Skip page header and navigation

Mae’n bleser gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) gyhoeddi penodiad y cyn-fyfyrwraig Ms Tamara Dellutri, MA, LLM yn Athro Ymarfer, gan gydnabod ei chyfranogiad rhyngwladol fel seicdreiddiwr Lacanaidd, ysgolhaig rhyngddisgyblaethol, a chyd-siaradwr â maes y celfyddydau. Bydd ei phenodiad yn rhoi cyfleoedd unigryw i fyfyrwyr ymgysylltu’n uniongyrchol â dadleuon cyfoes ar groestoriad seicdreiddiad, arfer celf, y gyfraith, a deallusrwydd artiffisial, gan gyfoethogi addysgu ac ymchwil ar draws disgyblaethau.

A woman wearing glasses with her right hand raised to her face and wearing a multi-coloured top.

Dyfernir y teitl Athro Ymarfer i unigolion sydd wedi cyflawni rhagoriaeth broffesiynol neu academaidd sylweddol mewn meysydd sy’n cyd-fynd â gweledigaeth strategol y Brifysgol.Mae penodiad Tamara yn adlewyrchu ei statws rhyngwladol ym maes arfer seicdreiddiol a’i hymgysylltiad parhaus â chwestiynau goddrychedd, hunaniaeth, iechyd, y gyfraith a diwylliant yn y byd cyfoes.Mae Tamara, a gwblhaodd ei hastudiaethau yng Ngholeg Celf Abertawe, PCYDDS, gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Darlunio, a gradd Meistr mewn Deialogau Celf Cyfoes (tecstilau), yn ddiweddar wedi ennill gradd LLM mewn Iechyd y Cyhoedd a’r Gyfraith. Ar hyn o bryd mae’n ymgymryd ag astudiaethau ôl-raddedig mewn Seicoleg. 

A hithau wedi’i geni yn Buenos Aires, ymfudodd Tamara i’r Unol Daleithiau cyn ymgartrefu yng Nghymru yn 2005, tra’n cymudo i Lundain lle mae ganddi ei phrif bractis preifat. Wedi’i hyfforddi yn nhraddodiad seicdreiddiol Sigmund Freud a Jacques Lacan, mae Tamara yn aelod o’r International of the Forums: School of Psychoanalysis of the Lacanian Field (IF-EPFCL), yn aelod addysgu o Foro del Campo Lacaniano de México, ac yn aelod sefydlol o Lacan/UK lle mae’n cadeirio seminarau ar seicdreiddio a diwylliant mewn sgyrsiau â seicdreiddwyr ac ysgolheigion sy’n gweithio ledled y byd. 

Mae wedi cynnal seminarau clinigol ac anghlinigol ar seicdreiddio ar gyfer amrywiaeth o gynulleidfaoedd ledled y byd gan gynnwys, Israel, Ffrainc, Mecsico, Tsieina, Iran, yr Ariannin, a Sbaen. Yn ddiweddar, mae wedi cydweithio fel darlithydd gwadd ar y radd meistr mewn Arfer Clinigol mewn Seicdreiddio a Seicopatholeg ym Mhrifysgol Barcelona. 

Mae gan Tamara gefndir yn y celfyddydau gweledol, theori feirniadol, ac iechyd y cyhoedd a’r gyfraith ym Mhrydain, gyda ffocws ymchwil ar Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (CRPD). Mae ei hymchwil gyfredol sydd â gogwydd seicdreiddiol yn archwilio sut mae egwyddorion CRPD yn cael eu cynnal yn y DU a beth mae hyn yn ei ddatgelu am ragdybiaethau a disgwyliadau nas mynegir ar oddrychedd dynol o fewn a thu hwnt i systemau barnwrol a chosb Prydain.

Wrth groesawu’r penodiad, dywedodd yr Athro Sue Williams, Rheolwr Rhaglen Celf Gain: Safle, Stiwdio a Chyd-destun:”Rwy’n falch iawn o gael y cyfle i sefydlu maes ymchwil helaeth a chyffrous sy’n mynd i’r afael â materion AI yn erbyn y testun dynol a’r artist. Rwy wedi dilyn gwaith Tamara ers blynyddoedd lawer, ac rwy wedi gweld Tamara yn ymgysylltu â’r myfyrwyr ac yn ysgogi eu meddwl yn ystod ei darlithoedd ymweld. Mae hon yn foment amserol i gwestiynu’r effaith y gall deallusrwydd artiffisial ei chael ar arfer celf, yn ogystal ag archwilio’r berthynas rhwng seicdreiddio a chelf.”

“Fel artist wrth fy ngwaith, rwy’n gwerthfawrogi’r rhyddid i weithio rhwng bylchau, i ymdrin â gwirioneddau ac anwiredd, ac i ymddiried mewn greddf mewn byd sy’n cael ei siapio fwyfwy gan systemau technolegol. Rhaid bod lle i drafod bob amser.”

Fel rhan o’i phenodiad yn Athro Ymarfer, bydd Tamara yn cyflwyno darlith gyhoeddus dan y teitl Art, Love, Lust: On Humans and Thinking Machines, sy’n archwilio cysyniadau seicdreiddiol o gariad trosglwyddo, mewn perthynas â deallusrwydd artiffisial, arfer celf, a bywyd diwylliannol cyfoes. 

Dywedodd Caroline Thraves, Cyfarwyddwr Academaidd Celf a’r Cyfryngau: “Mae’r Drindod Dewi Sant yn falch o groesawu Tamara Dellutri yn ôl i’r Brifysgol yn y rôl newydd hon, gan ddathlu ei chyflawniadau proffesiynol a’i chyfraniad parhaus i fywyd deallusol a diwylliannol yng Nghymru a thu hwnt.”

Cynhelir y ddarlith sefydlu ddydd Mercher 11 Mawrth am 2.30pm.


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon