Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cael y cyfle i weithio ar gynhyrchiad diweddara’ Theatr Cymru, Yr Egin a Chwmni Arad Goch, ‘Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau.’

Students sitting together in Yr Egin

MaeDosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau,’ yn sioe gerdd newydd hudolus sy’n dod ag anturiaethau a chymeriadau cyfres lyfrau annwyl i’r llwyfan, gyda sgript wreiddiol gan Dr Mererid Hopwood a cherddoriaeth fywiog gan Seiriol Davies. 

Fel rhan o’r cynhyrchiad, mae myfyrwyr presennol o’r Brifysgol wedi cael cyfle i ymgeisio am rôl i weithio ar y sioe. Cynigwyd rolau Cysgodi Cyfarwyddwr; Cynorthwy-ydd Adran Gynhyrchu (Props) a Cefnogaeth Dechnoleg a Chriw Llwyfan i’r myfyrwyr. 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i’r unigolion llwyddiannus ennill profiad ymarferol fel rhan o tîm technegol proffesiynol a chriw llwyfan ar gynhyrchiad theatr proffesiynol Cymraeg sy’n teithio i leoliadau ledled Cymru. Byddant yn gweithio ochr yn ochr gyda’r tîm creadigol a rheoli llwyfan i sicrhau bod pob perfformiad yn llwyddiannus a diogel.

Mae Ashling Ryan, myfyrwraig o’r cwrs Set, Dylunio a Chynhyrchu Set wedi derbyn y rôl fel Cynorthwy-ydd Adran Gynhyrchu (Props), lle fydd hi’n helpu i baratoi, trefnu ac edrych ar ôl props yn ystod y cynhyrchiad. Meddai:

“Rwy’n edrych ymlaen at weithio ar y cynhyrchiad hwn, oherwydd drwy gydol fy amser yn PCYDDS rwyf wedi dod o hyd i angerdd dros weithio cefn llwyfan a bydd hyn yn caniatáu i mi brofi hynny ar sioe deithiol am y tro cyntaf. Bydd hyn hefyd yn rhoi profiad a chysylltiadau gwerthfawr i mi i’m helpu o fewn y diwydiant.”

Mae Nicole Evans wedi derbyn y rôl i gysgodi’r cyfarwyddo ar gyfer y cynhyrchiad. Yn ei rôl mi fydd yn arsylwi ar waith y Cyfarwyddwr proffesiynol o’r broses ymarfer i’r perfformiadau terfynol, yn ogystal a sut i fynd ati i fynd a chynhyrchiad ar daith. Dywedodd: 

“Rwy’n edrych ymlaen at gael profiad dysgu uniongyrchol ar gyfarwyddo ac arsylwi mewn gofod ymarfer proffesiynol ac yn gyffrous i gymhwyso fy natblygiad fel myfyriwr yma yn PCYDDS i mewn i’r diwydiant. Dwi’n methu aros i weld y sioe hudol hon yn dod yn fyw!”

Mae Alice Pearson wedi cael y cyfle i gynorthwyo fel Cefnogaeth Dechnoleg a Chriw Llwyfan ar y cynhyrchiad, ac mae’n edrych ymlaen i ehangu ei rhwydwaith, dysgu mwy am y diwydiant, a datblygu’i sgiliau mewn amgylchedd perfformiad byw. Meddai:

“ Rwy’n edrych ymlaen yn arbennig at weithio ochr yn ochr ag ymarferwyr fel Cara Hood ac Eädyth Crawford. Fel rhywun sy’n angerddol am adrodd straeon sain a gweledol, mae’r cyfle i ddysgu gan dîm creadigol a thechnegol dan arweiniad menywod mewn maes sy’n aml yn cael ei ddominyddu gan ddynion yn arbennig o ystyrlon. Yn fwy na dim, rwy’n gyffrous am haf o gydweithio â phobl o’r un anian a helpu i ddod â’r stori hudolus hon i gynulleidfaoedd ledled Cymru.”

Ychwanegodd Nia Wyn Evans Cyfarwyddwr Busnes Arad Goch:

“Rydym yn Arad Goch yn falch o gynnig cyfle prin a gwerthfawr yma i fyfyrwyr Y Drindod i fynychu ymarferion a chael mewnwelediad uniongyrchol i gynhyrchiad byw a diwydiant rydym yn adnabod yn heriol i gael profiad a gwaith.

“Trwy gymryd y cyfle o gael profiad ar daith ‘Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau’ a phrofi cyd-gynhyrchied tri chwmni ledled Cymru, byddant yn ennill profiad amhrisiadwy a fydd yn cefnogi eu camau cyntaf yn y sector.” 

Meddai Angharad Jones Leefe, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Cymru

“Mae cefnogi talent newydd yn y byd theatr yn hynod bwysig i ni fel Theatr Cymru. Felly, ry’n ni’n falch iawn o gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr PCYDDS fod yn rhan o gynhyrchiad Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau – a hynny yng Nghaerfyrddin, sef cartref y cwmni. Bydd y cyfleoedd yma yn galluogi’r myfyrwyr i ddysgu’n uniongyrchol wrth arbenigwyr theatr a hefyd meithrin hyder, creadigrwydd a phrofiad ymarferol ar gynhyrchiad proffesiynol.”

Dywedodd Llinos Jones, Rheolwr Ymgysylltu Yr Egin:

“Mae Yr Egin yn rhan annatod o gampws PCYDDS yng Nghaerfyrddin.– yn ganolfan greadigol a digidol sy’n meithrin talent a chydweithio. Rydym yn falch iawn o gydweithio gyda Theatr Cymru ac Arad Goch ar y prosiect hwn, ac o allu cynnig y cyfle i’n myfyrwyr brofi gwefr a chyffro theatr fyw.

Rwy’n gobeithio y bydd y myfyrwyr yn manteisio ar y cyfle hwn i ddysgu, cysylltu â gweithwyr proffesiynol ym myd y theatr, a chryfhau eu dyheadau i ddatblygu gyrfa yn y diwydiant creadigol. Hoffwn hefyd ddiolch yn arbennig i’r staff creadigol sy’n gweithio ar y cynhyrchiad am roi o’u hamser a’u harbenigedd i ddatblygu a chefnogi’r genhedlaeth nesaf o dalent.

Bydd Dosbarth Miss Prydderch a Lleidr y Lleisiau yn agor yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin ar 6 Mehefin, cyn teithio ledled Cymru. Am fwy o wybodaeth am y daith, cliciwch yma


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon