Skip page header and navigation

Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) ar fin chwarae rhan allweddol wrth ehangu cyrhaeddiad byd-eang Cynghrair BRIDGES yn dilyn cymeradwyaeth ar gyfer Swyddfa Rhaglen Ranbarthol (RPO) newydd ar gyfer De Asia.

BRIDGES UNESCO Logo

Mae sefydlu’r swyddfa newydd, a gadarnhawyd yng nghyfarfod Cyngor Llywodraethu BRIDGES ar 26 Mehefin 2026, yn nodi carreg filltir arwyddocaol i’r rhwydwaith cynaliadwyedd rhyngwladol. Wedi’i lleoli yn GIFT City, Gujarat, India, bydd y Swyddfa Rhaglen Ranbarthol yn cael ei chynnal gan Sefydliad Byd-eang TryfactaEDU.

Bydd Swyddfa Rhaglen Ryngwladol (IPO) PCYDDS, gan weithio ochr yn ochr â Chyfarwyddiaeth BRIDGES, yn cydweithio’n agos â’r Sefydliad Byd-eang TryfactaEDU i sefydlu’r swyddfa newydd, gan gryfhau presenoldeb y Gynghrair ledled De Asia a chreu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio rhyngwladol mewn gwyddoniaeth gynaliadwyedd dan arweiniad y dyniaethau.

Mae’r Swyddfa Rhaglen Ranbarthol newydd yn rhan o strategaeth 2026–2028 Cynghrair BRIDGES i ehangu ei rhwydwaith byd-eang trwy ganolfannau rhanbarthol sy’n meithrin ymchwil, addysg a chyfnewid gwybodaeth rhyngddisgyblaethol. Bydd yn cefnogi twf partneriaethau ledled De Asia wrth helpu i gryfhau cysylltiadau rhwng cymunedau lleol, llunwyr polisi a’r gymuned wyddoniaeth gynaliadwyedd ryngwladol.

Wedi’i chynnal gan Sefydliad Byd-eang TryfactaEDU, sefydliad di-elw sydd wedi ymrwymo i ehangu mynediad at addysg ac ymchwil, bydd y swyddfa’n canolbwyntio ar hyrwyddo dulliau cynhwysol a rhyngddisgyblaethol o ran cynaliadwyedd. Bydd ei gwaith yn annog cydweithio ar draws disgyblaethau gan gynnwys addysg, cyfathrebu, y celfyddydau a’r dyniaethau, ochr yn ochr â gwyddoniaeth a thechnoleg, i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac amgylcheddol cymhleth.

Dywedodd yr Athro Luci Attala, Dirprwy Gyfarwyddwr Gweithredol Cynghrair UNESCO-MOST BRIDGES a Chyfarwyddwr Hwb BRIDGES y DU a’r Swyddfa Rhaglen Ryngwladol yn Y Drindod Dewi Sant:

“Mae sefydlu Swyddfa Rhaglen Ranbarthol De Asia yn ddatblygiad cyffrous i’r Drindod Dewi Sant a’r Gynghrair BRIDGES. Fel cartref y Swyddfa Rhaglen Ryngwladol, rydym yn falch o gefnogi twf byd-eang parhaus y Gynghrair ac o helpu i gryfhau partneriaethau ystyrlon sy’n gosod y dyniaethau wrth wraidd gwyddoniaeth gynaliadwyedd.

“Mae De Asia yn gartref i arbenigedd, arloesedd a gwybodaeth ddiwylliannol eithriadol. Gan weithio ochr yn ochr â Sefydliad Byd-eang TryfactaEDU, rydym yn edrych ymlaen at greu cyfleoedd newydd ar gyfer cydweithio a fydd yn cefnogi ymchwil, addysg ac ymgysylltu cymunedol, gan helpu i fynd i’r afael â rhai o’r heriau cynaliadwyedd mwyaf dybryd sy’n wynebu’r rhanbarth a’r byd ehangach.”

Bydd Swyddfa’r Rhaglen Ranbarthol hefyd yn cefnogi gweithredu Canllawiau UNESCO ar gyfer Gwyddoniaeth Gynaliadwyedd trwy annog ymgysylltu rhanbarthol, datblygu partneriaethau newydd a helpu i sefydlu sefydliadau a chanolfannau aelodau BRIDGES ychwanegol ledled De Asia.

Ychwanegodd yr Athro Steven Hartman, Cyfarwyddwr Gweithredol Sefydlol Cynghrair BRIDGES:

“Mae cymeradwyo Swyddfa Rhaglen Ranbarthol De Asia yn gam pwysig wrth gyflawni gweledigaeth strategol BRIDGES i adeiladu cynghrair wirioneddol fyd-eang ar gyfer gwyddoniaeth gynaliadwyedd dan arweiniad y dyniaethau. Trwy weithio gyda Sefydliad Byd-eang TryfactaEDU a’n cydweithwyr yn UWTSD, rydym yn creu platfform rhanbarthol cryf a fydd yn meithrin partneriaethau newydd, yn cefnogi cyfnewid gwybodaeth ac yn cryfhau cyfraniad y dyniaethau at drawsnewidiadau cynaliadwyedd.

“Mae’r cydweithrediad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y Gynghrair i ddatblygu rhwydweithiau rhanbarthol cynhwysol sy’n cysylltu arbenigedd rhyngwladol â gwybodaeth leol, gan sicrhau bod atebion cynaliadwyedd yn cael eu llunio gan safbwyntiau diwylliannol amrywiol a phrofiad cymunedol.”

Disgwylir i’r Swyddfa Rhaglen Ranbarthol ddod yn weithredol rhwng Gorffennaf a Medi 2026, gyda rhaglen lawn o weithgareddau gweinyddol a chydweithredol yn dechrau o Hydref 2026.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon