Skip page header and navigation

Bydd Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn croesawu Tempo, Tempo!, arddangosfa arwyddocaol a ddatblygwyd mewn partneriaeth ag Artangel, sefydliad celfyddydau sy’n enwog ledled y byd, o 22 Hydref i 12 Rhagfyr. 

A mono image of a street in shadow with a lone figure walking.

Mae’r arddangosfa yn Stiwdio Griffith y Brifysgol yn Abertawe, yn dwyn ynghyd 1395 Days Without Red, prosiect ffilm cydweithredol uchel ei bri gan yr artistiaid Šejla Kamerić ac Anri Sala, ochr yn ochr â pherfformiad newydd sy’n ymateb i safle gan Raheel Khan, yr artist a chyfansoddwr o Lundain.

Datblygwyd y prosiect dros y tair blynedd diwethaf gan Alexander Duncan, darlithydd Celf Gain PCYDDS, mewn cydweithrediad ag Artangel a’r curaduron newydd, Jennifer Irving a Fiona Xintong Ye.

Mae’r arddangosfa’n canolbwyntio ar ddwy fersiwn wahanol o 1395 Days Without Red, a grëwyd gyda’r un ffilm ac sy’n rhannu’r un teitl, ond eto sy’n wahanol o ran y ffordd y cawsant eu golygu, o ran eu sain a’u rhythm naratif. Wedi’u cyflwyno gyda’i gilydd am y tro cyntaf ers eu première yn 2012, mae’r ffilmiau’n archwilio bywyd yn ystod Gwarchae Sarajevo, gan edrych ar themâu’r cof, trawma, galluogedd, a goresiad.

I gyd-fynd â’r arddangosfa, mae fersiwn a gomisiynwyd o’r newydd o performance 0 Raheel Khan, a grëwyd mewn ymateb i’r ffilmiau. Wedi’i berfformio gan gerddorion pres lleol yn Ystafell Ddarllen y Brifysgol, mae’r gwaith yn trawsnewid anadl, dirgryniad a sain yn brofiad trochol wedi’i siapio gan bensaernïaeth ac acwsteg y lleoliad.

Meddai Alexander Duncan, Darlithydd BA Celf Gain ac MA Deialogau Cyfoes yn PCYDDS: “Bu’n fraint gweithio gydag Artangel ar ddod â’r prosiect arwyddocaol hwn i Abertawe. 

“Mae Tempo, Tempo! yn creu cyfle prin i gynulleidfaoedd brofi’r ffilmiau anhygoel hyn gyda’i gilydd wrth ymgysylltu â chomisiwn byw sy’n ymateb yn uniongyrchol i’w themâu. Mae’r arddangosfa yn agor sgyrsiau pwysig ynghylch cof, cydweithredu, amser, a’r ffordd y gall celf ein helpu i adfyfyrio ar brofiad unigol a thorfol.”

Meddai Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau PCYDDS:“Mae’n bleser croesawu’r arddangosfa uchelgeisiol hon i Goleg Celf Abertawe. Mae gweithio gyda phartneriaid ag enw da rhyngwladol fel Artangel yn dangos cryfder ein hymrwymiad i arfer artistig cyfoes a chyfnewid diwylliannol. 

“Mae Tempo, Tempo! yn cynnig i fyfyrwyr, staff a’r gymuned ehangach gyfle unigryw i ddod i gysylltiad â chelf a pherfformiad cyfoes o’r radd flaenaf o fewn mannau creadigol unigryw’r Coleg.”

Bydd digwyddiadau lansio yn cael eu cynnal ar ddydd Iau, 22 Hydref, gyda pherfformiad Raheel Khan am 4pm yn yr Ystafell Ddarllen, wedi’i ddilyn gan ddathliad agoriadol o 5pm i 7pm yn Stiwdio Griffith.

Wedi’i sefydlu dros 30 mlynedd nol, caiff Artangel ei gydnabod ledled y byd am gomisiynu a chyflwyno prosiectau celf cyfoes uchelgeisiol mewn lleoliadau annisgwyl ar draws y DU a thu hwnt. Mae’r arddangosfa yn rhan o Gasgliad Artangel sy’n dod â darnau o waith ffilm a fideo arwyddocaol i orielau ac amgueddfeydd yn genedlaethol a rhyngwladol.

Capsiynau delweddau: Šejla Kamerić, 1359 Days Without Red, 2011 (ciplun o’r ffilm), trwy garedigrwydd yr artistiaid ac Artangel. Anri Sala, 1359 Days Without Red, 2011 (ciplun o’r ffilm), trwy garedigrwydd yr artistiaid ac Artangel.

A mono close up image of a woman wearing a dark shirt.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon