Skip page header and navigation

Mae Canolfan Sophia Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mewn partneriaeth â Phrifysgol Dechnegol Yildiz, wedi cynnal cynhadledd ryngwladol fawr yn Istanbul, gan uno ysgolheigion o dri chyfandir.

Group photo of conference attendees outside venue

Cynhaliwyd y gynhadledd, o’r teitl, “Celestial Crossroads: Encounters, Intersections and Influences”, mewn partneriaeth â Phrifysgol Dechnegol Yildiz. Daeth y 40 siaradwr yn y gynhadledd o sefydliadau academaidd ledled Gogledd America, Ewrop ac Asia ac archwiliwyd berthnasoedd traws-ddiwylliannol yn hanes astroleg a seryddiaeth yn y byd hynafol a chanoloesol gyda ffocws ar drosglwyddo rhwng Ewrop ac Asia.

Aeth pum siaradwr yno o PCYDDS, ynghyd â phymtheg o fyfyrwyr ar-lein Canolfan Sophia, o ddeg gwlad wahanol, sy’n cynrychioli cyrhaeddiad byd-eang y Dyniaethau yn y Brifysgol. 

Cynhaliwyd y gynhadledd yn lleoliad godidog neuadd 14eg ganrif Prifysgol Dechnegol Yildiz ac fe’i darlledwyd ar-lein,  diolch i dîm technegol y brifysgol.

Roedd y pynciau yn cynnwys y defnydd o seryddiaeth ac astroleg yn llysoedd hynafol Persia a Thwrcaidd Ottomanaidd a’r berthynas rhwng astroleg a gwyddoniaeth a chrefydd.

Dywedodd Dr Özer Çınar, Prif Gynghorydd Rheithgor Prifysgol Dechnegol Yildiz, sydd â chyfrifoldeb am ymchwil a datblygu a materion rhyngwladol:

“Mae ein gwaith ar y cyd â Chanolfan Sophia a PCYDDS yn gyfraniad sylweddol i’n hallgymorth rhyngwladol ac rydym yn falch o gydweithio â Chymru. Mae cyfraniad academaidd Canolfan Sophia yn unigryw.”

Dywedodd Dr Nicholas Campion, cadeirydd y gynhadledd a chyfarwyddwr Canolfan Sophia:

 “Mae ein partneriaeth â Phrifysgol Dechnegol Yildiz wedi agor cysylltiadau academaidd newydd pwysig yn Nhwrci. Mae astudiaeth o le diwylliannol astroleg a seryddiaeth yn niwylliant dyn yn caniatáu mewnwelediadau allweddol i ni ar hanes a natur gwyddoniaeth, crefydd a’r celfyddydau.”

Mae Canolfan Sophia bellach wedi’i sefydlu fel canolfan academaidd flaenllaw yn y byd ar gyfer astudio ein hymgysylltiad diwylliannol â phob agwedd ar seryddiaeth. Mae’r ganolfan yn gyfrifol am addysgu’r rhaglen Meistr ar-lein mewn Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg.

Nick Campion shaking hands with with Dr. Özer Çınar, Chief Advisor to the Rector.

Hoffai PCYDDS a Chanolfan Sophia ddiolch i dri o’n graddedigion, Karine Dilanian, Alejo Lopez, a Mai Lootah, a wnaeth waith anhygoel fel pwyllgor y gynhadledd ac i Dr Frances Clynes o PCYDDS a chwaraeodd ran bwysig yng nghyfnod cynllunio cynnar y gynhadledd.

Bydd trafodion y gynhadledd yn cael eu cyhoeddi yng nghyfnodolyn academaidd Canolfan Sophia, sef Culture and Cosmos.

Mae rhagor o wybodaeth am MA S mewn Seryddiaeth ac Astroleg Ddiwylliannol PCYDDS ar gael yn: 
Seryddiaeth Ddiwylliannol ac Astroleg (Rhan amser) (MA) | Dysgu o Bell 4 Blynedd Rhan amser | Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant

Mae manylion y gynhadledd, gan gynnwys y rhaglen lawn, i’w gweld yn:  http://sophia-project.net/sp_sponsored/2026-istanbul/index.php

Mae rhagor o wybodaeth am Brifysgol Dechnegol Yildiz ar gael yn:
https://www.yildiz.edu.tr/en


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon