Myfyrwyr Dylunio a Chynhyrchu Setiau, ac Actio yn cyflwyno Arddangosfa Graddedigion
Yn ddiweddar, bu myfyrwyr BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau a BA Actio o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn arddangos eu gwaith mewn digwyddiad dathlu a oedd yn tynnu sylw at greadigrwydd a chydweithio ym myd y theatr a dylunio.
Cynhaliwyd yr Arddangosfa Graddedigion yn Yr Egin ar gampws Caerfyrddin ac yn Theatr Porters, Caerdydd. Bu myfyrwyr Actio yn perfformio o flaen cynulleidfa fyw cyn digwyddiad rhwydweithio ar ôl y sioe, lle cafodd gweithwyr proffesiynol y diwydiant gyfle i gwrdd â’r myfyrwyr creadigol sy’n graddio ac archwilio gwaith portffolio y myfyrwyr Dylunio a Chynhyrchu Setiau.
Meddai Stacey – Jo Atkinson, Rheolwr Rhaglen BA Dylunio a Chynhyrchu Setiau PCYDDS:
“Dyma fy hoff adeg o’r flwyddyn, dathlu gwaith caled a llwyddiannau myfyrwyr dros y tair blynedd diwethaf, a’r balchder o’u gweld yn rhwydweithio â diwydiant. Mae’r digwyddiad hwn yn adlewyrchu pwysigrwydd ymweliad gweithwyr proffesiynol y diwydiant i weld gwaith y graddedigion.”
Dywedodd Sam Jones, Rheolwr y Rhaglen Actio yn PCYDDS:
“Mae’r arddangosfa wedi bod yn gyfle i’r actorion arddangos y sgiliau actio maen nhw wedi bod yn eu meithrin dros y tair blynedd diwethaf. Maent wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithdai proffesiynol gyda gweithwyr proffesiynol y diwydiant, gan ddatblygu eu brand, a gweithio ar ddeunydd arddangos i’w paratoi ar gyfer y diwydiant creadigol. Yn yr arddangosfa rhannwyd monologau a deialogau rhwng dau, gydag eiliadau o ddonioldeb, dwyster a symud cyflym!”
Dywedodd Nicole Julier-Goodwin, myfyrwraig trydedd flwyddyn Dylunio a Chynhyrchu Setiau:
“Mae’n gyfle anhygoel i allu rhwydweithio â gweithwyr proffesiynol y diwydiant, yn ogystal â rhoi blas i ni o’r byd proffesiynol, tra’n bod ni’n wdal i weithio mewn amgylchedd addysgol.”
Ychwanegodd Nina Campbell, sydd hefyd yn fyfyrwraig trydedd flwyddyn:
“Rwy’n credu ei bod yn braf gweld bod gennym lawer o gysylltiadau â’r diwydiant cyn i ni raddio. Mae’n rhoi gwybod i ni bod gennym, hyd yn oed ar ôl i ni adael, lawer o gefnogaeth gan y brifysgol, a’r bobl maen nhw wedi ein cyflwyno iddynt.”
Yn ôl y myfyriwr Actio, Joseph Gillen:
“Roedd yn werth yr holl oriau o waith; cefais amser gwych! Roeddwn i’n teimlo’n hyderus ac mae wedi fy mharatoi ar gyfer unrhyw arddangosfeydd yn y dyfodol y gallwn fod yn rhan ohonynt.”
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476