PCYDDS yn Cryfhau Cysylltiadau Byd-eang drwy COIL Rhyngwladol ar y cyd â Choleg Durham, Canada
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) wedi llwyddo i gyflwyno menter Dysgu Rhyngwladol Ar-lein Cydweithredol (COIL) arloesol gyda Choleg Durham, gan gynnig profiad dysgu rhyngwladol gwerthfawr i fyfyrwyr Addysg Plentyndod Cynnar heb yr angen i deithio. Daeth y prosiect â myfyrwyr PCYDDS , dan arweiniad y darlithydd Glenda Tinney, a chyfoedion o Goleg Durham yng Nghanada, a addysgwyd gan Corrine McCormick-Brighton, at ei gilydd gan alluogi’r ddau grŵp i archwilio addysg a gofal blynyddoedd cynnar ledled Cymru a Chanada drwy gydweithredu rhithwir.
Mae’r fenter yn nodi cam pwysig wrth ddatblygu partneriaethau rhyngwladol ar gyfer PCYDDS wrth wella profiad myfyrwyr trwy ymgysylltu byd-eang. Gan ddefnyddio trafodaethau ar-lein byw a llwyfannau digidol fel Padlet a Microsoft Teams, buodd y myfyrwyr yn cyfnewid syniadau, adfyfyrio ar arfer, ac archwilio themâu gan gynnwys amlieithrwydd, dysgu awyr agored, ac addysgeg y blynyddoedd cynnar.
Amlygodd Corrine McCormick-Brighton arwyddocâd y cyfle i’w myfyrwyr, gan bwysleisio gwerth dysgu’n uniongyrchol gan gyfoedion mewn gwlad arall:
“Trwy brofiad COIL fel athro Addysg Plentyndod Cynnar, cafodd fy myfyrwyr ECE o’r Ail Flwyddyn yng Ngholeg Durham gyfle i gydweithio â myfyrwyr Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a dysgu am addysg plentyndod cynnar o’u safbwynt nhw. Gan ddefnyddio bwrdd Padlet a llwyfannau cyfathrebu cydweithredol Microsoft Teams, fe wnaethom rannu adnoddau, syniadau addysgu, a thrafod sut y gall ystafelloedd dosbarth a phrofiadau dysgu i blant ifanc fod yn wahanol ac yn debyg rhwng gwledydd. Nod y profiad hwn oedd cryfhau sgiliau cyfathrebu a chydweithredu wrth gynyddu ymwybyddiaeth ddiwylliannol.”
Ychwanegodd fod y prosiect yn atgyfnerthu gwerth cydweithredu rhyngwladol wrth gyfoethogi arfer addysgu a chefnogi dulliau cynhwysol mewn addysg plentyndod cynnar.
Pwysleisiodd Glenda Tinney hefyd y manteision i fyfyrwyr PCYDDS:
“Roedd hyn yn brosiect hyfryd. Rhoddodd trafodaethau enghreifftiau o gefnogi amlieithrwydd ac ieithoedd lleiafrifol, ac roedd yn wych i’n myfyrwyr ddysgu sut mae Canada yn cymharu â Chymru wrth gefnogi gwahanol ieithoedd yn ystod plentyndod cynnar. Fe wnaethom hefyd archwilio chwarae a dysgu yn yr awyr agored fel elfennau canolog i’n dwy athroniaeth addysg. Roedd y cyfle i rannu syniadau yn amhrisiadwy, yn enwedig i fyfyrwyr nad ydynt yn gallu teithio’n rhyngwladol. Roedd COIL yn cynnig ffordd ystyrlon o adeiladu cysylltiadau byd-eang a chael mewnwelediadau rhyngwladol.”
Creodd y gwaith cydweithredol ofod deinamig ar gyfer adfyfyrio, elfen hanfodol o addysg plentyndod cynnar, gan ganiatáu i fyfyrwyr ystyried elfennau tebyg a gwahanol mewn polisi ac arfer ar draws y ddwy genedl. Roedd hefyd yn gyfle i archwilio heriau a rennir yn y sector blynyddoedd cynnar, gan gynnwys llesiant y gweithlu a datblygu amgylcheddau dysgu o ansawdd uchel.
Ymatebodd myfyrwyr PCYDDS yn gadarnhaol i’r profiad, gan werthfawrogi’r cyfle i ymgysylltu â chyfoedion yn rhyngwladol ac ehangu eu safbwyntiau.
Dywedodd Tamlyn Ogilvy, myfyriwr ar y cwrs Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar:
“Fe wnes i wir fwynhau dull rhyngwladol y sesiwn COIL a’r cyfle i gysylltu â myfyrwyr yng Nghanada sy’n astudio cwrs tebyg. Roeddwn i’n hoffi’n benodol y cysyniad o rannu profiadau a mewnwelediadau am yr hyn sy’n digwydd yn y ddwywlad a gweld beth sy’n cael ei wneud mewn ffordd debyg. Fe wnes i hefyd fwynhau bod yna gyfleoedd i ofyn cwestiynau trwy gydol y sesiwn.”
Atgyfnerthodd adborth gan fyfyrwyr Coleg Durham lwyddiant y prosiect ar y cyd ymhellach. Dywedodd Etney, myfyriwr Addysg Plentyndod Cynnar:
“Roeddwn i’n gweld y cyfle COIL yn ddiddorol ac yn ddefnyddiol iawn. Roeddwn i’n gwerthfawrogi dysgu am y gwahaniaethau a’r elfennau tebyg yn eu harferion nhw o’i gymharu â’n harferion ni. Er bod dulliau gwahanol, roedd yn ystyrlon gweld eu bod yn rhannu’r un ymrwymiad i ofalu am blant a’u blaenoriaethu. Roeddwn i hefyd yn ei chael hi’n werthfawr eu bod nhw wedi pwysleisio pa mor bwysig ydyw i addysgwyr plentyndod cynnar ofalu amdanyn nhw eu hunain i ddarparu’r gofal a’r addysgu gorau posibl.”
Mae’r fenter COIL yn dangos ymrwymiad parhaus PCYDDS i ddarparu cyfleoedd dysgu cynhwysol, wedi’u cysylltu’n fyd-eang. Trwy gael gwared ar rwystrau i ymgysylltu rhyngwladol, mae’r prosiect wedi galluogi myfyrwyr i ddatblygu ymwybyddiaeth ddiwylliannol, sgiliau cyfathrebu, a dealltwriaeth ehangach o addysg plentyndod cynnar mewn cyd-destun byd-eang.
Mae PCYDDS yn edrych ymlaen at adeiladu ar y peilot llwyddiannus hwn a datblygu partneriaeth hirdymor gyda Choleg Durham, gan greu cyfleoedd pellach i fyfyrwyr a staff gydweithio’n rhyngwladol. Meddai Kath Griffiths, Arweinydd Symudedd Rhyngwladol yn PCYDDS:
“Rydym yn falch iawn o weld y prosiect hwn yn dod yn fyw yn dilyn ein cyfarfod cychwynnol gyda chydweithwyr o Goleg Durham yng nghynhadledd Cymdeithas Addysg Ryngwladol Ewrop. Mae’r hyn a ddechreuodd fel sgwrs a rannwyd am ehangu mynediad at ddysgu byd-eang wedi datblygu’n brosiect cydweithredol ystyrlon sydd o fudd uniongyrchol i’n myfyrwyr. Mae’r fenter hon yn darparu profiad rhyngwladol gwerthfawr i fyfyrwyr astudiaethau plentyndod cynnar heb yr angen i deithio, gan ehangu eu safbwyntiau a gwella eu dealltwriaeth o arfer blynyddoedd cynnar ledled y byd.”
Cyfeiriadau:
Guth, S., & Rubin, J. (2015). How to get started with COIL. In A. S. Moore & S. Simon (Eds.), Globally networked teaching in the humanities (pp. 40–57). New York: Routledge.
Gwybodaeth Bellach
Lowri Thomas
Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: lowri.thomas@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07449 998476