Myfyrwyr BA Perfformio mewn partneriaeth â Tafwyl 2026 ar gyfer Prosiect Theatr Stryd
Mae myfyrwyr BA Perfformio Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), wrth eu boddau i gyhoeddi partneriaeth gyffroes â Tafwyl 2026, un o wyliau diwylliannol pwysicaf Caerdydd.
Fel rhan o’r cydweithrediad hwn, mae myfyrwyr wedi cael y dasg o greu darn gwreiddiol o theatr stryd wedi’i gynllunio i ddiddanu ac ennyn diddordeb y miloedd o bobl sy’n mynychu Tafwyl bob blwyddyn. Mae’r prosiect yn cynnig cyfle prin i fyfyrwyr weithio o fewn cyd-destun proffesiynol go iawn yn gynnar yn eu hyfforddiant, gan ddatblygu gwaith ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus ar raddfa fawr.
Mae’r cwrs BA Perfformio yn ymfalchïo mewn cynnig profiadau ymarferol, sy’n ymwneud â’r diwydiant ac yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd creadigol proffesiynol. Mae’r bartneriaeth hon yn enghraifft o’r ethos hwnnw, gan ganiatáu i fyfyrwyr gymhwyso’r sgiliau maen nhw’n eu datblygu mewn ystafelloedd ymarfer yn uniongyrchol i ddigwyddiad diwylliannol byw yng nghanol y ddinas.
Dywedodd Angharad Lee, Cyfarwyddwr Rhaglen yn PCYDDS:
“Mae hwn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr roi’r sgiliau maen nhw’n eu dysgu yn y dosbarth ar waith. Mae’n rhoi cyfle iddyn nhw gydweithio nid yn unig gyda’i gilydd, ond hefyd gyda phobl greadigol sy’n serennu yn y maes.
“Rydym wedi defnyddio sgiliau arbennig Cêt Haf sydd wedi gweithio’n helaeth gyda KITCH N’ SYNC i helpu i roi hwb i’w syniadau ac i feithrin yr hyder a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddatblygu syniad o’i hadau cyntaf hyd at ei gymhwysiad ymarferol mewn cyd-destun byd go iawn.
“Mae Tafwyl yn ddigwyddiad diwylliannol mor bwysig, ac mae PCYDDS yn falch i fod yn rhan ohono.”
Mae Cêt Haf yn berfformiwr, cyfarwyddwr symudiad, a choreograffydd amlddisgyblaethol o Aberystwyth a chanddi dros 14 mlynedd o brofiad. Mae Cêt yn arbenigo mewn dawns ac yn mwynhau plethu ei doniau mewn symudiad, actio, ysgrifennu a darlunio yn ei gwaith.
Mae hi’n angerddol am greu gwaith sy’n dod â’r dychymyg yn fyw ac mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn archwilio cymeriad trwy symudiad a symudiad trwy gymeriad. Wrth wraidd ei hysbrydoliaeth, ei chwilfrydedd, a’i dymuniad i greu profiadau artistig cofiadwy ar gyfer cynulleidfaoedd amrywiol yw ei diddordeb mewn cerddoriaeth, straeon a phobl.
Gan gydweithio ag artistiaid profiadol ac ymateb i amgylchedd bywiog Tafwyl, sy’n cael ei arwain gan y Gymraeg, bydd myfyrwyr yn archwilio gwneud perfformiadau sy’n hygyrch, yn chwareus, ac yn ymatebol i ofod cyhoeddus.
Mae’r prosiect yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus PCYDDS i feithrin ymarferwyr hyderus, creadigol sy’n barod i gyfrannu’n ystyriol i dirwedd diwylliannol Cymru.
Bydd y perfformiad theatr stryd sy’n deillio o hynny yn cael ei ddangos am y tro cyntaf yn Tafwyl 2026, gan ddod â gwaith newydd, gwreiddiol a grëwyd gan y genhedlaeth nesaf o berfformwyr Cymraeg yn uniongyrchol i gynulleidfaoedd yr ŵyl.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476