Skip page header and navigation

Mae myfyrwyr peirianneg rhagorol o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi cael eu cydnabod gyda chyfres o wobrau o fri gan y diwydiant wrth iddynt ddathlu eu graddio yn Neuadd Brangwyn Abertawe.

A garduate and two lecturers smiling and standing proudly in their caps and gowns.

Yn y Seremoni Raddio ddydd Mercher 15 Gorffennaf, derbyniodd graddedigion o bob rhan o’r Ddisgyblaeth Beirianneg gymwysterau yn amrywio o Ddiplomâu Cenedlaethol Uwch a graddau baglor i raddau meistr. Yn ogystal cafodd pedwar myfyriwr eu hanrhydeddu am eu cyflawniad academaidd, eu hymrwymiad a’u datblygiad proffesiynol eithriadol.

Cyflwynwyd Gwobrau Teilyngdod Myfyrwyr Ymddiriedolaeth Addysgol Sefydliad Peirianwyr De Cymru (SWIEET) i Alex White (BEng Peirianneg Modurol), Tamzin Cooper (BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro) a Benjamin Hilton (BEng Peirianneg Beiciau Modur). Mae’r gwobrau’n cydnabod myfyrwyr sydd wedi dangos rhagoriaeth academaidd, ymroddiad cryf i’w gwaith ac ymrwymiad i ddatblygiad personol a phroffesiynol. Derbyniodd pob derbynnydd dystysgrif a gwobr ariannol.

Hefyd derbyniodd Tamzin Cooper Wobr Frederic Barnes Waldron Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) am y Myfyriwr Gorau, a gyflwynwyd gan Is-Ganghellor PCYDDS, yr Athro Elwen Evans yn ystod y Seremoni Raddio. Mae’r wobr yn cydnabod y myfyriwr israddedig sy’n cyflawni orau ar raglen sydd wedi’i hachredu gan yr IMechE ac sydd hefyd yn Aelod Cysylltiedig o’r Sefydliad.

Yn gynharach eleni, derbyniodd Nathan Evans, myfyriwr BEng Peirianneg Chwaraeon Moduro, Wobr Sefydliad y Peirianwyr Mecanyddol (IMechE) am y Prosiect Myfyrwyr Gorau yn Sioe Diwedd Blwyddyn yr Ysgol Beirianneg. Roedd hyn am ei brosiect ymchwil yn ymchwilio i’r defnydd o diwbiau ffeibr carbon ar gyfer cymwysiadau strwythurol.

Dywedodd Dr Greg Owen, Cyfarwyddwr Academaidd y Ddisgyblaeth Beirianneg yn PCYDDS:

“Mae graddio bob amser yn achlysur arbennig, gan roi cyfle i ddathlu gwaith caled, ymroddiad a chyflawniadau ein myfyrwyr wrth iddynt gymryd y cam nesaf ar eu teithiau proffesiynol. Rydym yn hynod falch o’n holl raddedigion ac yn falch iawn o weld nifer o fyfyrwyr yn derbyn cydnabyddiaeth ychwanegol trwy’r gwobrau o fri hyn gan y diwydiant.

“Mae Alex, Tamzin, Benjamin a Nathan wedi dangos ymrwymiad eithriadol, rhagoriaeth academaidd, ac angerdd am beirianneg trwy gydol eu hastudiaethau. Mae eu cyflawniadau’n adlewyrchu nid yn unig eu talent a’u penderfyniad fel unigolion ond hefyd y cysylltiadau cryf yr ydym yn parhau i’w hadeiladu gyda sefydliadau proffesiynol a phartneriaid diwydiant. Ar ran y Ddisgyblaeth Beirianneg, hoffwn eu llongyfarch i gyd a dymuno pob llwyddiant iddynt yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon