Myfyrwyr Seicoleg PCYDDS yn Dod â Dysgu Nadoligaidd i Townhill gyda’i EIRAddangosfa Nadolig
Croesawodd myfyrwyr o raglenni Seicoleg a Chwnsela Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) aelodau o’r gymuned leol i ddigwyddiad Nadoligaidd EIRAddangosfa Nadolig yng Nghanolfan Phoenix, Townhill.
Cyfunodd y digwyddiad hwyl tymhorol gyda chyflwyniadau diddorol i ymchwil seicolegol a llesiant, gan greu profiad deniadol a hygyrch i ymwelwyr o bob oed.
Cymerodd ymwelwyr ran mewn amrywiaeth o weithgareddau rhyngweithiol â thema Nadolig, gan gynnwys dyfalu hyd y tinsel, profi eu sgiliau cof drwy’r gêm boblogaidd “Grinch a’r Carwod Drygionus”, a dysgu strategaethau ymarferol ar gyfer ymdopi â’r straen sy’n aml yn gysylltiedig â chyfnod y Nadolig. Uchafbwynt y digwyddiad oedd y “Goeden Hunangyflawniad”, lle ychwanegodd cyfranogwyr beli addurniadol i gynrychioli nodau personol, cryfderau ac uchelgeisiau.
Darparodd yr arddangosfa gyfle i’r myfyrwyr rhyngwladol arddangos sut y gellir cymhwyso damcaniaeth a ymchwil seicolegol i sefyllfaoedd bywyd go iawn, gan hefyd annog sgyrsiau am lesiant meddyliol yn ystod tymor y Nadolig.
Dywedodd Dr Ceri Phelps, Rheolwr Rhaglen Seicoleg yn PCYDDS:
“Roedd yr EIRAddangosfa Nadolig yn enghraifft wych o’n myfyrwyr yn defnyddio eu gwybodaeth a’u creadigrwydd i ymgysylltu â’r gymuned ehangach. Mae digwyddiadau fel hyn yn dod â seicoleg yn fyw y tu allan i’r ystafell ddosbarth, ac maent yn dangos sut y gall deall ymddygiad dynol a llesiant wneud gwahaniaeth gwirioneddol, yn enwedig yn ystod cyfnod sy’n gallu bod yn heriol.”
Derbyniwyd y digwyddiad yn dda gan ymwelwyr ac roedd yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y brifysgol i ymgysylltu â’r gymuned, dysgu dan arweiniad myfyrwyr, a hyrwyddo llesiant meddyliol drwy addysg.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071