Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCDDS) wedi cyrraedd rhestr fer chwe chategori yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni (WUSCAs) eleni, gan dynnu sylw at gryfder ei phrofiad myfyrwyr ar draws ystod eang o feysydd.

Graduation 2025 on Carmarthen campus throwing hats in the air

Mae’r Brifysgol wedi derbyn enwebiadau yn y categorïau canlynol:

  • Darlithwyr ac Ansawdd Addysgu
  • Rhagolygon Gyrfa
  • Rhyngwladol
  • Cymorth i Fyfyrwyr
  • Ôl-raddedig
  • Neuaddau a Llety Myfyrwyr

Ystyrir y WUSCAs yn eang fel un o’r gwobrau mwyaf arwyddocaol yn sector addysg uwch y DU, gan eu bod yn seiliedig yn gyfan gwbl ar adolygiadau myfyrwyr. Eleni, casglwyd mwy na 43,000 o adolygiadau myfyrwyr wedi’u gwirio, gan wneud chwe enwebiad PCDDS yn gamp nodedig.

Mae’r gydnabyddiaeth yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus y Brifysgol i ddarparu profiad myfyrwyr o ansawdd uchel, wedi’i lunio gan lais ac adborth myfyrwyr.

Dywedodd yr Athro Mirjam Plantinga, Dirprwy Is-Ganghellor:

“Rydym wrth ein bodd o fod ar y rhestr fer mewn chwe chategori yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni eleni. Mae’r enwebiadau hyn yn arbennig o ystyrlon gan eu bod yn seiliedig yn gyfan gwbl ar adborth gan ein myfyrwyr. Mae’n dyst i ymroddiad ein staff a’r gymuned gefnogol, gynhwysol yr ydym yn ymdrechu i’w chreu ar draws ein holl gampysau.”


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon