PCYDDS yn Dathlu Partneriaeth Hirsefydlog gyda Phrifysgol Unedig Beijing yn ystod Ymweliad ag Abertawe
Roedd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn falch iawn o groesawu dirprwyaeth o Brifysgol Unedig Beijing (BUU) i’w champws yn SA1 Glannau Abertawe yr wythnos hon, gan nodi carreg filltir arwyddocaol mewn partneriaeth sydd wedi meithrin cyfnewid diwylliannol ac addysgol ers bron i ddau ddegawd.
Roedd yr ymweliad yn cyd-daro â dathliadau ugain mlwyddiant menter fyd-eang Athrofa Confucius ac amlygodd y cydweithredu parhaol rhwng PCYDDS a’r BUU, y mae eu partneriaeth wedi bod yn sail i Athrofa Confucius y Brifysgol er 2007.
Athrofa Confucius PCYDDS oedd y cyntaf i gael ei sefydlu yng Nghymru ac roedd ymhlith y cynharaf yn y DU. Bellach wedi’i lleoli yn Abertawe, mae’n chwarae rhan allweddol wrth hyrwyddo cyfnewid diwylliannol rhwng Cymru a Tsieina, gan gefnogi dysgu iaith, cyfleoedd addysgol, cydweithredu ar ymchwil, ac ymgysylltu â busnesau.
I ddathlu’r achlysur, llofnododd cynrychiolwyr o’r ddwy brifysgol Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) wedi’i adnewyddu, gan ailddatgan eu hymrwymiad i gryfhau cysylltiadau diwylliannol ac addysgol ar gyfer y dyfodol.
Bydd y cytundeb newydd yn parhau i gefnogi ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys y Flwyddyn Newydd Tsieineaidd, Gŵyl Canol Hydref, Gŵyl y Gwanwyn a dathliadau Gŵyl Cychod y Ddraig. Bydd hefyd yn parhau i gefnogi pum Ystafell Ddosbarth Athrofa Confucius ledled Gorllewin Cymru ac yn cynnal y rhaglenni cyfnewid myfyrwyr llwyddiannus sy’n gweld myfyrwyr BUU yn treulio sawl wythnos yn astudio ar gampysau PCYDDS yn Abertawe a Chaerfyrddin, tra bod myfyrwyr PCYDDS yn profi bywyd diwylliannol ac academaidd yn Beijing.
Meddai Dr Jeremy Smith, Deon yr Athrofa Addysg a’r Dyniaethau yn PCYDDS: “Mae ymweliad cydweithwyr o Brifysgol Unedig Beijing yn gyfle gwych i adnewyddu’r bartneriaeth hirsefydlog rhwng ein sefydliadau ac i adeiladu ar y sylfeini cryf yr ydym wedi’u sefydlu gyda’n gilydd dros nifer o flynyddoedd.
“Bydd yr ymrwymiad newydd hwn yn rhoi hwb newydd i’n huchelgeisiau diwylliannol ac addysgol cyffredin, gan gefnogi cyfleoedd i fyfyrwyr, staff a chymunedau yng Nghymru a Tsieina.”
Mae’r ymweliad yn adlewyrchu pwysigrwydd parhaus partneriaethau rhyngwladol wrth gyfoethogi profiad myfyrwyr a chryfhau dealltwriaeth fyd-eang trwy addysg a chyfnewid diwylliannol.
Capsiwn y llun: Y Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth yn cael ei lofnodi gan Peter Mannion, Prif Swyddog Gweithredu Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a’r Athro WU Hui, Ysgrifennydd Pwyllgor y Blaid ym Mhrifysgol Unedig Beijing.
Gwybodaeth Bellach
Rebecca Davies
Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk
Ffôn: 07384 467071