Skip page header and navigation

Gyda gwres sy’n uwch nag erioed ac amodau sych hirfaith yn dod yn fwy cyffredin ledled y DU, mae Dr Alisdair Cunningham, uwch ddarlithydd mewn Rheoli Amgylcheddol a Chynaliadwyedd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn ystyried beth mae hinsawdd sy’n cynhesu yn ei olygu i’n dinasoedd, ein seilwaith, a’n cymunedau. 

A building frame partially silhouetted by the sun and skyline

Mae’r haf hwn wedi ein hatgoffa’n glir o’r newid hinsawdd yr ydym eisoes yn ei brofi yn y DU.  Erbyn canol Gorffennaf 2026, roedd tair ton wres wahanol wedi bod, gyda thymereddau o 35°C neu’n uwch yn cael eu cofnodi ym mis Mai, Mehefin a Gorffennaf am y tro cyntaf yng nghofnod tywydd y DU (y Swyddfa Dywydd 2026a).  Yn ogystal, mae amodau sych hirfaith wedi cyd-fynd â’r gwres.   Yng Nghymru, cafwyd dim ond 8% o’r cyfartaledd hirdymor o law ym mis Gorffennaf, gan roi’r mis ar y trywydd i fod y Gorffennaf sychaf yng Nghymru ers dechrau cofnodion 190 o flynyddoedd yn ôl (Cyfoeth Naturiol Cymru, 2026).

Mae’r amodau hyn yn adlewyrchu hinsawdd sy’n newid yn hytrach na haf eithriadol.  Mae hinsawdd y DU yn newid ac mae’r amodau a brofwyd yr haf hwn yn arwydd o’r heriau y bydd angen i’n hamgylcheddau trefol ddarparu fwyfwy ar eu cyfer.   Mae asesiad diweddaraf y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn rhagweld y gallai 92% o gartrefi presennol y DU fod mewn perygl o orboethi erbyn 2050, tra bod disgwyl i brinder dŵr ddod yn fwyfwy eang (Pwyllgor Newid Hinsawdd 2026a).

Beth mae ‘gorboethi’ yn ei olygu’n ymarferol?  Mewn adeiladau, mae gorboethi yn digwydd pan fydd yr amodau’r tu mewn yn rhagori ar yr hyn a ystyrir yn dderbyniol ar gyfer cysur thermol neu pan allan nhw effeithio’n andwyol ar iechyd dynol (CIBSE,2026). Ar gyfer cartrefi, mae dulliau asesu sefydledig yn ystyried pa mor aml y mae tymereddau y tu fewn yn rhagori ar lefelau cysur derbyniol a’r graddau y mae ystafelloedd gwely yn aros uwchlaw 26°C dros nos (Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, 2019). Mae hyn yn golygu ystyried pa mor dda mae dyluniad adeilad yn amddiffyn preswylwyr yn ystod cyfnodau hir o dymereddau uchel, yn hytrach na chanolbwyntio ar gysur yn unig yn ystod prynhawn poeth unigol. 

Dyluniwyd ein hamgylcheddau trefol yn bennaf o gwmpas hinsawdd y gorffennol.  Yn draddodiadol, mae adeiladau yn y DU wedi’u dylunio gyda phwyslais cryf ar gadw gwres yn ystod y gaeaf, tra bod llawer o’r deunyddiau a’r ffurfiau a ddefnyddir yn ein canolfannau trefol – gan gynnwys ardaloedd helaeth o balmentydd caled, concrit, briciau a tharmac, llystyfiant cyfyngedig a datblygiad trwchus – yn gallu amsugno a storio ynni solar a chyfrannu at yr effaith ynys wres drefol (Y Swyddfa Dywydd, 2026b).   Nid bwriad y nodweddion hyn o reidrwydd oedd creu amgylcheddau cynhesach, ond o dan amodau cynyddol eithafol maent yn gallu ymhelaethu gwres yn ein trefi a’n dinasoedd. 

Mae’r canlyniadau yn ymestyn ymhell y tu hwnt i’r amgylchedd.  Gall mwy o amlygiad at dymereddau eithafol effeithio’n anghymesur ar bobl agored i niwed, tra gall gwres gormodol amharu ar ysgolion, gweithleoedd a rhwydweithiau trafnidiaeth.  Yn ystod ton wres Mehefin 2026, adroddwyd bod 1,000 o ysgolion wedi’u cau neu fyrhau eu diwrnod ysgol oherwydd y tymereddau eithafol, gyda rhai ystafelloedd dosbarth yn cyrraedd tymereddau uwchben 49°C (Senedd y DU 2026). Yn ogystal, mae cyflogwyr wedi cael eu rhybuddio gan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch fod gwres eithafol yn creu risgiau i weithwyr a chynhyrchiant, yn enwedig i bobl sy’n gweithio yn yr awyr agored ac mewn amgylcheddau heriol yn gorfforol megis adeiladu (Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch 2026). Mae seilwaith drafnidiaeth yr un mor fregus:  yn ystod cyfnodau o wres eithafol yr haf hwn, cyrhaeddodd tymereddau trac rheilffyrdd ganol y 50au Celsius, gan ei wneud yn ofynnol i gyfyngu cyflymder ar y rheilffyrdd er mwyn cynnal diogelwch (Rheilffordd South Eastern, 2026). 

At ei gilydd, mae’r enghreifftiau hyn yn dangos sut y gall amodau amgylcheddol amlygu gwendidau yn nyluniad y llefydd a’r seilwaith y mae cymdeithas yn dibynnu arnynt. 

Os nad yw ein seilwaith presennol yn gallu gwrthsefyll yr amodau a brofwyd yr haf hwn, mae angen ailystyried yn frys sut rydym yn dylunio a rheoli ein hamgylcheddau trefol.  Mae hyn yn golygu bod datblygiadau newydd yn cael eu dylunio gydag amodau hinsoddol yn y dyfodol mewn golwg, gan ystyried hefyd sut y gallem ôl-ffitio’r adeiladau a’r seilwaith sydd gennym eisoes.  Mae gwella perfformiad thermol, awyru, cysgodi a gwytnwch yn her gynyddol bwysig ar gyfer adeiladau hŷn a threftadaeth yn benodol. 

Sut rydym yn rheoli dŵr yn brif ystyriaeth arall o dan hinsawdd gyda hafau poethach a digwyddiadau glawiad mwy dwys.   Er bod Cymru yn un o’r rhannau gwlypach yn y DU, mae amodau diweddar wedi dangos na ellir cymryd argaeledd dŵr yn ganiataol.  Yn hytrach na thrin dŵr glaw fel rhywbeth i’w dynnu o ardaloedd trefol yn unig, mae angen i ni ystyried sut y gellir dal, storio, a rheoli dŵr pan fydd hi’n bwrw glaw. 

Yn hanesyddol, mae seilwaith trefol wedi’i ddylunio i sianeli dŵr glaw o adeiladau a strydoedd ac i mewn i afonydd mor gyflym â phosibl.  Wrth i’n hinsawdd newid, mae angen i ni ailystyried yr ymagwedd hon.  Gall dulliau draenio cynaliadwy, mwy o lystyfiant, storfeydd dŵr naturiol, ac atebion eraill seiliedig ar natur ein helpu i reoli dŵr o fewn yr amgylchedd trefol ochr yn ochr â darparu cysgod, oeriad a buddion ehangach ar gyfer bioamrywiaeth a llesiant.  Ar yr un pryd, mae rhagamcanion hinsawdd yn dangos y bydd digwyddiadau glaw trymach a llifoedd afonydd brig uwch yn cynyddu’r risg o lifogydd, gan ddangos bod angen i addasiadau fynd i’r afael â chyfnodau o brinder dŵr a chyfnodau lle bydd gormod o ddŵr (Pwyllgor Newid Hinsawdd 2026a). 

Fodd bynnag, ni fydd atebion technegol yn unig yn ddigon.  Mae angen gweithlu arnom gyda’r wybodaeth a’r sgiliau i’w gweithredu, ochr yn ochr â phobl sy’n fodlon cwestiynu a yw arferion sefydledig yn parhau’n briodol ar gyfer yr amodau rydym bellach yn eu hwynebu.  Mae’r Pwyllgor Newid Hinsawdd wedi nodi bod cynnydd wrth addasu’r DU i newid hinsawdd yn parhau i fod yn rhy araf, gyda gweithredu ar draws llawer o sectorau’n dal i fod yn dameidiog ac yn annigonol er mwyn mynd i’r afael â maint y risgiau sydd o’n  blaenau (Pwyllgor Newid Hinsawdd 2025). 

Felly mae angen i gynllunwyr, penseiri, peirianwyr, ymarferwyr amgylcheddol a gweithwyr proffesiynol adeiladu yfory, allu herio ymagweddau a dyluniadau confensiynol ar gyfer yr hinsawdd rydym yn debygol o’i brofi, yn hytrach na dim ond yr hinsawdd rydym wedi’i brofi yn y gorffennol. 

Rydym yn addysgu myfyrwyr ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant i symud y tu hwnt i arferion hanesyddol a datblygu atebion mwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.  Boed trwy ddylunio adeiladau, deunyddiau a dulliau adeiladu newydd, dulliau rheoli dŵr gwell, neu ymgorffori prosesau naturiol i’n hamgylcheddau trefol, bydd y sgiliau a meysydd arbenigedd yn fwyfwy pwysig wrth fynd i’r afael â hinsawdd sy’n cynhesu ac yn fwy amrywiol. 

Y cwestiwn nawr yw pa mor barod ydym i ailfeddwl y ffordd rydym yn dylunio, adeiladu, a rheoli ein hamgylcheddau trefol fel eu bod yn aros yn wydn wrth i hafau fel hyn yn dod yn fwyfwy cyffredin. 

Cyfeirnodau

Chartered Institution of Building Services Engineers (CIBSE) (2026) TM59: Overheating risk in dwellings – a design stage methodology. Llundain: CIBSE.

Pwyllgor Newid Hinsawdd (2025) Progress in adapting to climate change: Adroddiad 2025 i’r Senedd.   Llundain: Pwyllgor Newid Hinsawdd.  Ar gael yn: Pwyllgor Newid Hinsawdd (Cyrchwyd: 17 Awst 2026).

Pwyllgor Newid Hinsawdd (2026a) A Well-Adapted UK:  The Fourth Independent Assessment of UK Climate Risk. Llundain: Pwyllgor Newid Hinsawdd. Ar gael yn: A Well-Adapted UK (Cyrchwyd: 17 Awst 2026).

The Guardian (2026) ‘“Children were calling for their mummies”: UK pupils struggle in 40C-plus classrooms’, The Guardian, 11 Gorffennaf. Ar gael yn: The Guardian (Cyrchwyd: 17 Awst 2026).

Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (2026) Risks to workers from extreme heat must be managed. Ar gael yn: Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (Cyrchwyd: 17 Awst 2026).

Y Swyddfa Dywydd (2026a) Heatwave continues as UK records unprecedented run of 35°C days. Exeter: Y Swyddfa Dywydd.  Ar gael yn: Y Swyddfa Dywydd (Cyrchwyd: 17 Awst 2026).

Y Swyddfa Dywydd (2026b) Climate change questions: Why are cities warmer than rural areas? Exeter: Y Swyddfa Dywydd. Ar gael yn: Gwybodaeth Hinsawdd y Swyddfa Dywydd (Cyrchwyd: 17 Awst 2026).

Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (2019) Research into overheating in new homes: Cam 1 Llundain: Y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol.  Ar gael yn: Adroddiad Llywodraeth y DU (Cyrchwyd: 17 Awst 2026).

Cyfoeth Naturiol Cymru (2026) Drought status extended across all of Wales as environment continues to feel the strain. Caerdydd: Cyfoeth Naturiol Cymru.  Ar gael yn: Cyfoeth Naturiol Cymru (Cyrchwyd: 17 Awst 2026).

South Eastern Railway (2026) Stakeholder update – Gorffennaf 2026. Ar gael yn: South Eastern Railway stakeholder update (Cyrchwyd: 17 Awst 2026).

Dr Alisdair Cunningham 

Mae gan Dr Alisdair Cunningham dros ddau ddegawd o brofiad proffesiynol ac academaidd mewn monitro amgylcheddol a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS).  

Gyda dros ddegawd o brofiad mewn ymgynghori, mae’n cyfuno cymwysiadau ymarferol, y byd go iawn i’w addysgu, gan bontio’r bwlch rhwng cysyniadau damcaniaethol a rheolaeth amgylcheddol gymhwysol.  

Mae Dr Cunningham wedi cymhwyso ei arbenigedd academaidd i gefnogi mentrau monitro amgylcheddol byd-eang ar draws sectorau megis coedwigaeth, ansawdd dŵr, amaethyddiaeth, a monitro seilwaith.  

Enillodd Dr Cunningham ei PhD mewn Synhwyro o Bell o Brifysgol Aberystwyth, lle canolbwyntiodd ei ymchwil ar ddadansoddi cyfres amser aml synhwyrydd ar gyfer monitro newid tirwedd yng Nghymru gan ddefnyddio technolegau arsylwi’r ddaear (EO).  

Mae profiad helaeth Alisdair o ddiwydiant a’i diddordebau ymchwil yn helpu i lywio ei addysgu ar draws ein portffolio israddedig ac ôl-raddedig, lle mae addysgu ar y rheng flaen ar ran arloesi yn y diwydiant. 


Gwybodaeth Bellach

Rebecca Davies

Swyddog Gweithredol Cysylltiadau â’r Wasg a’r Cyfryngau     
Cyfathrebu Corfforaethol a Chysylltiadau Cyhoeddus     
E-bost: rebecca.davies@pcydds.ac.uk     
Ffôn: 07384 467071

Rhannwch yr eitem newyddion hon