Skip page header and navigation

Mae myfyriwr aeddfed a gyfnewidiodd yrfa 16 mlynedd mewn peirianneg am astudiaethau addysg uwch wedi graddio gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gan baratoi’r ffordd ar gyfer gyrfa newydd mewn addysg gynradd.

A smiling and proud graduate standing in his cap and gown on the steps in front of a stone-walled building..

Graddiodd Tim Nicholas, 38, o Gasllwchwr, o gampws Abertawe PCYDDS gyda BA (Anrh) Troseddeg a Phlismona ar ôl dychwelyd i addysg yn 35 oed wrth gydbwyso bywyd teuluol a gwaith.

Wedi’i ysbrydoli gan ei ddau blentyn, roedd Tim eisiau dangos bod dysgu a thwf personol yn bosibl ar unrhyw adeg mewn bywyd.

Meddai: “Fy mhlant fu fy ysbrydoliaeth fwyaf gydol y daith hon, ac roeddwn i am ddangos iddyn nhw nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, eich herio eich hun, neu weithio tuag at nod newydd.”

Yn ystod ei astudiaethau, cyfunodd Tim ei waith academaidd â lleoliad gwirfoddoli cymorth iechyd meddwl, a arweiniodd yn uniongyrchol at rôl gyflogedig yn cefnogi pobl yn y gymuned. Roedd ei draethawd hir yn archwilio’r berthynas rhwng ADHD, theori labelu ac ymddygiad troseddol o fewn y system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr.

Meddai Tim: “Graddio gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yw’r llwyddiant academaidd sy’n rhoi’r balchder mwyaf i mi. Mae cwblhau gradd yn fyfyriwr aeddfed wedi adeiladu hyder yn fy ngallu deallusol fy hun ac wedi newid y ffordd rwy’n meddwl, darllen ac yn ymdrin â phroblemau.”

Dyma Tim hefyd yn canmol y cymorth a gafodd gan ei ddarlithydd, Laura Knight. Roedd ei harweiniad academaidd a’i hanogaeth hi yn help iddo lywio heriau personol wrth gwblhau ei astudiaethau.

Bydd Tim yn dychwelyd i PCYDDS ym mis Medi i astudio ar gyfer TAR Cynradd, gyda’r uchelgais o ddod yn athro ysgol gynradd.

Meddai: “Rydw i eisiau bod yn rhywun sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn gynnar ym mywyd plentyn. Mae fy astudiaethau mewn troseddeg a’m profiad mewn cymorth iechyd meddwl wedi cryfhau fy nghred y gall addysg chwarae rhan hanfodol wrth lunio dyfodol cadarnhaol.”


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon