Skip page header and navigation

Bydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cynnal cyfarfod rhyngwladol sy’n cynnwys arweinwyr datblygol o bob rhan o’r Gymanwlad ddydd Llun 2 Chwefror, wrth i Sefydliad Arweinyddiaeth y Gymanwlad (CLI) ddod â’i ddigwyddiad blaenllaw ar gyfer Arweinwyr Ifanc i Ganolfan Dylan Thomas yn Abertawe, rhwng 1:00pm a 5:00pm.

Gwaith maen lliw tywod a ffenestri mawr siâp hanner lleuad Adeilad Dylan Thomas.

Dan y teitl Arwain y Tu Hwnt i Ffiniau: Pobl, Lle a Phwrpas, mae’r digwyddiad yn dwyn ynghyd Arweinwyr Ifanc y Gymanwlad, ymarferwyr profiadol, academyddion, a lleisiau byd-eang ar gyfer prynhawn o ysbrydoliaeth, deialog a chysylltu. Gellir archebu lle nawr trwy Eventbrite

Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Angelika Jasnos, myfyrwraig blwyddyn olaf ar y cwrs Rheolaeth Teithio a Thwristiaeth Ryngwladol sydd wedi’i phenodi’n ddiweddar yn un o Arweinwyr Ifanc y Gymanwlad. Fel rhan o’i rôl fel arweinydd, mae Angelika wedi dod â’r  cyfarfod rhyngwladol mawreddog hwn i Abertawe, gan groesawu Arweinwyr Ifanc o bob rhan o’r Gymanwlad i Gymru ac i’r Brifysgol.

Bydd tua 12 sgwrs fer (7–10 munud yr un) yn archwilio arweinyddiaeth mewn byd sydd wedi’i siapio gan newid, cyfle, a chysylltiad byd-eang.

Byddant yn canolbwyntio ar bobl, lle a phwrpas, gan dynnu sylw at deithiau arweinyddiaeth bersonol, gwersi a ddysgwyd, a myfyrdodau ar sut y gall arweinyddiaeth ystyrlon godi uwchlaw ffiniau, diwylliannau a chenedlaethau. Rhoddir pwyslais arbennig yn ystod y digwyddiad ar gynyddu lleisiau pobl ifanc, tra’n creu lle ar gyfer hyder, cydweithredu a deialog rhwng cenedlaethau.

Ymhlith y siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau mae’r canlynol:

Yr Athro Terry Stevens - sylfaenydd y rhaglenni twristiaeth a hamdden gwreiddiol yn Abertawe, 

Heledd Williams, Cyn fyfyrwraig a Phennaeth Digwyddiadau Busnes Cymru, Llywodraeth Cymru

Bernie Davies – Siaradwr Rhyngwladol ‘Mastering Diversity ‘ 

Jacqui Jones - Rheolwr Rhaglen Twristiaeth a Digwyddiadau yn PCYDDS a Chadeirydd Sefydliad Lletygarwch Cymru

Suki Collin - Sylfaenydd Pebbles Coaching & Wellbeing

Arweinwyr Ifanc y Gymanwlad a Siaradwyr Rhyngwladol

Angelika Jasnos

Sarah Davies

Will Beharrell

Kerry Robershaw

Michael Pervan 

Maverick Peter Seda 

Bydd y digwyddiad yn agor gyda gair o groeso gan yr Athro Gareth Davies, Deon Athrofa Rheolaeth ac Iechyd PCYDDS.

Meddai’r Athro Davies: “Rydym yn falch iawn o groesawu Sefydliad Arweinyddiaeth y Gymanwlad a grŵp mor ysbrydoledig o arweinwyr datblygol i Abertawe ac i Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Mae’r digwyddiad yn adlewyrchu gwerthoedd sy’n ganolog i’n cenhadaeth fel prifysgol, cydweithredu, cynhwysiant, ac arweinyddiaeth sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol yn lleol ac yn fyd-eang.

Mae’r digwyddiad hwn nid yn unig yn arddangos cryfder ein partneriaethau rhyngwladol ond hefyd yn tynnu sylw at yr effaith y gall ein myfyrwyr a’n graddedigion ei chael ar lwyfan y byd. Rydym yn arbennig o falch o Angelika Jasnos am helpu i ddod â’r cyfarfod mawreddog hwn i Gymru ac am ddangos y math o arweinyddiaeth hyderus, seiliedig ar werthoedd, yr ydym yn ceisio ei meithrin yn PCYDDS.

“Drwy ddod ag arweinwyr ifanc, ymarferwyr profiadol, a lleisiau byd-eang ynghyd yng nghanol Abertawe, rydym yn creu lle ar gyfer deialog ystyrlon, dysgu a rennir, a chysylltiadau a fydd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i ffiniau.”

Y tu hwnt i’r brif raglen, bydd siaradwyr ac arweinwyr y Gymanwlad hefyd yn profi dathliad o ddiwylliant, creadigrwydd a lletygarwch Cymru, ac yn cael profiad trochol o Gymru. Bydd yr ymweliad yn dod i ben gyda  phryd nos traddodiadol Gymreig, sy’n arddangos bwyd a chynnyrch lleol.

Mae’r digwyddiad nodedig hwn yn gwneud Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac Abertawe yn hybiau ar gyfer arweinyddiaeth ryngwladol, arloesi a chydweithio, tra’n dathlu Cymru fel cartref croesawgar ar gyfer deialog fyd-eang a’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon