Skip page header and navigation

Defnyddiodd myfyrwyr ar y rhaglen BA (Anrh) Addysg Antur Awyr Agored ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) eu sgiliau y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth i gefnogi myfyrwyr ar ymweliad o Golegau Hobart a William Smith (HWS) wrth iddyn nhw ymgynefino â bywyd ar y campws ac yng Nghymru yn ystod eu Rhaglen Haf flynyddol ddiweddar.

HWS students with UWTSD OAE students on top of Penyfan mountain

Mae’r rhaglen yn rhan o bartneriaeth hirsefydlog rhwng PCYDDS a Cholegau Hobart a William Smith yn Nhalaith Efrog Newydd, sy’n cysylltu myfyrwyr o ddwy ochr yr Iwerydd trwy antur awyr agored, datblygu arweinyddiaeth a dysgu drwy brofiadau ers 15 mlynedd a rhagor.

Cynhelir y rhaglen tair wythnos ar gefndir tirweddau byd-enwog Cymru, gan annog cyfranogwyr i gofleidio’r amgylchedd naturiol, datgysylltu oddi wrth faglau digidol, a meithrin ymdeimlad cryfach o le a chyfrifoldeb personol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys sesiynau adeiladu tîm ar y campws, teithiau cerdded i Ben y Fan a’r Wyddfa, canŵio ar afon Teifi, a theithiau dydd i Benrhyn Gŵyr.

Sefydlwyd Rhaglen Haf HWS yn 2011 gan Graham Harvey, sydd bellach yn Rheolwr Rhaglen ar gyfer rhaglen BA (Anrh) Addysg Antur Awyr Agored PCYDDS. Ers 2013, yr Uwch Dechnegydd a’r Tiwtor Tom Moore sy’n arwain y fenter. Disgrifia yntau’r fenter fel arddangosiad pwerus o effaith drawsnewidiol addysg antur awyr agored. Meddai: 

“Roedd hi’n fraint croesawu myfyrwyr o HWS i Gymru, ac roedd PCYDDS wrth ei bodd yn dathlu partneriaeth a oedd wedi ffynnu dros y 15 mlynedd flaenorol. Ers cychwyn y rhaglen, roedd y cydweithrediad rhwng y ddau sefydliad wedi darparu cyfleoedd trawsnewidiol i fyfyrwyr di-ri ddysgu, tyfu a chysylltu trwy brofiadau antur awyr agored cyffredin. 

“Heb os, yn y rhaglen hon, cawn ni amlygiad yn y byd go iawn o’r ddysgeidiaeth hon: dod â grŵp o unigolion lled anghyfarwydd at ei gilydd, gan eu herio bob dydd i nodi, cofleidio a herio eu hofnau. Ehangu galluoedd, gwybodaeth a dealltwriaeth, nid yn unig yn achos eu hunain ond hefyd eraill o’u cwmpas. Cofleidio’r byd naturiol – nad oes llawer o lefydd gwell i wneud hynny nag yma yng Nghymru – hyrwyddo dadebru digidol, datblygu ymdeimlad o le, cynnal heriau bywyd, a phob un ohonyn nhw’n meithrin datblygiad bron diriaethol o dwf personol, gwytnwch ac annibyniaeth, yn ogystal â thosturi, empathi a chyfeillgarwch gyda’r dieithriaid a oedd unwaith yn eu galw’n ffrindiau gorau am oes!”

HWS students with UWTSD OAE students on bottom of Penyfan mountain

I Tom, Rhaglen Haf HWS yw uchafbwynt ei flwyddyn.

“Mae’n dod ag unigolion at ei gilydd sydd, efallai, ond yn rhyw adnabod ei gilydd ac yn eu herio nhw i fentro y tu hwnt i’w parthau cysur.” 

Meddai David Mapstone, Deon Cyswllt yng Ngholeg Hobart a William Smith: 

“Mae Coleg Hobart a William Smith yn falch dros ben o’r bartneriaeth y mae wedi’i datblygu â PCYDDS dros y 15 mlynedd ddiwethaf. Mae ein myfyrwyr yn chwilio am brofiad trochi diwylliannol ystyrlon yng nghyd-destun archwilio gweithgareddau awyr agored. Ond  maen nhw’n gadael gyda llawer mwy na hynny. Maen nhw’n dysgu am ddiwylliant a hanes cyfoethog Cymru; maen nhw’n dysgu am y byd naturiol o’u cwmpas a’r effeithiau adferol y gall natur eu cael ar eu lles; maen nhw’n dysgu amdanyn nhw eu hunain yn arweinwyr, dilynwyr, mentrwyr; maen nhw’n dysgu goresgyn ofnau a dod o hyd i gryfder ynddyn nhw eu hunain ac yn pwyso ar eu cyd-fyfyrwyr.

“PCYDDS yw’r partneriaid delfrydol ar gyfer HWS a hynny am ddau reswm: pobl a lle. Mae pobl Cymru a Chaerfyrddin yn hynod o garedig a chroesawgar; maen nhw’n rhoi cyfle gwych i’n myfyrwyr gymryd rhan yn y diwylliant, treftadaeth ac iaith sy’n gwneud Cymru mor arbennig. Mae’r staff a’r gyfadran yn y brifysgol wedi ymrwymo i feithrin y bartneriaeth hon ac mae ganddyn nhw’r sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen i ddarparu profiad addysgol o safon uchel. Mae’r lle, Caerfyrddin, yn debyg o ran maint a chwmpas i Geneva, Efrog Newydd, sef cartref HWS. Mae ein myfyrwyr ni’n teimlo’n gyfforddus ar unwaith yn mynd o gwmpas Caerfyrddin. Yn bwysicach na dim, mae ein lleoliad ni’n ganolog i ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol, parciau cenedlaethol, copaon uchel, arfordir creigiog, traethau tywodlyd, a chyfaredd hudol Bryniau Preseli.

“Bob blwyddyn rwy’n dychwelyd adref yn gyffrous i weld y twf aruthrol y mae myfyrwyr wedi’i wneud yn ystod eu hamser yn PCYDDS ac rwy’n dechrau edrych ymlaen at weithio gyda’r gyfadran a’r staff i baratoi grŵp newydd o fyfyrwyr i brofi’r rhaglen anhygoel hon.”

students coasteering

Gwahoddwyd Ellen Jenkins a Will Jones, myfyrwyr o PCYDDS fel cyfeillion i fyfyrwyr HWS ar eu hymweliad. Yn y rôl hon, datblygwyd eu sgiliau arweinyddiaeth a hwyluso awyr agored eu hunain, wrth groesawu myfyrwyr ar gampws Caerfyrddin. 

Wrth adfyfyrio ar ei phrofiad, meddai Ellen:

“Ces i brofiad bythgofiadwy. Rwy wedi gadael gyda ffrindiau am oes ac wedi gallu dysgu ac ymarfer sgiliau gwerthfawr i gefnogi fy astudiaethau a’m gyrfa yn y dyfodol. Mae’r profiad hwn wedi cefnogi fy amser yn PCYDDS trwy ganiatáu imi roi popeth rydw i wedi’i ddysgu hyd yma yn fy ngradd ar waith, mewn lleoliad bywyd go iawn.”

I’w chyd-fyfyriwr Will, cynigiai’r rhaglen gyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol.

“Mae’r profiad hwn wedi gwella fy amser yn PCYDDS drwy roi cyfle i mi ymarfer fy sgiliau arwain a thechnegol, yn ogystal â rhoi rhagor o hunanhyder i mi fentro arni mewn darlithoedd yn y dyfodol ac ym mhob agwedd ar fy mywyd.”

Ar ôl cwblhau blwyddyn gyntaf eu gradd yn ddiweddar, mae’r myfyrwyr PCYDDS, Ellen Jenkins a Will Jones, y naill a’r llall wedi llwyddo i sicrhau lleoedd i ddilyn semester o Astudio Dramor ym Mhrifysgol De-ddwyrain Norwy (USN) yn ystod Semester 2 eu hail flwyddyn. 

I gloi, meddai Tom Moore: 

“Does dim llawer o lefydd gwell na Chymru i brofi manteision Addysg Antur Awyr Agored. Flwyddyn ar ôl blwyddyn, mae’n rhyfeddol gweld y twf personol sy’n digwydd. Braint aruthrol yw gallu dod â fy addysgu yn fyw a gwella profiad myfyrwyr ar ddwy ochr yr Iwerydd.”

students walking on cliffs around the Gower

Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon