y dyfodol.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790