Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn cefnogi’r gydnabyddiaeth lwyddiannus mae Abertawe wedi’i chael fel Dinas Bioffilig drwy gyfranogiad dwy o’i chanolfannau ymchwil: Canolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) a Chanolfan Ymchwil UNESCO-MOST BRIDGES. Gyda’i gilydd maent yn cyfrannu arbenigedd ymchwil, ymgysylltiad myfyrwyr ac arloesedd cydweithredol i helpu i roi natur, llesiant a meddwl cynhwysol wrth wraidd datblygiad trefol yn Abertawe.

Two students viewing colourful art work on a wall.

Mae Abertawe bellach yn ymuno â rhwydwaith byd-eang o Ddinasoedd Bioffilig, gan gynnwys Barcelona, Singapore, a Los Angeles, sydd i gyd wedi’u hymrwymo i integreiddio natur i fywyd trefol i wella iechyd, gwytnwch ac ansawdd bywyd. Gwnaed y cyhoeddiad yn y gynhadledd Gwyrddio’r Ddinas – Addasu i Newid Hinsawdd, a drefnwyd gan Urban HQ, a ddaeth ag arweinwyr o’r llywodraeth, diwydiant a’r byd academaidd ynghyd i archwilio atebion seiliedig ar natur ar gyfer trawsnewid trefol.

Yn ganolog i gyfraniad PCYDDS mae REPAIR, prosiect a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) sy’n archwilio sut y gall ôl-osod bioffilig dwys helpu adeiladau a chymunedau presennol i addasu i’r hinsawdd sy’n newid. Gan weithio gyda phartneriaid ledled y ddinas, mae’r fenter bwysig hon yn dangos sut y gall ymgorffori natur yn yr amgylchedd adeiledig gefnogi dyfodol trefol mwy gwydn ac ymatebol. 

Prif astudiaeth achos y prosiect yw trawsnewid hen adeilad Woolworths yn Abertawe, sef y BIOME bellach, yn “adeilad byw” ôl-osodedig cyntaf y DU, gan integreiddio ardaloedd tai, masnachol a chymunedol gyda natur yn greiddiol iddynt. Gan ddefnyddio’r BIOME fel astudiaeth achos fyw, mae REPAIR yn archwilio sut y gall ôl-osod bioffilig dwys helpu dinasoedd i addasu i newid yn yr hinsawdd wrth wella llesiant, cryfhau cymunedau a chefnogi bioamrywiaeth.

Mae prosiect REPAIR yn dod â thîm trawsddisgyblaethol ynghyd o Brifysgol Abertawe, PCYDDS a Choleg Prifysgol Llundain (UCL), yn ogystal â phartneriaid cyhoeddus, preifat a chymunedol. Mae myfyrwyr o’r raglenni Patrymau Arwyneb a ThecstilauRheolaeth Adeiladu yn cymryd rhan weithredol, gan gyfuno dulliau creadigol a thechnegol i fynd i’r afael â heriau hinsawdd y byd go iawn.

Meddai Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru: “Mae’r fenter yn adlewyrchu ymrwymiad ehangach PCYDDS i gynaliadwyedd, datblygu sgiliau gwyrdd ac arloesi seiliedig ar le, gan alluogi myfyrwyr i ennill profiad wrth gyfrannu at ganlyniadau amgylcheddol a chymdeithasol cadarnhaol.”

Ychwanegodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau yn PCYDDS: “Mae REPAIR yn rhoi cyfle i’n myfyrwyr gymhwyso arfer creadigol i heriau amgylcheddol, gan gryfhau cysylltiadau rhwng pobl, natur a lle. Mae’r math hwn o gydweithredu rhyngddisgyblaethol yn helpu myfyrwyr i weld sut y gall eu sgiliau creadigol gyfrannu’n ystyrlon at ddyfodol mwy cynaliadwy ac ymatebol i’r hinsawdd.”

Meddai Yolanda Rendón Guerrero, Pensaer ac Ymchwilydd yng Nghanolfan Arloesi Technolegau Cynorthwyol (ATiC) PCYDDS a chyd-arweinydd prosiect REPAIR: “Rydym wedi ymrwymo i lunio dyfodol lle mae’r amgylchedd adeiledig yn addasol, yn cael ei arwain gan y gymuned, ac wedi’i wreiddio mewn hunaniaeth leol. 

“Trwy brosiect REPAIR, rydyn ni’n archwilio sut y gallwn wneud i hyn ddigwydd gan weithio’n agos gyda myfyrwyr a chymunedau lleol. Mae’r dull hwn yn helpu i adeiladu sgiliau, meithrin creadigrwydd, a chreu gweledigaeth gyffredin ar gyfer cymdogaethau sy’n barod ar gyfer yr hinsawdd. Mae’r gydnabyddiaeth i Abertawe yn adlewyrchu uchelgais cyffredin i adeiladu dinas wedi’i siapio gan natur, partneriaeth ac arloesedd seiliedig ar le, lle mae pobl a natur yn ffynnu gyda’i gilydd.”

Meddai Dr Luci Attala, Athro Anthropoleg a Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Clymblaid Fyd-eang UNESCO-MOST BRIDGES a Chyd-arweinydd prosiect REPAIR: “ Mae hyn yn fwy nag ailgynllunio dinasoedd. Y gwir her yw ysbrydoli ailfeddwl y gwerthoedd sy’n eu siapio. Mae dinas bioffilig yn gwneud mwy na chynnwys natur; mae’n cydnabod ein cyd-ddibyniaeth ddofn arni. Pan fydd cymunedau’n ymwneud yn ystyrlon â siapio eu hamgylcheddau, gallwn symud y tu hwnt i gynnal systemau nad ydynt bellach yn ein gwasanaethu a dechrau meithrin ffurfiau o fywyd sy’n fwy cyfiawn, mwy perthynol, ac yn fwy abl i ffynnu gyda’i gilydd.”

Capsiwn ar gyfer y ddelwedd uchaf: Samantha McGrath, myfyrwraig Patrwm Arwyneb a Thecstilau, yn cyflwyno arddangosfa gydweithredol wedi’i hysbrydoli gan Laura Ashley i Yolanda Rendón Guerrero, Cymrawd Arloesi ATiC a chyd-arweinydd REPAIR, yn adeilad Dynevor Coleg Celf Abertawe.

Delwedd isod: Cydweithwyr o’r Drindod Dewi Sant Gareth Evans a Brandon Roberts o Ganolfan Arloesi Adeiladu Cymru (CWIC) a’r fyfyrwraig Robyn Lewis o Reolaeth Adeiladu yn cwrdd ag Yolanda Rendón Guerrero, Cymrawd Arloesi ATiC a chyd-arweinydd REPAIR, i drafod cydweithio fel rhan o brosiect REPAIR.

Students sitting at a desk in a lecture room.

Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon