Skip page header and navigation

Yn ddiweddar, enillodd myfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) brofiad rhyngwladol amhrisiadwy ar ôl cefnogi Uwchgynhadledd Grymuso a Chynhwysiant Byd-eang gyda’r Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa.

Image of the group outside the UN summit in Geneva

Wedi’i threfnu gan Bernie Davies, Sylfaenydd Mastering Diversity, daeth yr uwchgynhadledd ag arweinwyr, siaradwyr a symbylwyr newid byd-eang ynghyd i archwilio themâu diwylliant, diplomyddiaeth, cynhwysiant, arweinyddiaeth, ac effaith gymdeithasol. Wedi’i gynnal ym mhencadlys mawreddog y Cenhedloedd Unedig, roedd y digwyddiad yn llwyfan ysbrydoledig ar gyfer trafodaethau ar adeiladu dyfodol mwy cynhwysol a chydweithredol.

Yn cynrychioli’r Brifysgol roedd dwy fyfyrwraig o’r cwrs Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth, a chwaraeodd ran weithredol yn y tîm gweithrediadau cyfryngau a digwyddiadau. Roedd eu cyfranogiad nhw yn cynnwys ffilmio’r digwyddiad, cynnal cyfweliadau gyda mynychwyr a chynrychiolwyr, a chefnogi’r gwaith ehangach o gyflawni’r uwchgynhadledd yn logistaidd.

Deborah, Angelika and Tamara in a group shot

Mae Angelika Janos, myfyrwraig Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth ar ei thrydedd flwyddyn, wedi datblygu diddordeb cryf yn y cyfryngau a chynllunio digwyddiadau yn ystod ei hastudiaethau. Gan gyfuno ei hangerdd am deithio a thwristiaeth gyda ffotograffiaeth a chynhyrchu cyfryngau, croesawodd Angelika y cyfle i gael profiad uniongyrchol mewn digwyddiad rhyngwladol.

Manteisiodd y fyfyrwraig ail flwyddyn Tamara Crookes hefyd ar y cyfle, gan ddefnyddio’r profiad i ddatblygu ymhellach ei hyder, ei sgiliau cyfathrebu a rheoli amser, a’i dealltwriaeth o weithrediadau digwyddiadau ar raddfa fawr.

Dywedodd Debbie Jenkins, Darlithydd Digwyddiadau a Thwristiaeth yn PCYDDS:

“Roedd hyn yn enghraifft o rymuso ar ei orau wrth i’n myfyrwyr brofi digwyddiad o’r safon hon yn uniongyrchol. Mae cyfleoedd fel hyn yn darparu’r cynhwysion ar gyfer llwyddiant cynaliadwy trwy helpu myfyrwyr i feithrin hyder, datblygu rhwydweithiau proffesiynol, a chael mewnwelediad i’w llwybrau gyrfa yn y dyfodol.”

Creda sylfaenydd yr uwchgynhadledd, Bernie Davies, ei bod yn rhaid i sgyrsiau ystyrlon ymestyn y tu hwnt i ystafelloedd cynadledda i ysbrydoli gweithredu a chreu newid parhaol. Mae’r athroniaeth hon yn cyd-fynd yn agos ag  ymrwymiad PCYDDS i ddysgu drwy brofiadau, lle mae myfyrwyr yn cael eu hannog i ymgysylltu’n uniongyrchol â diwydiant, herio eu safbwyntiau, a dysgu gan arweinwyr ac arbenigwyr byd-eang.

Wrth adfyfyrio ar y bartneriaeth gyda PCYDDS, dywedodd Bernie Davies:

“Mae eich arweinyddiaeth, eich anogaeth a’ch parodrwydd i greu cyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn profiadau ystyrlon, yn y byd go iawn yn parhau i gael effaith wirioneddol. Mewn byd lle mae llawer yn siarad am rymuso,  mae PCYDDS yn dangos hynny’n gyson trwy weithredu.

Nid yw’r cyfleoedd hyn yn ymwneud â mynychu digwyddiadau yn unig. Maent yn ymwneud â chael profiad, meithrin hyder, datblygu arweinyddiaeth, ymgysylltu rhyngwladol, a helpu pobl ifanc i ddeall bod eu lleisiau a’u sgiliau yn werthfawr ar lwyfannau byd-eang.”

Canmolodd hefyd gyfraniad y myfyrwyr, gan ychwanegu:

“Hoffwn gydnabod a diolch yn ffurfiol i Tamara Crookes ac Angelika Janos am eu hymrwymiad i gefnogi dogfennaeth yr uwchgynhadledd a’r gwaith ehangach o gyflawni’r digwyddiad yn logistaidd. Gwerthfawrogwyd eu proffesiynoldeb, eu parodrwydd i gynorthwyo, a’u dull tawel yn fawr.”


Gwybodaeth Bellach

Lowri Thomas

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus      
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus      
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk      
Ffôn: 07449 998476

Rhannwch yr eitem newyddion hon