Skip page header and navigation

Mae chwe myfyriwr blwyddyn olaf Twristiaeth a Digwyddiadau Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi llwyddo i drefnu a chynnal cynhadledd Future You Cymru yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe, gan groesawu cannoedd o gynrychiolwyr ac arweinwyr y diwydiant i ddigwyddiad gyrfaoedd ysbrydoledig.

A group of students standing in front of a large screen in an arena, with a table with daffodils in a glass jar in the centre.

Yn y digwyddiad, a gyflwynwyd mewn partneriaeth â’r Sefydliad Teithio a Thwristiaeth (ITT), gwelwyd 670 o gynrychiolwyr cynhadledd cofrestredig ochr yn ochr â stondinau diwydiant mewn arddangosfa yrfaoedd brysur, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr ac ymwelwyr gysylltu â gweithwyr proffesiynol blaenllaw o bob rhan o’r sectorau twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau.

Trefnwyd y gynhadledd gan fyfyrwyr Twristiaeth a Digwyddiadau Lefel 6, sef Carys Davies, Charlie Macdonald, Elijah Thomas, Nia Moores, Simon Canby, a Wiktoria Kuciarska, a arweiniodd y gwaith o gynllunio a chyflwyno’r digwyddiad ar raddfa fawr yn rhan o’u hastudiaethau.

Roedd y rhaglen yn cynnwys rhestr drawiadol o siaradwyr a oedd yn gyn-fyfyrwyr Twristiaeth a Digwyddiadau PCYDDS, sydd bellach yn gweithio ar draws y diwydiannau twristiaeth a lletygarwch byd-eang. Ymhlith y siaradwyr roedd Craig Jarrett, Is-lywydd Gweithrediadau yn Sodexo Live!; Kevin Hughes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yng Ngwestai Tai Hanesyddol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol; Ethan Scriven o ABTA; a Mel Bourke, Rheolwr Datblygu Busnes yn Stadiwm Swansea.com.

Ymhlith y siaradwyr eraill roedd Sinead Edwards o Heddlu Gwent, Lauren Fulford-Andrews, Sylfaenydd Mam-Me Tours a James Morgan, Cynhyrchydd Dysgu Creadigol yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe.

Ymhlith y cyflwynwyr roedd Claire Steiner o Fwrdd HCA, sy’n cynrychioli unig Ganolfan Ragoriaeth Twristiaeth Cymru; James Hayward o Celtic Collections ac Is-gadeirydd y Sefydliad Lletygarwch; a Sarah-Jane Roberts, Pennaeth Talent yn Au Vodka.

Rhannodd myfyrwyr presennol PCYDDS eu profiadau o ymuno â’r diwydiant, gan gynnwys Arwen Garland, enillydd Gweinydd Ifanc Cymru 2025, a Sophia Rabaiotti, a siaradodd am ei lleoliad yn gweithio ym maes gwibdeithiau ar y lan gyda Celebrity Cruises.

Canmolodd Jacqui Jones, Cyfarwyddwr y Rhaglen, y myfyrwyr am eu hymroddiad wrth ddarparu digwyddiad mor fawr.

“Roedd hwn yn gyflawniad anhygoel gan ein myfyrwyr Twristiaeth a Digwyddiadau Lefel 6. Mae trefnu cynhadledd ar y raddfa hon, gyda channoedd o gynrychiolwyr a dwsinau o bartneriaid diwydiant, yn gofyn am waith tîm, trefniadaeth a phroffesiynoldeb eithriadol. Fe wnaethant ddangos yn union y math o sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt yn y diwydiannau twristiaeth, lletygarwch a digwyddiadau.

“Gyda’r nifer fwyaf erioed o bobl yn bresennol ac ymgysylltiad cryf â’r diwydiant, mae Future You Cymru 2026 wedi gosod meincnod newydd ar gyfer y gynhadledd, gan osod safon uchel i’r digwyddiad nesaf yn 2027 ei ddilyn.”

Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys arddangosiad gyrfaoedd bywiog gyda 55 o sefydliadau yn arddangos cyfleoedd yn y sector. Roedd myfyrwyr o bob rhan o’r brifysgol yn cefnogi’r gynhadledd, gan gynnwys myfyrwyr Gastronomeg a baratôdd gacennau traddodiadol Cymreig ar gyfer y cynrychiolwyr.

Cydweithiodd ystod eang o adrannau’r brifysgol â thîm y digwyddiad i sicrhau ei lwyddiant, gan gynnwys y timau marchnata, cyfathrebu, cyn-fyfyrwyr, gyrfaoedd, ymgysylltu digidol, a chyfleusterau. Roedd myfyrwyr o’r rhaglenni lletygarwch a thwristiaeth hefyd yn cynorthwyo wrth gyflwyno’r digwyddiad, a darparwyd adloniant gyda chymorth cymuned PCYDDS.

Cefnogwyd y gynhadledd gan bartneriaid diwydiant gan gynnwys y Sefydliad Lletygarwch ac ABTA, ochr yn ochr â noddwyr fel Castell Howell a nifer o arddangoswyr o bob rhan o’r sector twristiaeth a lletygarwch.

Mae partneriaeth PCYDDS ag ATG Entertainment hefyd yn rhoi profiad ymarferol gwerthfawr i fyfyrwyr yn ystod eu hastudiaethau yn Arena Cymdeithas Adeiladu Abertawe. Diolch yn arbennig i Reolwr Cynadleddau’r Arena a chyn-fyfyriwr PCYDDS, Michaela Sargent, ynghyd â thîm technegol yr arena, am weithio’n agos gyda myfyrwyr i helpu i gyflwyno’r digwyddiad.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon