PCYDDS yn croesawu Strategaeth Diwylliant Abertawe fel Catalydd ar gyfer Sgiliau, Talent a Thwf Creadigol
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi croesawu lansio Strategaeth Diwylliant newydd Cyngor Abertawe 2026–2031, gan gydnabod bod yr ymrwymiad i ddysgu, datblygu sgiliau a chynyddu talent yn cyd-fynd yn agos â chenhadaeth y Brifysgol i drawsnewid addysg a chreu cyfleoedd i ddysgwyr ledled y rhanbarth.
Mae’r strategaeth pum mlynedd yn gosod diwylliant wrth wraidd datblygiad Abertawe yn y dyfodol, gan dynnu sylw at rôl addysg, ymchwil a chydweithredu wrth gefnogi twf economaidd, llesiant cymunedol, a bywiogrwydd diwylliannol.
Mae PCYDDS yn cynnig ystod o raglenni sy’n cefnogi’n uniongyrchol yr uchelgeisiau a amlinellir yn y strategaeth, gan gynnwys, Ffilm, y Cyfryngau, Animeiddio, Dylunio Graffig, Ffotograffiaeth, Cerddoriaeth, y Celfyddydau Perfformio, Treftadaeth Ddiwylliannol, Busnes a Marchnata, Twristiaeth a Rheolaeth Digwyddiadau, a rhaglenni prentisiaeth sy’n cysylltu dysgwyr â chyflogwyr ledled Cymru.
Mae ffocws y strategaeth ar gryfhau llwybrau talent drwy leoliadau, mentora, prentisiaethau ac ymgysylltu â’r diwydiant yn adlewyrchu ymrwymiad hirsefydlog PCYDDS i ddarparu profiad i fyfyrwyr o’r byd go iawn a chysylltiadau cryf â chyflogwyr.
Mae’r Brifysgol hefyd yn cyfrannu at economi ddiwylliannol a chreadigol Abertawe drwy ymchwil, arloesi a phartneriaethau â sefydliadau diwylliannol, busnesau a grwpiau cymunedol, gan helpu i greu cyfleoedd i fyfyrwyr, graddedigion a’r rhanbarth ehangach.
Dywedodd Dr Mark Cocks, Deon Athrofa Gwyddoniaeth a Chelf Cymru yn y Brifysgol: “Rydym yn croesawu’n gynnes Strategaeth Diwylliant Abertawe a’i chydnabyddiaeth o’r rôl bwysig y mae dysgu, sgiliau a datblygu talent yn ei chwarae wrth gefnogi ffyniant y ddinas yn y dyfodol. Mae’r uchelgeisiau a nodir yn y strategaeth yn cyd-fynd yn agos â’n hymrwymiad i drawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau.
“Drwy ein rhaglenni yn y diwydiannau creadigol, y cyfryngau digidol, y celfyddydau perfformio, treftadaeth, busnes a thwristiaeth, rydym yn helpu myfyrwyr i ddatblygu’r sgiliau, y profiad a’r cysylltiadau â diwydiant sydd eu hangen i lwyddo a chyfrannu at economi ddiwylliannol a chreadigol Abertawe.
“Edrychwn ymlaen at weithio gyda Chyngor Abertawe a phartneriaid ar draws y ddinas i gefnogi’r gwaith o gyflawni’r strategaeth, gan helpu i feithrin talent leol, cryfhau cymunedau a chreu cyfleoedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071