Skip page header and navigation

I Calum Fairbairn, mae dysgu Cymraeg wedi bod yn llawer mwy na dysgu ail iaith. Mae wedi ei helpu i fagu hyder, cysylltu â’i dreftadaeth a siapio ei uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol.

Twi images in one.  Profile photo of Calum with an image of Calum enjoying the quiz during Penwythnos y Glas
Calum yn mwynhau'r noson cwis yn ystod 'Penwythnos y Glas'

Mae Calum, sy’n dod o Garrog yn Sir Ddinbych, wedi tyfu i fyny mewn teulu di-Gymraeg ac wedi mynychu ysgol cyfrwng Saesneg. Bellach, mae’n astudio Addysg Gynradd gyda SAC ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS), gyda’r bwriad o weithio ym maes addysg cyfrwng Cymraeg.

Dechreuodd taith Calum gyda’r Gymraeg yn yr ysgol gynradd, lle cafodd ei ddysgu gan athrawon Cymraeg rhugl.

“Roedden nhw i gyd yn siarad Cymraeg yn rhugl, felly roeddwn i’n clywed Cymraeg bron bob dydd,” meddai Calum. “Er fy mod i wedi tyfu i fyny mewn teulu heb Gymraeg o gwbl, roedd y Gymraeg yn rhan enfawr o fy mhlentyndod.”

Wrth iddo dyfu’n hŷn, dechreuodd Calum ddysgu mwy am hanes y Gymraeg a’i dreftadaeth Gymreig ei hun. Roedd byw mewn cymuned Gymraeg gref yng Ngharrog a’r ardal o’i chwmpas hefyd wedi ei ysbrydoli i ddod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio’r iaith.

Daeth ei berthynas â’r Gymraeg yn arbennig o bwysig yn ystod ei flynyddoedd yn yr ysgol uwchradd. Er iddo gael cyfnodau anodd yn yr ysgol, roedd gwersi Cymraeg yn rhywbeth roedd yn eu mwynhau’n fawr, gyda chymorth athrawon ysbrydoledig yn yr adran Gymraeg.

“Yn ystod gwersi Cymraeg, roeddwn i’n gallu adnabod pethau bach roeddwn i wedi’u dysgu drwy glywed pobl yn y pentref yn siarad Cymraeg,” meddai. “Roedd hynny’n gwneud i ddysgu’r iaith deimlo’n haws.”

Erbyn iddo gyrraedd 15 neu 16 oed, roedd rhywbeth wedi clicio i Calum. Daeth yn fwy hyderus wrth siarad Cymraeg ac roedd yn gallu cael sgyrsiau go iawn gyda’i ffrindiau a oedd yn siarad Cymraeg fel iaith gyntaf.

Daeth un o’i eiliadau mwyaf cofiadwy wrth baratoi ar gyfer ei arholiad llafar TGAU Cymraeg.

“Roeddwn i’n gweithio gyda fy ffrind yn ymarfer ar gyfer yr arholiad a sylweddolais fy mod i’n deall pob gair ac yn gallu ateb yn glir ac yn hyderus,” meddai. “Roedd yn hwb mawr i’m hyder yn ystod cyfnod anodd.”

I Calum, mae magu hyder wedi bod yn un o’r heriau mwyaf wrth ddysgu Cymraeg. Mae’n disgrifio’i hun fel person mewnblyg, felly roedd siarad â phobl eraill mewn ail iaith yn gallu bod yn heriol ar adegau.

Fodd bynnag, mae cael ffrindiau sy’n siarad Cymraeg wedi gwneud gwahaniaeth mawr.

“Dw i’n meddwl bod gallu cyfathrebu’n ddwyieithog yn rhoi math o hyder i ti. Fel popeth, mae’n dod yn haws gydag amser,” meddai. “Gall fod yn anodd, ond y peth gorau i’w wneud yw jyst trio a pheidio meddwl gormod amdano.”

Mae’r hyder hwnnw hefyd wedi arwain at gyfleoedd a diddordebau newydd. Dywed Calum fod dysgu Cymraeg wedi rhoi angerdd iddo dros bynciau fel hanes a llenyddiaeth na fyddai efallai wedi’u darganfod fel arall, tra hefyd wedi ei helpu i fod yn fwy agored i brofiadau a chyfleoedd newydd.

Y cysylltiad cynyddol hwnnw â’r iaith oedd un o’r pethau a ddylanwadodd ar ei benderfyniad i ddod i PCYDDS.

“Dewisais Y Drindod Dewi Sant oherwydd teimlais i gartref ar unwaith yma,” meddai. “Mae yma naws debyg i drefi fel Llangollen a Rhuthun, ger lle ces i fy magu.””

Dewisodd Calum astudio Addysg Gynradd gyda SAC oherwydd ei fod eisiau astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ac, yn y pen draw, gweithio mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Fodd bynnag, roedd y penderfyniad hwnnw hefyd yn her sylweddol. Gan nad oedd wedi cael ei addysg ei hun drwy gyfrwng y Gymraeg o’r blaen, roedd astudio ei gwrs prifysgol yn Gymraeg yn gam mawr.

Dywed fod y gefnogaeth a gafodd gan ddarlithwyr a staff academaidd, ar Ddiwrnodau Agored a ers dechrau’r cwrs, wedi ei helpu i ddod yn fwy cyfforddus wrth ddefnyddio’r Gymraeg yn ei astudiaethau.

Mae newid mawr hefyd wedi bod yn y ffordd y mae’n gallu defnyddio’r iaith.

“Yn y gorffennol, doeddwn i ddim yn gallu defnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol,” meddai. “Rŵan dw i’n gallu defnyddio’r Gymraeg bob dydd yn y dosbarth ac y tu allan gyda ffrindiau yn fy fflat.”

Cymerodd Calum ran hefyd ym Mhenwythnos y Glas PCYDDS, cyfle i fyfyrwyr gwrdd ag eraill drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’n disgrifio’r profiad fel un gwych ac yn dweud iddo ddangos nad yw gweithgareddau Cymraeg ar gyfer pobl sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf yn unig.

“Roedd yn hyfryd bod mewn amgylchedd Cymraeg balch a chael hwyl ar yr un pryd,” meddai. “Dydy Penwythnos y Glas a’r gymuned Gymraeg yma ddim ar gyfer siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf neu bobl sy’n rhugl yn unig. Mae’n gyfle gwych i bawb, beth bynnag fo lefel eu Cymraeg, i gael hwyl drwy gyfrwng y Gymraeg.”

I Calum, mae dysgu Cymraeg yn ymwneud yn y pen draw â dod â phobl at ei gilydd.

Mae’n credu y dylai unrhyw un sy’n deall Cymraeg ond sy’n teimlo’n nerfus am ei siarad gymryd y cam cyntaf.

“Mae tua 600,000 o siaradwyr Cymraeg, felly dydych chi ddim ar eich pen eich hun,” meddai. “Dylai ieithoedd ddod â phobl at ei gilydd a rhoi cyfle i ti gysylltu ag eraill. Dw i’n meddwl bod siarad Cymraeg gyda phobl eraill yn gallu dy helpu i deimlo’n llai hunanymwybodol a nerfus dros amser.”

Ac ar Ddiwrnod Shwmae Su’mae, mae neges Calum i unrhyw un sy’n ystyried dysgu Cymraeg yn syml.

“Mae taith dysgu Cymraeg yn daith sy’n andros o hwyl,” meddai. “Dw i’n credu’n gryf y gall dysgu Cymraeg wella dy fywyd mewn nifer o ffyrdd gwahanol. Mae’n rhoi cyfle i ti wneud ffrindiau a chwrdd â phobl newydd, ac mae hefyd yn ffordd wych o ddiogelu diwylliant a hanes ein gwlad drwy ddysgu ein hiaith frodorol.”

I Calum, mae’r daith honno’n parhau yn y Drindod Dewi Sant lle mae iaith y daeth ar ei thraws gyntaf drwy ei athrawon yn yr ysgol gynradd bellach wedi dod yn rhan bwysig o’i fywyd prifysgol a’i uchelgais i ddod yn athro.


Gwybodaeth Bellach

Arwel Lloyd

Prif Swyddog Cyfathrebu a Chysylltiadau Cyhoeddus     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: arwel.lloyd@pcydds.ac.uk  
Ffôn: 07384 467076

Rhannwch yr eitem newyddion hon