Prosiect ymchwil cydweithredol yn archwilio tirweddau morfeydd heli Gŵyr a Swydd Kerry, Iwerddon
Mae arddangosfa sy’n tynnu sylw at bwysigrwydd morfeydd heli Cwm Ivy, ar y Gŵyr a Derrymore, Swydd Kerry yn Iwerddon wedi agor yng Ngholeg Celf Abertawe y Drindod Dewi Sant.
Mae’r arddangosfa, amser a llanw, yn cynnwys gwaith Grace Cott, Alex Duncan, Eliza Fairchild a Ragna Hoogenboom ac mae’n ganlyniad i brosiect ymchwil cydweithredol rhwng y Drindod Dewi Sant ac ecolegwyr gwlyptiroedd yng Ngholeg Prifysgol Dulyn (UCD) a ariennir drwy raglen Catalydd yr UE a Sefydliad y Ddaear UCD.
Mae’r arddangosfa hon yn tynnu sylw at bwysigrwydd morfeydd heli drwy archwilio’r ymchwil newid yn yr hinsawdd sy’n mynd rhagddo yn morfa heli Ynys Derrymore ar arfordir de-orllewinol Iwerddon a’r dirwedd newidiol yng Nghors Cwm Ivy ym Mhenrhyn Gŵyr,. Mae’n archwilio themâu hinsawdd, amddiffynfeydd môr, a gadael i natur gymryd ei gwrs ac yn cynnig cyfle i ddelweddu ein tirwedd yn fertigol – creiddiau pridd dwfn, waliau môr wedi torri. Yn ogystal, mae’n cynnwys casgliad o draethodau yn seiliedig ar y ddwy forfa heli sydd wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg a’r Wyddeleg.
Meddai Alex Duncan, darlithydd ac ymchwilydd yng Ngholeg Celf Abertawe Y Drindod Dewi Sant:
“Mae ecosystemau morfa heli yn gorwedd ar y rhyngwyneb rhwng yr amgylcheddau morol a daearol ac yn rhannu nodweddion y ddau.
“Mae’r ecosystemau hyn yn cyflawni swyddogaethau hanfodol, megis amddiffyn yr arfordir a darparu cynefin i fywyd gwyllt, yn ogystal â gallu dal a storio carbon o’r atmosffer.
“Ers talwm, cawsant eu hystyried yn ardaloedd i’w hadennill, ond mae’r ecosystemau hyn wedi dod yn fwyfwy pwysig ar gyfer lliniaru newid hinsawdd ac addasu ein harfordiroedd i foroedd sy’n codi.”
Traddododd y tîm ymchwil hefyd ddarlith agored yng Ngholeg Abertawe Celf ochr yn ochr ag agoriad yr arddangosfa a fydd yn para tan 12 Rhagfyr 2026.
Mae’r grŵp yn bwriadu mynd â’r arddangosfa i Ddulyn yn 2027 i hyrwyddo’r cydweithrediad hwn rhwng gwyddoniaeth a chelf weledol.
Gwybodaeth Bellach
Eleri Beynon
Pennaeth
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus
E-bost: e.beynon@pcydds.ac.uk
Ffôn: 01267 676790